Cronfa i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol.
Cynnwys
Trosolwg o’r Gronfa Band Eang Lleol
Rydym wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol. Dyma un rhan o’n gwaith i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar seilwaith digidol cyflym a dibynadwy.
Drwy’r gronfa mae awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol yn gallu darparu datrysiadau band eang arloesol i gymunedau a rhannau o Gymru nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu manteisio ar gyflymderau band eang o 30Mbps.
Y broses ymgeisio
Gwnewch gais am gyllid yn ystod cyfnod ymgeisio.
Mae awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol yn cael eu hannog i gydweithio drwy:
- nodi cymunedau
- darparu datrysiadau creadigol o ran cysylltedd
Bydd ceisiadau gan sefydliadau unigol hefyd yn cael eu derbyn.
Mae cyllid ar gael er mwyn:
- darparu band eang cyflym a dibynadwy i’r rhannau hynny o Gymru sydd hebddo ar hyn o bryd
- creu seilwaith band eang newydd gan gynnwys cyfleusterau ôl-drosglwyddo data
- uwchraddio’r seilwaith band eang presennol
Bydd ffurflen gais a chanllawiau ar gael yma pan fydd y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau.
Yr hyn ddylech ei wneud os ydych yn breswylydd neu’n fusnes
Gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol i wybod a oes ganddynt gynlluniau i gyflwyno band eang yn eich ardal drwy ein Cronfa
Band Eang Lleol. Mae gan rai awdurdodau lleol swyddogion band eang penodol a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau o ran cysylltedd. Yr awdurdodau lleol hynny yw:
- Ynys Môn
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Sir Fynwy
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Wrecsam
Os nad yw eich awdurdod lleol wedi’i restru uchod, cysylltwch â’ch awdurdod yn uniongyrchol.
Os nad oes unrhyw gynlluniau lleol ar gyfer eich ardal, mae’n bosibl y bydd opsiynau eraill ar gael ichi ar gyfer band eang cyflymach. Ewch i’n tudalen ‘Pa opsiynau sydd gennyf?’.