Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bargeinion Twf y Gogledd a’r Canolbarth i gyrraedd cerrig milltir mawr dros y dyddiau nesaf, fydd yn golygu y bydd pob rhanbarth o Gymru yn cael eu cynnwys o fewn bargen twf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gytundeb derfynol ar gyfer Bargen Twf y Gogledd i’w llofnodi yfory (dydd Iau, 17 Rhagfyr) mewn digwyddiad byw rhithwir wedi’i ffrydio’n fyw. Caiff y Fargen ei chefnogi gyda £120 miliwn yr un gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.   

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, ar 22 Rhagfyr disgwylir cyhoeddiad am Fargen Dwf y Canolbarth gyda chynrychiolwyr cynghorau sirol Powys a Cheredigion yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.    

Mae gan y ddwy fargen y potensial o drawsnewid economïau y ddwy ranbarth drwy gefnogi twf gwyrdd a chynaliadwy. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru: 

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn hynod anodd a heriol i fusnesau ledled Cymru, a rydyn ni’n gwybod bod mwy o heriau i ddod wrth inni barhau i ddelio gydag effeithiau’r pandemig. 

“Dwi’n falch, fodd bynnag, ein bod yn gallu symud ymlaen gyda bargeinion twf y Gogledd a’r Canolbarth cyn diwedd y flwyddyn hon, fydd yn hollbwysig yn y dyfodol.  Dwi’n edrych ymlaen at lofnodi y Cytundeb 

Terfynol ar gyfer Bargen Twf y Gogledd heddiw, sy’n ganlyniad gwaith partneriaeth gwych gan bawb.”   

Meddai Ysgrifennydd Cymru Simon Hart:

“Mae’r bargeinion twf sy’n cael eu darparu ledled Cymru yn helpu inni ail-adeiladu yn well a gwyrddach o effaith andwyol COVID-19.

“Mae datblygiad bargeinion y Gogledd a’r Canolbarth yn golygu y bydd llawer o Gymru yn cael eu cynnwys gan y rhaglen hon, gan gynnig cefnogaeth gadarn i ystod o brosiectau – bach a mawr – fydd yn adfywio economïau lleol ac yn creu swyddi at y dyfodol.”   

Meddai Is-Gadeirydd y Bwrdd ac Arweinydd Cyngor Wrecsam Mark Pritchard:

Bydd llofnodi Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ddiwrnod hanesyddol i'r rhanbarth. Mae cyrraedd y cam hwn wedi dod yn bosibl, drwy gydweithrediad cefnogol ein partneriaid.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ein helpu i gyflawni'r garreg filltir hon. Bydd yn ddechrau taith gyffrous a fydd yn adeiladu Gogledd Cymru fwy gwydn, cynaliadwy a bywiog.

“Rydym wrth ein boddau y bydd cymuned ehangach Gogledd Cymru yn gallu ymuno â'n darllediad byw o'r arwyddion; i ddathlu'r foment hanesyddol hon gyda ni.

Meddai Arweinwyr Cynghorau Ceredigion a Phowys Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris:

“Rydyn ni’n hynod falch o sicrhau datblygiadau gyda’r Llywodraethau sy’n symud Bargen Twf y Canolbarth ymlaen, fydd yn golygu y bydd y rhanbarth mewn sefyllfa dda i ddechrau llunio’r Portffolio o fuddsoddiadau posibl dros y 15 mlynedd nesaf.”