Neidio i'r prif gynnwy

At ddiben yr ymchwil hon, holwyd sampl o bobl Cymru ym mis Mawrth 2022 i ddeall yn well faint y maent yn ei wybod am iechyd planhigion a rhywogaethau goresgynnol estron a’u hymwybyddiaeth o’r pwnc.

Prif ganfyddiadau

Dywedodd y rhan fwyaf o’r rheini a ymatebodd fod effeithiau clefydau a phlâu planhigion a rhywogaethau goresgynnol estron yn bwysig, yn lleol ac yn genedlaethol. Ond dywedodd y mwyafrif mai’r risg fwyaf i iechyd planhigion yw diffyg gwybodaeth, ymwybyddiaeth a chymhellion i newid ymddygiad. Y newid yn yr hinsawdd yw’r risg fwyaf nesaf.

Dywedwyd mai’r mesurau bioddiogelwch gorau ar gyfer arafu lledaeniad rhywogaethau goresgynnol estron fyddai gwybodaeth ynghylch sut i’w rheoli neu eu difa, arwyddion ac offer glanhau mewn mannau cyhoeddus a hyrwyddo’r defnydd o rywogaethau brodorol.

Nid oedd y mwyafrif wedi chwilio na gofyn am wybodaeth am blâu a chlefydau planhigion. Dywedodd 40% eu bod yn cofio gweld, clywed neu ddarllen rhywbeth am blâu a chlefydau planhigion a choed; o’r rheini a oedd wedi gweld gwybodaeth, roedd bron eu hanner yn credu ei bod yn hawdd ei deall a chael ati.

Y ffactorau fyddai fwyaf tebygol o atal ymatebwyr rhag gweithredu oedd anwybodaeth ynghylch pa gamau i’w cymryd, diffyg adnoddau (e.e. arian) i wneud beth sydd ei angen a diffyg awdurdod i wneud yr hyn sydd ei angen.

Adroddiadau

Safbwyntiau’r cyhoedd ar iechyd planhigion a rhywogaethau estron , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Safbwyntiau’r cyhoedd ar iechyd planhigion a rhywogaethau estron , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 241 KB

PDF
241 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rossana Palma

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.