Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam 4 2019.

Prif bwyntiau

Oedd yn dymor cymysg i’r diwydiant.

  • Mae’r rhan fwyaf o fusnesau (73%) wedi cynyddu neu gynnal lefelau eu hymwelwyr yn ystod y cyfnod. 
  • Y tywydd ac ansicrwydd Brexit oedd y ddau brif reswm am nodi llai o ymwelwyr. 
  • Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y sectorau twristiaeth yng Nghymru.
  • Mae hyder am 2020 yn weddol ym mhob sector.

Yn y cam hwn, rydym wedi holi cwestiynau'n benodol ynglŷn â darpariaeth bwyd a diod Cymreig.

Mae'r mwyafrif helaeth (87%) o fusnesau sy'n cynnig bwyd a diod i gwsmeriaid yn cynnwys bwyd a diod Cymreig o fewn eu darpariaeth. Ers mis Mehefin 2017, mae'r gyfran o'r busnesau yn Ne-ddwyrain Cymru sy'n darparu bwyd a diod Cymreig wedi cynyddu'n sylweddol o 73% i 87%. 

Byddai tua hanner (51%) o'r busnesau yn hoffi cynnig mwy o fwyd a diod Cymreig. Y prif reswm dros beidio ag eisiau ei wneud yw pan fo'r gweithredwr yn teimlo'i fod eisoes yn defnyddio cymaint o gynnyrch Cymreig ag sy'n bosib.

Adroddiadau

Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, cam 4 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, cam 4 2019: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB

PDF
513 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.