Ynghylch band eang yng Nghymru
Rydyn ni am i bawb allu cael mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym.
Pwy sy’n gyfrifol am fand eang yng Nghymru?
- Mae band eang yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, wedi'i lawn breifateiddio. Ofcom yw rheoleiddiwr y gwasanaethau cyfathrebu rydyn ni'n eu defnyddio ac yn dibynnu arnyn nhw bob dydd, gan gynnwys band eang.
- Llywodraeth y DU sydd â'r prif gyfrifoldeb am bolisïau band eang, ac mae ganddi gynlluniau i fuddsoddi £5 biliwn i ddarparu cysylltiadau ffeibr llawn ledled y DU.
- Nid yw’r maes hwn wedi cael ei ddatganoli i Gymru, ond mae gennyn ni rai pwerau eraill i weithredu. Rydyn ni wedi defnyddio'r rhain i fwy na dyblu argaeledd band eang cyflym ledled Cymru drwy ein rhaglen Cyflymu Cymru.
Gwnaeth Cyflymu Cymru drawsnewid tirwedd ddigidol Cymru, a bellach mae gan y rhan fwyaf o adeiladau ledled y wlad fynediad at wasanaeth band eang ffeibr cyflym. Gwnaethon ni’r gwaith hwn mewn partneriaeth â BT, gyda buddsoddiad sector cyhoeddus o dros £200 miliwn. Roedd hyn yn cynnwys arian gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad at fand eang ffibr cyflym ar gyfer bron i 733,000 o adeiladau ledled Cymru. Gwnaethon ni weithredu lle nad oedd gan y sector preifat unrhyw gynlluniau i wneud hynny. Mae hyn yn golygu na fyddai'r adeiladau hyn wedi cael mynediad at fand eang cyflym heb Gyflymu Cymru.
Fodd bynnag, mae rhai adeiladau o hyd nad oes ganddyn nhw fynediad at fand eang cyflym nad oes gan y sector preifat unrhyw gynlluniau ar eu cyfer. Fel rhan o'n hymdrechion i gyrraedd yr adeiladau hyn rydyn ni'n gweithio gydag Openreach i gyflwyno ffeibr llawn i fwy o adeiladau byth ledled Cymru. Mae Openreach yn gwneud y gwaith hwn gan ddefnyddio cyfuniad o gyllid cyhoeddus a phreifat. Mae hyn yn cynnwys cyllid o’r UE.
Nid oes un ateb sengl ar gyfer yr adeiladau sydd ar ôl, ac mae'r prosiect i gyflwyno band eang ffeibr llawn yn un ymhlith nifer o fesurau.
Rydyn ni eisoes wedi darparu band eang di-wifr cyflym i sawl barc busnes ac ystad ddiwydiannol, ac mae gennym sawl cynllun grant a phrosiect sy'n helpu unigolion, busnesau a chymunedau i ddod o hyd i atebion arloesol er mwyn sicrhau cysylltiadau.