Neidio i'r prif gynnwy

Mae menter newydd i ddarparu nwyddau hanfodol i aelwydydd sydd mewn cyni wedi cael ei lansio yn Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Cwtsh Mawr, 'banc pob dim' cyntaf Cymru, ei agor yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae banciau pob dim yn seiliedig ar y model banciau bwyd, ond maent yn darparu ystod ehangach o nwyddau nad ydynt yn ddarfodus, gan alluogi busnesau i ailddosbarthu eitemau sydd dros ben, heb eu gwerthu, i bobl am ddim.

Bydd Cwtch Mawr yn cael ei gefnogi gyda rhoddiadau gan Amazon a chwmniau eraill, gan gynnwys cadachau glanhau, eitemau ar gyfer y mislif, papur toiled, papur cegin a theganau. Disgwylir y bydd nwyddau cartref, bwyd, dillad, pethau ymolchi, dodrefn, dillad gwely, a nwyddau plant a babanod newydd, a rhai sy’n cael eu hailddefnyddio, yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Mae'r model banc pob dim yn annog busnesau i leihau gwastraff trwy greu banc o nwyddau cartref sydd dros ben. Mae Cwtch Mawr yn bwriadu rhoi dros 300,000 o nwyddau hanfodol sydd dros ben i 40,000 o deuluoedd mewn tlodi eleni.

Bydd Cwtch Mawr yn cael ei redeg gan yr elusen Faith in Families o Abertawe, gyda chymorth Gordon Brown ac Amazon, a gyd-sefydlodd y fenter ‘banciau pob dim.’ Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £125,000 ar gyfer sefydlu'r prosiect, gyda chymorth arall yn dod gan bartneriaid lleol gan gynnwys Cyngor Abertawe, Cymdeithas Tai Pobl a Sefydliad Moondance.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Mae’r Banc Pob Dim yn fodel ardderchog. Mae busnesau lleol yn rhoi nwyddau sydd wedyn yn cael eu rhoi am ddim i bobl mewn angen, gan eu helpu i arbed arian. Bydd Cwtch Mawr yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd yn wyneb yr argyfwng costau byw i gael gafael ar nwyddau a chymorth hanfodol yn hawdd, mewn un lle.

“Dyma esiampl wych o weithio mewn partneriaeth, lle mae’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol wedi dod ynghyd. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r prosiect hwn ac yn gobeithio ei weld yn tyfu dros y pum mlynedd nesaf.”

Dywedodd Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y DU:

“Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod gormod o lawer o deuluoedd yn ei chael hi’n wirioneddol anodd cael dau ben llinyn ynghyd o ddydd i ddydd oherwydd, yn syml, mae’r arian yn diflannu cyn diwedd pob mis. Rydyn ni wedi dylunio’r fenter Banc Pob Dim i dderbyn nwyddau sy’n cael eu dychwelyd, sydd dros ben neu y mae gormod ohonynt gan gwmnïau yn y DU. Drwy bartneriaid elusennol lleol, fel Faith in Families, gallwn roi eitemau fel cewynnau, dillad ysgol, cadachau a dillad gwely yn syth yn nwylo gweithwyr cymdeithasol, athrawon ac ymarferwyr iechyd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Mae’r partneriaid busnes sydd wedi ymuno â’n Cynghrair Trugaredd yn gallu mynd ati’n uniongyrchol i fodloni’r angen enbyd am ddillad cynnes, cynnyrch hylendid ac eitemau hanfodol y cartref i roi cymorth i’r bobl y mae ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.”

Dywedodd Cherrie Bija, Prif Weithredwr Faith in Families:

“Mae bywyd pawb yn gwella pan fydd pobl yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd. Mae Cwtch Mawr yn gydweithrediad rhwng gwahanol sectorau sy’n dymuno rhoi gobaith a chymorth i bobl sy’n wynebu rhai o’r sefyllfaoedd mwyaf heriol yma yn ein cymunedau ni. Fe all y cwtch Cymreig hwn drawsnewid Abertawe a’r De. Rhoi esgidiau pêl-droed newydd i blant er mwyn iddyn nhw allu chwarae i’w tîm ysgol, neu becynnau mamolaeth i famau newydd er mwyn iddyn nhw gael urddas wrth fynd i’r ysbyty – mae’r pethau hyn yn wirioneddol bwysig.  Prin y mae pobl yn ymdopi ar hyn o bryd. Mae anghysur a newyn yn dod yn bethau normal i blant, mae unigolion yn wynebu sefyllfaoedd diobaith. Bydd Cwtch Mawr yn gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl ac i’r blaned. Mae’n ateb gwrth-dlodi a gwrth-lygredd go iawn.”

Dywedodd John Boumphrey, Rheolwr Gwlad y DU, Amazon:

“Rydyn ni’n falch iawn o ddod â’r gynghrair hon o bartneriaid at ei gilydd i lansio Cwtch Mawr, Banc Pob Dim cyntaf Cymru. Mae’r Banciau sy’n bodoli eisoes yn cael effaith enfawr ar draws yr Alban a Manceinion Fwyaf, gan helpu teuluoedd sy’n wynebu tlodi yn ogystal â chyfrannu at economi fwy cylchol drwy wneud defnydd da o gynnyrch dros ben. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r cyd-weithwyr lu o bob rhan o Amazon sydd wedi cyfrannu eu harbenigedd logistaidd, eu brwdfrydedd dros arloesi, a’u hymrwymiad i helpu ein cymunedau lleol at y prosiect hwn ac a fydd yn ein galluogi i roi cymorth i ddegau o filoedd o deuluoedd ar draws de Cymru eleni, a thu hwnt.”

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

"Gyda banciau pob dim, bydd pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw yn gallu cael gafael ar nwyddau hanfodol am ddim, a all fod o fudd enfawr pan fydd cyllid y cartref yn dynn. Yn y cyfamser, bydd manwerthwyr yn gallu cefnogi'r economi gylchol, gan leihau eu hôl troed carbon, a chyfrannu at eu cymunedau lleol.

"Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn ymrwymo i gydweithio ag eraill i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae wedi bod yn bleser gweld yr effaith y mae'r cyfleuster hwn wedi'i chael ar y gymuned leol a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i fywydau llawer o bobl."