Neidio i'r prif gynnwy

Mae Grŵp Gweithredu'r Gwaharddiad ar Rasio Milgwn yn cynghori ar gyflwyno'r waharddiad tra'n diogelu lles cŵn, cymunedau a'r economi.

Mae llawer o waith i'w wneud cyn i'r gwaharddiad ddod i rym. Mae Gweinidogion Cymru am i'r rhai sy'n gysylltiedig â rasio symud tuag at y gwaharddiad mewn ffordd drefnus. Mae Grŵp Gweithredu'r Gwaharddiad ar Rasio Milgwn yn darparu cyngor ymarferol i Weinidogion Cymru i'w cefnogi yn ystod y cyfnod pontio. 

Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys lles milgwn, ochr yn ochr ag effaith y gwaharddiad ar y gymuned leol a'r economi.

Prif amcanion y Grŵp Gweithredu yw:

  • diogelu lles milgwn rasio nawr a thrwy gydol y cyfnod pontio.
  • lliniaru'r pwysau ar y sector achub ac ailgartrefu
  • sefydlu arferion gorau ar gyfer y cyfnod pontio, drwy ystyried dulliau mewn gwledydd eraill
  • cynnig atebion ymarferol i liniaru effeithiau cymdeithasol ac economaidd y gwaharddiad
  • cefnogi'r rhai yn y diwydiant yn ystod y cyfnod pontio