Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a oedd yn edrych yn fanylach ar y rhesymau am foddhad neu anfodlonrwydd â meddygon teulu a gwasanaethau ysbyty'r GIG ar gyfer Ebrill 2014 i Mawrth 2015.

Prif bwyntiau

Y ffactorau mwyaf dylanwadol o ran boddhad cyffredinol â gofal meddygol gwasanaethau meddyg teulu yw:

  • boddhad o gael yr holl wybodaeth angenrheidiol yn yr apwyntiad
  • teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff meddygol
  • teimlo bod y meddyg yn ymwybodol o wybodaeth gefndir berthnasol a hanes meddygol.

Y ffactorau mwyaf dylanwadol o ran boddhad cyffredinol ag agweddau meddygol o wasanaethau ysbyty yw:

  • teimlo bod staff meddygol yn ymwybodol o wybodaeth gefndir berthnasol a hanes meddygol
  • teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff meddygol
  • teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am driniaeth.

Adroddiadau

Barn am wasanaethau iechyd arolwg ail-gysylltu (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2014 i Mawrth 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.