Neidio i'r prif gynnwy

Mae becws Winning Blend yn Llantrisant, wedi rhagori ar ei darged i greu swyddi, cynyddu trosiant i £18 miliwn, a lansio 22 o gynhyrchion newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd £340,000 o Gronfa Twf Economaidd Cymru ei neilltuo i Winning Blend sy’n masnachu o dan yr enw The Welsh Pantry/Y Pantri Cymreig, i greu 34 o swyddi a diogelu 10 swydd arall.  Llwyddodd y cwmni i wneud yn well na hynny a chreu 55 o swyddi, gan ddod â nifer ei weithwyr i 156. 


Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, â’r safle yn Llantrisant heddiw i weld drosto’i hun sut mae’r buddsoddiad o £1.1m mewn offer cynhyrchu modern yn y becws a’r uned bacio wedi bod o les i’r busnes ac wedi creu swyddi. 

Yn ystod ei daith o gwmpas y ffatri, clywodd ei fod eisoes wedi cynyddu llif, lleihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd ac ansawdd a chynyddu gallu'r cwmni i gystadlu. 

Dywedodd Mr Skates: 

“Dyma newyddion rhagorol ac rwy’n falch iawn bod gallu Llywodraeth Cymru wedi helpu’r cwmni i ehangu, i wella’i fedrau a chreu nifer sylweddol o swyddi newydd. 

“Mae buddsoddiad a llwyddiant y cwmni wedi cael effaith sylweddol hefyd ar yr economi gan fod polisi Welsh Pantry/Y Pantri Cymreig o brynu nwyddau lleol pan all yn golygu ei fod yn prynu nwyddau’n rheolaidd oddi wrth dros 100 o fusnesau lleol.  Llynedd, gwariodd dros £3.2m yn ei gadwyn cyflenwi leol." 

Meddai Mark Sommers, Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp: 

"Mae'r buddsoddiad wedi ein helpu i gynnal busnes presennol ac ennill busnes newydd gan gwsmeriaid presennol, ynghyd â lansio cynhyrchion newydd i gwsmeriaid newydd. Mae hefyd wedi ein galluogi i lansio 22 o gynhyrchion newydd sydd wedi cael ymateb da iawn."

"Roedd y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn ganolog i'n galluogi i ehangu ar yr adeg iawn, a sicrhau nad oeddem yn colli cyfleoedd."

Dywedodd Mark Sommers fod trosiant wedi cynyddu i £18 miliwn, yn y deuddeg mis hyd at fis Ionawr 2016 a rhagwelir twf pellach gwerth £2 miliwn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Ychwanegodd: 

"Daw'r cynnydd hwn yn sgil cyfnod o dwf digynsail – roedd trosiant gweithgynhyrchu yn y flwyddyn hyd at fis Ionawr 2012 ychydig dros £3.8 miliwn – sy'n  gyfradd twf gyfansawdd o 48% dros gyfnod o bedair blynedd."

Mae'r becws yn gweithredu system tair shifft, 5 diwrnod yr wythnos, ac mae'n cynhyrchu 64 o gynhyrchion gwahanol, gan gynhyrchu tua 95 miliwn o eitemau y flwyddyn. 

Mae'r busnes yn arbenigo ar gynhyrchu cynhyrchion sawrus, yn ogystal â rhai prydau parod, ac mae ganddo ei gegin ddatblygu ei hun er mwyn profi a chynhyrchu ryseitiau newydd arloesol. 

Mae ei frand label ei hun The Welsh Pantry/Y Pantri Cymreig yn cael ei werthu yn Morrisons, Sainsbury a Tesco, ac mae hefyd yn cynhyrchu brandiau label ar gyfer archfarchnadoedd cenedlaethol, yn cynnwys Iceland, Asda, Aldi a Lidl.

Dyma ail ymgais lwyddiannus Winning Blend i sicrhau cyllid gan y Gronfa Twf Economaidd – yn 2013 dyfarnwyd £300,000 iddo er mwyn creu 34 o swyddi newydd, ac arweiniodd hyn at fusnes newydd sylweddol, yn bennaf ar gyfer brandiau  Aldi, Lidl ac Iceland.