Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r trefniadau’n mynd rhagddyn nhw ar gyfer lansio Banc Datblygu Cymru yn hanner cyntaf flwyddyn nesaf.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Amcan y banc newydd fydd darparu rhagor na £1biliwn o gymorth buddsoddi i fusnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn i fusnesau micro i ganolig yng Nghymru allu cael cyllid, gwasanaethau cymorth a chyngor rheoli’n rhwydd. 

Bydd y Banc Datblygu’n creu ac yn diogelu dros 5500 o swyddi’r flwyddyn erbyn 2022 a bydd ei lefelau buddsoddi uniongyrchol blynyddol wedi cynyddu i £80m erbyn hynny. Fis diwethaf, cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi ei ddymuniad i weld sefydlu pencadlys y Banc Datblygu yn y Gogledd. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynllun busnes manwl ar gyfer Banc Datblygu Cymru sy’n golygu, cyn belled ag y caiff ei gymeradwyo gan y rheoleiddwyr, y gallwn wireddu’r nod o’i lansio yn hanner cyntaf 2017. 

“Wrth ddatblygu’r cynllun busnes, mae Cyllid Cymru wedi ymgynghori ag amrywiaeth o bartneriaid ac wedi ystyried yr heriau ariannol sy’n wynebu busnesau yng Nghymru, hynny er mwyn medru datblygu’r atebion mwyaf priodol. 

“Maen nhw’n gweithio’n glos hefyd â’r Swyddfa Ystagedau Gwladol a byd academia i ddatblygu Uned Ddeallusrwydd i gynnal ymchwil a gwaith i ddatblygu atebion newydd blaengar fydd yn helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu. 

“Bydd y Banc yn creu ac yn diogelu dros 5500 o swyddi’r flwyddyn erbyn 2022 a bydd ei lefelau buddsoddi uniongyrchol blynyddol wedi cynyddu i £80m erbyn hynny. 

“Rwyf am herio’r banc hefyd i roi gwerth ein harian inni, ac i weithio i sbarduno’r sector preifat i fuddsoddi lefelau uchelgeisiol i leihau costau pob swydd. 

“Mae’n bwysig cofio nad nod y Banc Datblygu yw cystadlu yn erbyn darparwyr cyllid eraill.  Rwyf am weithio gyda busnesau  a banciau, gan ddarparu unrhyw gyllid ychwanegol sydd ei angen. 

“Er bod marchnadoedd yng Nghymru wedi bod yn ailagor yn araf ond yn gyson ers y chwalfa gredyd, rydyn ni’n gwybod bod diffygion o hyd yn y farchnad mewn meysydd fel busnesau micro  a bach, busnesau newydd a busnesau entrepreneuraidd lle nad yw model y busnes wedi’i brofi eto. 

“Bydd Banc Datblygu Cymru’n rhoi help hanfodol i fusnesau o’r math hwn, gan eu helpu i gael at ffynonellau ariannu arloesol fel cyllido torfol.  Bydd yn adeiladu ar brofiad a llwyddiant Cyllid Cymru a fuddsoddodd dros £45m yn 2015/16 mewn busnesau yng Nghymru.  Arweiniodd hynny at sbarduno bron £65m yn ychwanegol o fuddsoddi a gweld dros £110m o gyfalaf twf yn cael ei wario yn economi Cymru. 

“Yn y pen draw, bydd y Banc yn rhan bwysig o’n strategaeth ar gyfer cefnogi busnesau a bydd yn ein helpu i adeiladu Cymru mwy ffyniannus a diogel.”

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod y cynllun busnes yn diwallu anghenion busnesau ac yn eu helpu i wireddu eu potensial.