Neidio i'r prif gynnwy

Bydd menter newydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau i leihau eu heffaith carbon yn cael ei chyflymu a'i lansio yn y flwyddyn newydd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gweinidog wedi gofyn i Fanc Datblygu Cymru gyflymu ei gynlluniau ar gyfer cynllun datgarboneiddio buddsoddi i arbed, gyda thelerau mwy ffafriol ar gyfer busnesau sydd am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a mesurau effeithlonrwydd ynni.

Bydd cyflymu'r gwaith o gyflwyno'r cynllun yn galluogi busnesau ledled Cymru i gymryd camau ynghynt er mwyn buddsoddi mewn prosiectau sydd â'r nod o leihau faint o ynni maen nhw'n ei ddefnyddio a rheoli eu biliau ynni'n well. Bydd hyn yn darparu cymorth y mae ei angen yn fawr iawn ar adeg pan fydd costau busnes yn mynd yn uwch ac yn uwch, ac yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau economi wyrddach.

Wrth iddo siarad ar bumed pen-blwydd lansio Banc Datblygu Cymru – y banc datblygu rhanbarthol cyntaf yn y DU – dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Banc Datblygu Cymru bellach yn ased cenedlaethol sy'n rhoi cymorth i fusnesau ledled Cymru, gan eu helpu i fod yn fwy cadarn ac i dyfu a ffynnu.

"Yn ystod ei bum mlynedd gyntaf mae'r banc wedi rhagori ar ei dargedau ar gyfer buddsoddi, gan sicrhau effaith economaidd gwerth £1.2 biliwn.

"Mae fy nhrafodaethau â busnesau wedi dangos yn glir fod rhaid inni roi blaenoriaeth i leihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio a lleihau biliau yn y tymor hir. Rwyf bellach wedi gofyn i'r Banc Datblygu gyflymu'r gwaith o ddatblygu cynllun newydd a fydd yn helpu busnesau i fod yn Sero Net ar sail 'buddsoddi i arbed'. Bydd hyn yn galluogi busnesau i fenthyg arian er mwyn ariannu buddsoddiadau cyfalaf a fydd yn arwain at ddatgarboneiddio ar delerau mwy ffafriol ar gyfer ad-dalu, gyda chyfraddau llog mwy deniadol, gyda chymorth ehangach fel cymorth tuag ar gostau ymgynghori.

"Mae hwn yn gynllun lle mae pawb ar eu hennill – gan ei gwneud yn haws i fusnesau cymwys leihau costau ynni yn y dyfodol a rhoi hwb i'n huchelgais cyffredin ar gyfer Cymru wyrddach."

Mae'r Gweinidog hefyd wedi rhoi targed uchelgeisiol i'r Banc Datblygu ar gyfer buddsoddiadau ecwiti o £100 miliwn dros y 5–7 mlynedd nesaf.  

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae gan y buddsoddi hwn, ynghyd â buddsoddi ar y cyd gan y sector preifat, y potensial i ddarparu cyfalaf gwerth £250 miliwn ar gyfer busnesau arloesol – hwb cyfalaf y mae ei angen yn fawr iawn a fydd yn helpu i greu swyddi, ehangu sectorau sy’n tyfu a helpu i sicrhau dyfodol mwy ffyniannus ar gyfer Cymru.

"Yn wyneb heriau enfawr, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddefnyddio ei phwerau i ddarparu sicrwydd a chymorth ymarferol ar gyfer busnesau a gweithwyr, mewn partneriaeth tymor hir, er mwyn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach."

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru:

"Wrth i fusnesau wynebu ansicrwydd economaidd – gan gynnwys costau ynni uwch – mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cyflawni ein rôl i sicrhau bod economi Cymru yn sefydlog, ac yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau uchelgeisiol sydd am fuddsoddi er mwyn cyrraedd Sero Net.

"Rydyn ni'n credu yn gadarn mai buddsoddi mewn cynaliadwyedd amgylcheddol yw'r peth iawn i'w wneud – ond mae hefyd yn synnwyr cyffredin, gan helpu cwmnïau i fod yn fwy cadarn, yn fwy cystadleuol ac yn fwy deniadol i gwsmeriaid a gweithwyr talentog. Rydyn ni eisoes wedi lansio'r Fenter Cartrefi Gwyrdd i gefnogi datblygwyr eiddo, ac rydyn ni bellach yn cyflymu ein rhaglen cefnogi datgarboneiddio i ddiwallu'r anghenion taer hyn, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lle gwych ar gyfer busnesau.

"Dyma bumed pen-blwydd Banc Datblygu Cymru. Er fy mod yn falch iawn o'n gwaith a'r effaith rydyn ni wedi'i chael hyd yn hyn, yn ogystal â'r cysylltiadau cryf rydyn ni wedi'u meithrin gyda busnesau a rhanddeiliaid yng Nghymru, rwyf hefyd yn edrych ymlaen at barhau i ysgogi twf yn economi Cymru. Mae ein hanes fel un o fuddsoddwyr cyfalaf menter mwyaf gweithgar yn y DU a'n cysylltiadau â chydfuddsoddwyr yn y sector preifat yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ddarparu'r cyfalaf ecwiti sydd ei angen ar Gymru."