Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr haf 2022.

Prif bwyntiau

  • Mae tua chwarter (23%) o fusnesau wedi cael mwy o gwsmeriaid yr haf hwn na’r haf diwethaf, ac mae 38% wedi cael yr un lefel. Fodd bynnag, mae 39% wedi cael llai.
  • Mae'r gymhariaeth â haf arferol cyn COVID-19 yn dangos darlun tebyg. Mae tua un o bob pump (19%) wedi cael mwy o gwsmeriaid yr haf hwn o gymharu â’r lefel arferol cyn COVID-19, ac mae tua hanner (49%) wedi cael yr un lefel. Mae tua traean (32%) â lefel is.
  • Mae llawer mwy na hanner (62%) o fusnesau yn bwriadu aros ar agor am o leiaf rywfaint o bob mis yn ystod yr hydref a'r gaeaf.
  • Ar adeg y cyfweliadau ac ar gyfer gweithredwyr llety sy'n cymryd archebion, mae'r capasiti sydd ar gael sydd wedi'i archebu oddeutu 65% ar gyfer mis Medi, 45% ar gyfer mis Hydref, a 26% ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
  • Mae 14% o weithredwyr yn ‘hyderus iawn’ ynglŷn â chynnal eu busnes yn broffidiol yr hydref hwn, ac mae 36% arall yn ‘eithaf hyderus’. Fodd bynnag, mae 20% ‘ddim yn hyderus iawn’, ac mae 10% ‘ddim yn hyderus o gwbl’. Nid yw 20% yn gwybod.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr haf 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.