Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd arolwg rhwng 22 Ebrill a 1 Mai 2020

Cynhaliwyd arolwg ffôn gyda 805 o fusnesau twristiaeth yn ymwneud â:

  • llety â gwasanaeth
  • hunanarlwyo
  • carafanau a gwersylloedd
  • hosteli
  • atyniadau
  • darparwyr gweithgareddau
  • bwytai
  • tafarndai
  • chaffis

Mewn rhai sectorau fel bwytai, tafarndai a chaffis roedd yn anodd iawn i gael gafael ar unrhyw un ar y ffôn oherwydd y cyfyngiadau ac felly mae'r niferoedd a gynrychiolir yn y don hon yn isel iawn.

Mae'r sefyllfa o ran COVID-19 yn symud yn gyflym iawn. Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn tra nad oedd strategaeth ymadael y Llywodraeth ac amseriadau bras yn hysbys.

Mae'r gefnogaeth trwy'r Cynllun Cadw Swyddi wedi cadw diswyddiadau i'r lleiafswm hyd yma

Dywedodd mwyafrif (71%) y busnesau sy'n cyflogi unrhyw staff fod yn rhaid iddynt roi o leiaf rai ohonynt ar absenoldeb â thâl. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'r don ymchwil flaenorol (50%), a gynhaliwyd ddiwedd mis Mawrth.

Ar gyfartaledd, cafodd 8 aelod o staff ym mhob busnes twristiaeth eu rhoi ar absenoldeb â thâl. Pan yn seiliedig ar ddim ond busnesau sydd wedi cymryd y camau hynny, y cyfartaledd oedd 11 ym mhob busnes. Pe bai busnes wedi rhoi unrhyw staff ar absenoldeb â thâl, roedd yn debygol o fod i gyd neu bron bob un o'r rheini y maent yn eu cyflogi.

Mewn cymhariaeth, dim ond 0.1 oedd nifer y diswyddiadau ar gyfartaledd fesul busnes sy'n cyflogi staff. Mae'r gefnogaeth i staff ar absenoldeb â thâl wedi helpu i gadw'r nifer hwn yn isel hyd yn hyn.

Effaith ar staff tymhorol

Fel arfer, byddai tua un o bob chwech (16%) busnes yn cyflogi staff tymhorol yr adeg hon o'r flwyddyn. O'r rhain, roedd lleiafrif (14%) yn dal i allu gwneud hynny; neu 2% o sampl yr arolwg cyfan.

Amcangyfrif o golli 20% o'r refeniw blynyddol arferol hyd yn hyn

Y golled ganolrifol yr adroddwyd o ganlyniad i'r argyfwng mewn dim ond y cyfnod ers dechrau'r achosion oedd oddeutu 20% o'r refeniw arferol am y flwyddyn gyfan. Roedd y canfyddiad hwn yn gyson ar draws sectorau, rhanbarth a maint y busnes.

Roedd yr ystod yn sylweddol, o ddim wedi colli unrhyw beth, i dros 80% o'r refeniw blynyddol arferol.

Q9 “…faint o incwm y mae eich busnes wedi'i golli hyd yn hyn oherwydd argyfwng COVID-19?”
  Cymru gyfan Gogledd Chanolbarth Cymru De-orllewin Cymru De-ddwyrain Cymru
Heb golli unrhyw incwm 1% 2% 2%
Hyd at £1,000 3% 2% 5% 3% 2%
£1,001 i £2,500 7% 5% 8% 7% 9%
£2,501 i £5,000 18% 17% 15% 20% 18%
£5,001 i £10,000 25% 26% 33% 19% 20%
£10,001 i £25,000 22% 25% 19% 20% 22%
£25,001 i £50,000 10% 10% 10% 12% 8%
£50,001 i £100,000 8% 6% 4% 11% 10%
£100,001 i £250,000 4% 4% 5% 3% 6%
£250,001 i £500,000 2% 2% 2% 1% 2%
£500,001 i £1,000,000 1% 1% 1% 2%
Sampl 571 220 102 143 106

Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru

Pan oedd y Gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau, roedd tua hanner (48%) y busnesau twristiaeth a gafodd eu cyfweld wedi gwneud cais. Roedd lefelau cais yn uwch ymhlith y mathau canlynol o fusnes:

  • busnesau â mwy na 5 o weithwyr parhaol (60%)
  • atyniadau a darparwyr gweithgareddau (57%)
  • wedi'i leoli yng Nghanol Cymru (68%)

Roedd tua thraean (32%) yr ymgeiswyr wedi bod yn llwyddiannus, roedd 11% wedi bod yn aflwyddiannus, ac roedd y gweddill (57%) yn dal i aros am ganlyniad ar adeg y cyfweliad.

Mathau eraill o gefnogaeth y llywodraeth

Roedd tri o bob pedwar (75%) busnes a oedd yn gymwys i gael gwyliau ardrethi busnes wedi gwneud cais am grant. Ond ar wahân i grantiau ardrethi busnes, dim ond ychydig o ymatebwyr oedd wedi gwneud cais am unrhyw gymorth arall y gwnaethom ni ofyn amdano (naill ai cefnogaeth Llywodraeth y DU neu fenthyciadau Banc Datblygu Cymru). Roedd busnesau yn amharod i dderbyn benthyciadau, sydd yn cynnwys talu’n ôl gyda llog.

Goroesi'r cyfyngiadau

Nid yw tua chwarter (23%) o fusnesau yn disgwyl goroesi’r tri mis nesaf os bydd cyfyngiadau’n parhau, tra nad yw tri o bob deg (30%) yn gwybod pa mor hir y gallant oroesi.

Fodd bynnag, gallai tua thraean (31%) o'r gweithredwyr oroesi am fwy na 6 mis arall o'r cyfyngiadau. Mae'n ymddangos bod cael incwm mawr arall ar wahân i dwristiaeth yn ffactor arwyddocaol.

Mae'r siart yn dangos bod 17% o fusnesau yn amcangyfrif eu bod yn gallu goroesi am 2 neu 3 mis, amcangyfrifodd 6% 1 mis neu lai a dywedodd 10% rhwng 4 a 6 mis.

Pryderon tymor canolig a thymor hwy

Y pryderon mwyaf arwyddocaol yn y tymor canolig ac yn y tymor hwy yw:

  • ddim yn gwneud digon o arian yn yr haf i oroesi y gaeaf nesaf
  • adlach gan bobl leol wrth agor eto i dwristiaid
  • rheoli cadw pellter cymdeithasol, gallai fod yn anodd iawn i rai mathau o fusnesau
  • adferiad araf oherwydd pryderon cwsmeriaid a / neu berchnogion ynghylch peryglon iechyd

Cefnogaeth a ddymunir gan Croeso Cymru (Llywodraeth Cymru)

Roedd yna llawer o sylwadau ar y wybodaeth dda a'r gefnogaeth ariannol a roddwyd eisoes. Mae'r gefnogaeth a ddymunir ymhellach yn cynnwys:

  • canllawiau ar sut i weithredu'n ddiogel ar ôl y cyfyngiadau
  • cymorth ariannol pellach os collir tymor yr haf

Cyswllt

Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 35/2020

ISBN digidol: 978-1-80038-555-9

GSR logo