Neidio i'r prif gynnwy

Y mis hwn, gall Undebau Credyd helpu pobl rhag mynd i drafferthion ariannol a chael eu dal ym magl y rhai sy’n rhoi benthyg arian yn anghyfreithlon a benthycwyr sy’n codi llog uchel. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Gweinidog wedi lansio proses ymgeisio am grant sy’n agored ac yn gystadleuol er mwyn i Undebau Credyd yng Nghymru allu gwneud cais am gyllid i gronfa gan Lywodraeth Cymru sydd werth £840,000 i helpu gyda gweithgarwch cynhwysiant ariannol. Mae’r gwaith hwn yn sicrhau nad yw pobl yn methu â chael at gynnyrch cynilo sy'n ddiogel a benthyciadau sy’n fforddiadwy.  

Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans AC: 

“Mae Undebau Credyd yn addysgu oedolion a phlant yng Nghymru i fod yn ymwybodol o faterion ariannol. Maent yn helpu pobl i wneud penderfyniadau ariannol cyfrifol, ac i osgoi benthycwyr  llog uchel anghyfrifol ar garreg y drws ac ar-lein a benthycwyr anghyfreithlon.  Maent hefyd, yn bwysicach na hynny, yn rhoi help i bobl oresgyn y problemau a ddaw gyda dyled sy’n prysur fynd tu hwnt i reolaeth.

“A hithau’n fis Ionawr, ac wrth ystyried materion ariannol ar ôl y Nadolig, mae’n werth ystyried p’un a all eich undeb credyd lleol eich helpu chi i gyrraedd eich nod o ran  arian.

“Rwyf wedi lansio cynllun grant cystadleuol ar gyfer undebau credyd yng Nghymru i roi cyfle iddynt wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru o gronfa sydd werth £844,000, a hynny o Ebrill eleni am y ddwy flynedd nesaf.  

“Rydym yn ariannu undebau credyd er mwyn iddynt allu cyflawni ein nodau cynhwysiant ariannol, fel bod pawb yng Nghymru yn gallu manteisio ar wasanaethau ariannol priodol a fforddiadwy.”