Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y ffactorau sy'n egluro orau sut mae pobl yn teimlo am eu hardal leol.

Canfyddiadau allweddol

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n ddiogel yn y gwahanol sefyllfaoedd yr holwyd amdanynt. Mae teimladau o fod yn ddiogel a pherthyn yn amrywio yn ôl ble mae pobl yn byw, eu hagweddau a'u nodweddion.

  • Roedd pobl mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol yn gyffredinol o deimlo'n anniogel a theimlo nad oeddent yn perthyn i'r ardal leol.
  • Roedd pobl fwyaf tebygol o deimlo'n anniogel wrth gerdded yn y dref neu ddinas agosaf ar ôl iddi dywyllu, ac roedd y rhai oedd yn teimlo fel hyn yn fwy tebygol o fod yn fenywod, pobl hŷn a'r rhai â theimladau negyddol am yr ardal.
  • Roedd pobl llawer llai tebygol o deimlo'n anniogel yn y cartref, ond roedd y rhai oedd yn teimlo felly yn fwy tebygol o fod yn wael eu hiechyd ac yn iau.
  • Roedd teimlo'n anfodlon â'r ardal leol yn rhagfynegydd pwysig am deimlo'n anniogel mewn amrywiol sefyllfaoedd, gan awgrymu bod seicoleg teimlo'n anniogel yn rhagfynegydd allweddol.
  • Pobl mewn ardaloedd trefol oedd y mwyaf tebygol o deimlo nad oeddent yn perthyn i'r ardal leol.
  • Y rhagfynegydd cryfaf o ddiffyg synnwyr o berthyn oedd teimlo'n anfodlon iawn â'r ardal leol.
  • Roedd diffyg teimladau cymdogol hefyd yn rhagfynegydd cryf ar gyfer person yn teimlo nad oedd yn perthyn i ardal.

Adroddiadau

Barn pobl am eu hardal leol (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.