Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr Mehefin 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai, a oedd yn cynnwys dau ddiwrnod gŵyl banc ar gyfer Jiwbilî'r Frenhines, cafodd tua chwarter (23%) o fusnesau fwy o gwsmeriaid na'r lefel arferol am y cyfnod cyn COVID-19. Derbyniodd tua hanner (52%) yr un lefel o gwsmeriaid a gwnaeth chwarter (25%) dderbyn llai. Bwytai / tafarndai / caffis oedd y sector a oedd yn perfformio orau, gyda 38% yn rhagori ar y lefel arferol am y cyfnod cyn COVID-19
  • Dywed 36% o fusnesau fod mwy o archebion funud olaf eleni, tra bod 22% yn dweud bod archebion yn cael eu gwneud fwy ymlaen llaw. Mae'r 42% sy'n weddill yn dweud nad oes unrhyw newid arwyddocaol yn y duedd.
  • Mae 8% o fusnesau yn profi lefel ‘sylweddol’ o archebion yn cael eu canslo, ac mae 24% yn cael ‘rhywfaint’ yn canslo.
  • Nid yw bron i hanner (46%) y busnesau yn newid eu prisiau ar gyfer yr haf hwn, ac mae cyfran debyg (45%) ond yn eu codi ‘ychydig’.
  • Mae deiliadaeth sydd wedi'i harchebu ar gyfartaledd ymhlith gweithredwyr llety yw tua 71% ar gyfer mis Gorffennaf a 70% ar gyfer mis Awst.
  • Gofynnwyd i fusnesau sut yr hoffent weld yr arian a godir drwy’r ardoll ymwelwyr arfaethedig yn cael ei wario, os yw’n mynd rhagddo yn eu hardal. Gyda'i gilydd, mae 45% eisiau ychwanegu at seilwaith cyhoeddus neu ei fod yn cael ei wella. Fodd bynnag, gwrthododd 19% ag ateb oherwydd eu bod yn gwrthwynebu'r syniad o'r ardoll yn llwyr.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr Mehefin 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.