Neidio i'r prif gynnwy

Mae bargen newydd wedi cael ei lansio i sicrhau bod Cymru yn cyrraedd ei thargedau ynni adnewyddadwy, wrth sicrhau'r manteision mwyaf posibl i gymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Bargen y Sector Ynni Adnewyddadwy yn bartneriaeth strategol rhwng Llywodraeth Cymru a diwydiant, a fydd yn canolbwyntio ar ryddhau potensial economaidd llawn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'n cyd-fynd â chyhoeddi'r adroddiad diweddaraf ar Gynhyrchu a Defnyddio Ynni yng Nghymru, sy'n dangos bod cynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru yn 2024 yn cyfateb i 54% o'r trydan mae'n ei ddefnyddio.

Y targed yw i drydan adnewyddadwy fodloni 70% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio erbyn 2030, a 100% erbyn 2035, wrth hefyd ddarparu o leiaf 1.5 gigawat o gapasiti ynni adnewyddadwy lleol erbyn 2035.

Bydd Bargen y Sector yn helpu i gyflawni'r targedau uchelgeisiol hyn drwy gyflymu defnyddio ynni adnewyddadwy ar draws ynni gwynt ar y tir a'r môr, ynni solar, ynni morol ac ynni hydro. Ei nod hefyd yw atgyfnerthu cadwyni cyflenwi, adeiladu gweithlu at y dyfodol a sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn mwynhau'r manteision.

Lansiodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Fargen y Sector wrth iddi ymweld â phrosiect ynni llanw Morlais, ar Ynys Môn.

Mae Cynllun Morlais – y mae gan Lywodraeth Cymru gyfran ecwiti gwerth £8 miliwn ynddo – yn eiddo i'r fenter gymdeithasol Menter Môn, a'r cynllun hwn fydd y prosiect ynni llanw mwyaf yn Ewrop.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Ein huchelgais yw dod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, gan greu swyddi a thwf gwyrdd i wneud teuluoedd yng Nghymru yn fwy ffyniannus ac i helpu gyda chostau byw.

“Mae’r gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol wedi tynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd bod yn annibynnol o ran ynni. Bydd ein Bargen ar gyfer y Sector Ynni Adnewyddadwy yn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol – er bydd ein heconomi, ein hamgylchedd a’n diogelwch ynni.

"Mae prosiect Morlais yn enghraifft dda o sut y gall partneriaeth barhaus ryddhau adnoddau ynni naturiol Cymru a'u troi'n gyfleoedd economaidd parhaol i gymunedau a busnesau lleol.

"Mae'r adroddiad ar Gynhyrchu a Defnyddio Ynni hefyd yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd tuag at ein targedau ynni adnewyddadwy. Os ydyn ni'n cyfuno hyn â'r 20 o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr, â chyfanswm o 1,400 MW, a fydd yn derbyn cymorth yn rownd ocsiwn ddiweddaraf Contractau ar gyfer Gwahaniaeth gan Lywodraeth y DU, mae'n amlwg ein bod yn creu amgylchedd ar gyfer dyfodol mwy gwydn, sy'n cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy."

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:

Mae Bargen y Sector Ynni Adnewyddadwy yn gam bwysig wrth gyflymu twf ynni adnewyddadwy yng Nghymru a ledled y DU. Ar gyfer Menter Môn, mae’n cydnabod y rôl bwysig y gall cynlluniau ynni morol fel Morlais ei chwarae wrth atgyfnerthu diogelwch ynni, creu swydd o ansawdd uchel a sicrhau manteision economaidd hirdymor ar gyfer cymunedau fel Ynys Môn.”

Cafodd Bargen y Sector ei chynhyrchu ar y cyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen o ddatblygwyr a sefydliadau cymunedol.