Neidio i'r prif gynnwy

Mae Banc Datblygu cyntaf y DU bellach wedi cael sêl bendith swyddogol gan Lywodraeth Cymru, a bydd ar waith erbyn mis Hydref dyna gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Banc Datblygu Cymru yn darparu'r cyllid twf a chymorth busnes sy'n angenrheidiol i ddenu a chadw busnesau micro, busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru.

Bydd yn ceisio cynhyrchu mwy na biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad i economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf, ac fel y cyntaf o'i fath yn y DU, bydd yn darparu Cymru gyda mantais fusnes gystadleuol dros weddill y DU.

Heddiw, mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cadarnhau y bydd £35 miliwn pellach o arian yr UE yn cael ei ychwanegu at Gronfa Busnes Cymru sy’n werth  £136 miliwn a gyhoeddwyd y llynedd i gefnogi busnesau newydd a busnesau micro.
Felly mae cyfanswm newydd y gronfa yn £171 miliwn a dywedodd   Ysgrifennydd yr Economi y byddai arian pellach ar gyfer y Banc Datblygu yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Meddai Ken Skates:

"Mae’n bleser gennyf gadarnhau, yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o'r achos busnes, y bydd Banc Datblygu Cymru ar waith ac y bydd ganddo bencadlys yng Ngogledd Cymru erbyn mis Hydref.

"Y Banc Datblygu hwn fydd y cyntaf o'i fath yn y DU, a bydd yn mynd i'r afael â methiannau cyfredol y farchnad ym maes cyllid busnes, gan ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio’n benodol ar fusnesau micro,  busnesau newydd bach a busnesau arloesol ledled Cymru, gan eu galluogi i ddatblygu’n fwy gwydn, yn fwy o ran maint ac yn gryfach.

"Bydd yn cynyddu’r cyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig i £80 miliwn y flwyddyn o fewn pum mlynedd ac rydym yn rhagweld, o gymryd i ystyriaeth trosoledd y sector preifat, y bydd hyn yn cael effaith drawsnewidiol o bosib ar economi Cymru o dros £170 miliwn y flwyddyn erbyn 2021/22.

“Er mwyn cefnogi’r Banc, rydym yn ehangu Cronfa Busnes Cymru gan £35 miliwn pellach gydag arian yr UE. Bydd hyn yn mynd â chyfanswm y gronfa i £171 miliwn, a bydd gennym newyddion am fwy o arian i gefnogi gwaith y Banc yn ddiweddarach eleni.

"Bydd gan y Banc Datblygu bresenoldeb ar draws Cymru gyfan, ond gyda'i bencadlys yn y Gogledd, ac rwy'n edrych ymlaen at lansiad ffurfiol y Banc ym mis Hydref."

Meddai Giles Thorley:

"Mae creu banc datblygu yn arloesol ac yn cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd y mae cyllid a gefnogir gan y Llywodraeth yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Bydd yn cael ei adeiladu ar sylfeini cadarn y sgiliau a'r profiad sydd eisoes ar gael o fewn y tîm.

"Mae poblogaeth BBaCh ffyniannus ledled Cymru gyfan yn hanfodol i sicrhau economi ffyniannus. Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda busnesau ac entrepreneuriaid uchelgeisiol, gwych dros y 15 mlynedd diwethaf ac yn edrych ymlaen at gefnogi hyd yn oed mwy ohonynt wrth i ni bontio i’r sefydliad newydd. "

Mae'r Banc Datblygu yn rhan allweddol o strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu Cymru fwy ffyniannus a diogel. Bydd yn wahanol i Cyllid Cymru, nid yn unig o ran y raddfa uwch o arian sydd ar gael, ond hefyd yn y ffordd y mae'n datblygu cynnyrch newydd. Bydd hyn yn cael ei lywio drwy greu uned wybodaeth gyda’r dasg o gynnal ymchwil i anghenion busnesau Cymru, gan alluogi ymateb gwell yn y pen draw i newidiadau yn y galw a’r cyflenwad yn y farchnad.

Daw’n fwy hunan-gyllidol dros amser, gyda’r model busnes yn tybio na fydd angen  cymorth grant arno mwyach ar gyfer costau gweithredol o'r flwyddyn nesaf ymlaen.