Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam 1 2019.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae’r rhan fwyaf o fusnesau (86%) wedi cynyddu neu gynnal lefelau eu hymwelwyr y Pasg hwn. Ymhlith y rhai hynny a welodd fwy o ymwelwyr, 'tywydd gwell' oedd y rheswm mwyaf cyffredin, ynghyd â'r Pasg hwyr eleni.
  • Gwnaeth pob rhan o Gymru berfformio'n dda. Gwnaeth sectorau lle nad oes angen i ymwelwyr archebu lle ymhell o flaen llaw, os o gwbl, berfformio'n arbennig o dda.
  • Yn dilyn Pasg braf, mae'r rhan fwyaf (85%) o'r gweithredwyr yn hyderus ar gyfer yr haf i ddod.
  • Mae'r rhan fwyaf o fusnesau (77%) ar agor drwy gydol y flwyddyn. Meysydd carafanau a gwersylla sy'n ddibynnol ar y tywydd yw'r unig sector lle mae'r mwyafrif o fusnesau'n cau ar ryw adeg o'r flwyddyn.

Adroddiadau

Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, cam 1 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, cam 1 2019: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 345 KB

PDF
345 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Starkey

Rhif ffôn: 0300 025 0377

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.