Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr gwanwyn 2022.

Prif bwyntiau

  • Mae tuag un o bob pump (21%) wedi cael mwy o gwsmeriaid y flwyddyn hyd yn hyn o gymharu â’r un cyfnod mewn blwyddyn ‘arferol’, ac mae tua hanner (47%) wedi cael yr un lefel o gwsmeriaid. Mae tuag un o bob tri (32%) wedi gweld gostyngiad.
  • Mae cyfartaledd y capasiti a archebwyd ar gyfer gwyliau’r Pasg ymhlith gweithredwyr llety tua 68%, ac mae'n 54% ar gyfer mis Mai a dechrau mis Mehefin.
  • Mae pris ynni a llawer o eitemau eraill wedi cynyddu gymaint mewn byr amser. Mae 43%, heb anogaeth, yn nodi costau ynni cynyddol fel pryder penodol, ac mae 31% yn nodi costau cynyddol heblaw ynni. O gymharu â hynny, dim ond 12% (heb anogaeth) yn poeni y bydd cyfyngiadau COVID-19 yn cael eu hailgyflwyno.
  • ‘Cyfyngiadau COVID-19 yn dod i ben / y pandemig yn gostegu' yw'r rheswm heb anogaeth a grybwyllwyd amlaf (31%) i fod yn gadarnhaol am fusnes eleni.
  • Mae tua chwarter (27%) y gweithredwyr yn ‘hyderus iawn’ ynglŷn â chynnal y busnes yn broffidiol eleni, ac mae 47% arall yn ‘eithaf hyderus’.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr gwanwyn 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rhif ffôn: 0300 025 3187

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.