Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr Chwefror 2023.

Prif bwyntiau

Roedd nifer yr ymwelwyr yn 2022 yn uwch o’i gymharu â 2021 ond yn dal i lawr o’i gymharu â chyn COVID-19

  • Cafodd 43% o fusnesau fwy o gwsmeriaid yn 2022 nag yn 2021, ac roedd gan draean arall (33%) yr un lefel. Cafodd tua chwarter (24%) lai o gwsmeriaid.
  • Fodd bynnag, at ei gilydd, nid yw'r diwydiant wedi gwella i lefelau cyn-bandemig o hyd. Cafodd tua un o bob pump (21%) fwy o gwsmeriaid yn 2022 o gymharu â’r lefel arferol cyn COVID-19, a chafodd 43% yr un lefel. Cafodd 36% lai o gwsmeriaid.
  • Meysydd carafanau yw’r unig sector hyd yma sydd wedi adennill lefelau ymwelwyr cyn y pandemig, gyda 35% o fusnesau â mwy o gwsmeriaid o gymharu ag 14% sydd â llai o gwsmeriaid.

Mae heriau economaidd yn rhwystro buddsoddiad

  • Mae 37% yn dweud bod y sefyllfa economaidd bresennol yn effeithio ar eu gallu i gyflogi staff, mae 31% yn dweud ei bod yn effeithio ar fuddsoddiad yn y cynnyrch, ac mae 28% yn gwario llai ar farchnata.

Peth effaith ar oriau agor busnesau

  • Dywed 11% fod y sefyllfa economaidd yn golygu na allant agor cymaint ag y hoffent ei wneud yn ddelfrydol. Y prif ganlyniad yw cau yn ystod cyfnodau tawelach hir (yn enwedig y gaeaf) a'r rheswm yw nad oes digon o gwsmeriaid i dalu am y costau gweithredu uchel yn ystod yr amseroedd hynny, yn enwedig biliau ynni.

Peth hyder eleni er gwaethaf heriau economaidd ac archebion araf

  • Mae 17% o weithredwyr yn ‘hyderus iawn’ ynglŷn â chynnal eu busnes yn broffidiol eleni, ac mae 50% arall yn ‘eithaf hyderus’. Mae costau gweithredu uchel yn bryder sylweddol ac mae angen archebion mawr ar fusnesau yn ystod yr haf, yn enwedig i wneud iawn am adegau tawelach y flwyddyn. Ar ôl pwyso a mesur, mae gweithredwyr yn disgwyl y bydd hynny'n digwydd, er y gall hyn fod ar y funud olaf.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr Chwefror 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.