Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr haf 2023.

Blwyddyn dawel yn parhau

  • Mae un o bob pump (20%) o fusnesau wedi cael mwy o gwsmeriaid yr haf hwn na’r haf diwethaf, ac mae dau arall o bob pump (40%) wedi cael yr un lefel. Fodd bynnag, mae dau o bob pump (40%) wedi cael llai. Mae pedwar rhanbarth Cymru i lawr ar ôl pwyso a mesur.

Dim ond y sector atyniadau sydd wedi gweld lefelau ymwelwyr yn codi

  • Mae bron i hanner (46%) yr atyniadau wedi cael mwy o ymwelwyr yr haf hwn, o gymharu â dim ond 24% sy'n nodi gostyngiad. Mae pob sector arall yn adrodd eu bod i lawr ar ôl pwyso a mesur, yn enwedig darparwyr gweithgareddau (mae 62% i lawr) a meysydd carafanau a gwersylla (mae 48% i lawr).

Lefelau archebu ymlaen llaw yn yr hydref

  • Yn gynnar ym mis Medi, gwelwyd gwelliant sylweddol yn y tywydd, ac roedd lefelau deiliadaeth llety ar adeg y cyfweliadau yn 63% fesul gweithredwr ar gyfartaledd. Mae deiliadaeth wedi'i harchebu yn disgyn yn eithaf cyflym i fis Hydref (43%) a mis Tachwedd (24%).

Marchnad deuluol a gwyliau haf yr ysgol

  • Ar gyfartaledd, mae teuluoedd â phlant oed ysgol wedi cyfrif am tua hanner busnes un gweithredwr yn ystod gwyliau ysgol yr haf hwn. Mae'r gyfran ar ei huchaf (dros 60%) ymhlith atyniadau a meysydd carafanau, ac ar ei hisaf (25%) mewn llety â gwasanaeth.
  • Nid oes unrhyw wahaniaeth arwyddocaol i’w adrodd rhwng lefel y busnes yn ystod rhan gyntaf gwyliau haf yr ysgol a’r rhan ddiweddarach. Mae'n bosibl bod tywydd llawer gwell tua diwedd y gwyliau wedi dylanwadu ar y canlyniad hwn (h.y. efallai y byddai gweithredwyr wedi bod yn brysurach yn gynnar oni bai am dywydd gwael).

Ymwybyddiaeth a diddordeb mewn Tourism Exchange Great Britain (TXGB)

  • Roedd un o bob deg (10%) o weithredwyr yn ymwybodol o TXGB cyn y cyfweliad. O'r rhain, mae tua un o bob pump (21%) naill ai'n ei ddefnyddio nawr neu'n bwriadu ei ddefnyddio.
  • Ar ôl clywed disgrifiad o TXGB, mae 16% o’r rhai nad oeddent yn ymwybodol ohono o’r blaen yn dweud ei fod yn ‘bendant’ yn swnio fel rhywbeth y byddai ganddynt ddiddordeb mewn dysgu mwy amdano, a dywed 42% arall ei fod ‘efallai’ yn rhywbeth yr hoffent ddysgu mwy amdano.

Lefelau hyder

  • Mae 15% o weithredwyr yn dweud eu bod yn ‘hyderus iawn’ am redeg y busnesau yn broffidiol eleni, ac mae 43% arall yn dweud eu bod yn ‘weddol hyderus’.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr haf 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.