Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pa gyllid sydd ar gael er mwyn cael gafael ar fand eang cyflymach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym am sicrhau bod cartrefi a busnesau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gysylltedd digidol cyflym a dibynadwy. I gael gwybod rhagor am yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru i gyflawni hyn darllenwch ein Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Mae gan y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau ledled Cymru fynediad at gysylltedd digidol o ansawdd da. Rydym wedi buddsoddi arian cyhoeddus sylweddol i helpu i gyflawni hyn drwy gyflwyno technoleg band eang ffibr. 

Cyn ymchwilio i opsiynau ariannu defnyddiwch declyn gwirio cyfeiriadau Openreach i ddarganfod a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. 

Os oes band eang ffibr ar gael, mae angen i chi uwchraddio i gael cyflymder cyflymach. Ni fydd eich band eang presennol yn newid oni bai eich bod yn uwchraddio. Darganfyddwch sut i archebu gwasanaeth band eang ffeibr.

Mae yna gyflenwyr eraill sy’n darparu rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.

Os nad oes band eang cyflym ar gael yn eich eiddo, mae opsiynau eraill er mwyn cael y cyflymderau band eang sydd eu hangen arnoch. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol i osod band eang cyflymach.

Prosiect Gigabit

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw polisi cysylltedd digidol a thelathrebu. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targedau uchelgeisiol i ddarparu band eang ffibr llawn i 85% o eiddo yn y DU erbyn 2025. Maent yn cyflawni yng Nghymru drwy eu rhaglen Prosiect Gigabit flaenllaw gwerth £5 biliwn.

Ewch i wefan Llywodraeth y DU am fwy o wybodaeth am Brosiect Gigabit.

 

Cynlluniau band eang awdurdodau lleol

Mae gan rai awdurdodau lleol swyddogion band eang a all eich helpu gyda'ch cwestiynau band eang. Mae cynlluniau cyflwyno band eang eu hunain gan awdurdodau lleol hefyd. Gwnaethom ddatblygu Cronfa Band Eang Lleol wedi'i hanelu at awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i'w helpu i gyflawni'r cynlluniau hyn.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld a ydych wedi’ch cynnwys mewn cynlluniau band eang lleol.

Atebion ar gyfer cymunedau

Os yw eich eiddo'n agos at gartrefi a busnesau eraill sydd angen cyflymderau band eang uwch, gallech ddod at eich gilydd i ddod o hyd i ateb cymunedol. Gall “agos” fod yn gymharol mewn cymuned wledig ond efallai mai uno ag eraill yw'r opsiwn gorau o hyd i gael cyflymderau uwch. Yn y lle cyntaf, byddem yn argymell eich bod yn siarad â'ch cymdogion i ddarganfod y galw, magu diddordeb a gweld pwy arall yn eich cymuned a all helpu.

Dylech edrych ar y gwahanol opsiynau technoleg ar gyfer cael band eang cyflymach i ddod o hyd i’r opsiwn gorau ar gyfer eich cymuned. Gallwch hefyd gael ysbrydoliaeth gan atebion band eang cymunedau go iawn.

Efallai y bydd cymorth ar gael gan Lywodraeth y DU i gysylltu cymunedau gwledig â band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit.

Dysgwch fwy am Gynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU.

Cyllid ar gyfer eiddo unigol

Os nad ydych yn rhan o gymuned sydd angen band eang cyflymach, mae opsiynau ar gael ar gyfer eiddo unigol.

Mae'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) yn fenter gan Lywodraeth y DU sydd wedi'i chynllunio i roi'r hawl gyfreithiol i aelwydydd a busnesau ofyn am gysylltiad band eang fforddiadwy a theilwng. Ofcom sy'n gyfrifol am weithredu'r USO gyda'r gwaith o'i gyflawni gan BT.

Dysgwch fwy am y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol ar wefan Ofcom.

Mae rhagor o wybodaeth am yr USO, gan gynnwys teclyn gwirio  cymhwysedd, hefyd ar gael ar wefan BT neu drwy ffonio 0800 783 0223.

Mae ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru hefyd yn cefnogi’r gwaith o gynnig atebion i gartrefi a busnesau drwy ddarparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd.

Opsiynau Technoleg

Mae llawer o adeiladau’n defnyddio cysylltiadau ffeibr ond mae technolegau newydd yn cael eu datblygu i gysylltu cartrefi a busnesau.  Os na allwch gael gwasanaeth band eang cyflym ar hyn o bryd, dylech ystyried yr holl atebion sydd ar gael. Mae'r rhain yn cynnwys:

Ateb band eang 4G

Efallai y bydd eiddo'n gallu cael mynediad at gysylltiad band eang cyflym drwy lwybrydd 4G. Nid yw'n golygu defnyddio ffôn symudol ac nid oes angen ceblau na llinell ffôn arnoch. Gall atodi antena allanol ar ochr eich eiddo roi mynediad mewn ardaloedd lle nad yw signal 4G yn gryf dan do. Mae gan Ofcom declyn gwirio argaeledd darpariaeth symudol sy'n dangos cryfder signal lleol. Mae pecynnau data diderfyn ar gael gan nifer o ddarparwyr. Ewch i wefannau gweithredwyr ffonau symudol unigol i gymharu tariffau.

Cysylltiad di-wifr sefydlog

Defnyddir antena i godi signal band eang o fast i ddarparu band eang i'ch eiddo, gan ddileu'r angen am linellau cebl neu ffôn.

Cysylltiad lloeren

Mae lloeren yn trosglwyddo data i ddysgl ac o ddysgl sydd ynghlwm wrth eich eiddo i ddod â band eang i chi. Mae hyn yn darparu cyflymderau lawrlwytho cyflym iawn a dylent fod ar gael ym mhobman. Gall technolegau newydd fel Orbit Isel y Ddaear (LEO) neu Loeren y Genhedlaeth Nesaf ddarparu cyflymderau o dros 100Mbps. Mae pecynnau data diderfyn ar gael.