Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng y 26 a 31 Mawrth 2020

Cynhaliodd Croeso Cymru arolwg ffôn gyda 402 o fusnesau twristiaeth yn ymwneud â:

  • llety â gwasanaeth
  • hunanarlwyo
  • carafanau a gwersylloedd
  • hosteli
  • atyniadau
  • darparwyr gweithgareddau
  • bwytai
  • tafarndai
  • chaffis

Mae'r sefyllfa o ran COVID-19 yn symud yn gyflym iawn. Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn tua wythnos ar ôl i'r Prif Weinidog ofyn gyntaf i'r cyhoedd aros gartref oni bai bod angen teithio, gan annog cau busnesau sy'n cynnig cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol dros dro.

Effaith ar staff

C6 Roedd y nifer uchaf wedi ymateb gyda ‘Wedi gorfod gofyn i staff gymryd absenoldeb â thâl’ - 50% o ymatebwyr - a ‘Wedi gorfod gofyn i staff gymryd absenoldeb di-dâl’ - 35% o’r ymatebwyr.

C6: A yw'ch busnes wedi profi unrhyw effaith gan COVID-19 ar staff ers dechrau'r achosion? (digymell) (MS Excel)

Mae hanner (50%) y busnesau wedi gorfod gofyn i staff gymryd absenoldeb â thâl. Yn gyffredinol, mae perchnogion busnes yn eu talu nhw ym mha bynnag fodd y gallant, hyd yn oed allan o'u pocedi eu hunain, ac maent yn dibynnu ar y cyllid a addawyd ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi am ad-daliad.

Mae tua traean (35%) y busnesau wedi gorfod gofyn i staff gymryd absenoldeb di-dâl.

Dim ond 4% o fusnesau sydd hyd yma wedi diswyddo staff. Fodd bynnag, mae angen y cyllid a addawyd ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi ar frys gan fod cyfyngiad ar ba mor hir y gall busnesau dalu cyflog eu staff cyn iddynt redeg allan o arian parod.

Ansicrwydd ynghylch cymhwysedd i gael cymorth ariannol

C12 Mae 38% yn ymwybodol o ryddhad ardrethi busnes, mae 37% yn ymwybodol o grantiau, mae 25% yn ymwybodol o gefnogaeth cyflog i staff cyflogedig ac mae 14% yn ymwybodol o fenthyciadau.

C12: Pa un o'r cymorth ariannol canlynol gan y llywodraeth sy'n benodol i'r argyfwng COVID-19 ydych chi'n credu bod eich busnes/atyniad yn gymwys i gael? (MS Excel)

Mae rhai (37%) busnesau yn credu eu bod yn gymwys i gael grant gan y llywodraeth, ond dywed hanner (50%) nad ydyn nhw'n gwybod a ydyn nhw'n gymwys ai peidio.

Yn yr un modd â chymorth ariannol arall - nid yw llawer o fusnesau yn gwybod a ydynt yn gymwys. Dywed 38% eu bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes, ond nid yw 48% yn gwybod.

Ymhlith y rhesymau dros y dryswch mae:

  • anhawster cysylltu gyda banciau i drafod eu sefyllfa
  • ddim yn gwybod sut neu a yw'r gefnogaeth yng Nghymru yn wahanol i Loegr
  • canfod bod y broses ymgeisio yn rhy anodd i ymchwilio iddi

Mae angen eglurder ar y busnesau i ddeall os ydynt yn gymwys a sut i wneud cais.

Bylchau mewn cyllid

Mae busnesau'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth a addawyd gan y llywodraeth, ond yr agweddau lle gallent eu gweld yn anodd iw hariannu yw:

  • cyflogau: y mae'n rhaid i'r busnes eu talu o hyd nes i 80% o’r arian Cynllun Cadw Swyddi gael ei dalu
  • biliau a llog ar fenthyciadau a gymerwyd eisoes
  • ad-dalu blaendaliadau a balansau i gwsmeriaid
  • mae angen staff ar rai busnesau er gwaethaf y diffyg cwsmeriaid nac incwm er mwyn cynnal neu sicrhau fod eu safle yn saff

Mesurau a gymerwyd i gynnal y cwmni

Mae busnesau yn y diwydiant yn gwneud y canlynol i geisio cynnal eu cwmni:

  • gwasanaethau amgen fel siopau tecawê neu gartrefu'r digartref
  • siarad â'r banc am drefniadau gorddrafft ac ad-daliadau benthyciad
  • torri costau i'r lleiafswm
  • hawlio cefnogaeth y llywodraeth
  • trosglwyddo archebion yn hytrach nag ad-dalu lle bo hynny'n bosibl

Effaith coronafeirws ar y diwydiant yn y dyfodol

Mae bron pob busnes (96%) yn disgwyl i effaith y sefyllfa yn y dyfodol fod yn ‘sylweddol negyddol’. Ni does modd gorbwysleisio effaith y straen y mae hyn yn ei achosi i berchnogion busnes, gan eu bod yn cael trafferth dod o hyd i ffyrdd o oroesi yn ariannol yn ystod cyfnod nad oes diwedd clir iddo ar hyn o bryd.

Yr unig effaith gadarnhaol mae busnesau yn gobeithio ei weld ydi cynnydd mewn twristiaeth ddomestig wedi i’r argyfwng ddod i ben.

Cyswllt

Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 30/2020

Image removed.