Rydym wedi comisiynu dau ddarn o waith ymchwil i fynd i'r afael â'r dystiolaeth gyfyngedig am dlodi parhaus ar lefel Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Deinameg incwm isel
Mae’r adroddiad yn ystyried i ba raddau mae unigolion yn symud i mewn ac allan o dlodi, nodweddion y rhai hynny sy’n aros mewn tlodi a’r mathau o ddigwyddiadau sy’n gallu achosi i bobl symud i mewn neu allan o dlodi.
Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ddadansoddiad o Arolwg Panel Aelwydydd Prydain (BHPS) ac yn ymdrin â’r blynyddoedd 2000 i 2008, gyda phwyslais arbennig ar y cyfnod 2005-2008. Cyflwynir y rhan fwyaf o’r dadansoddiad ar lefel Prydain Fawr, ond deuir i gasgliadau ynglŷn â’r sefyllfa yng Nghymru pan fo maint samplau’n caniatáu hynny.
Ymchwiliad i’r posibilrwydd o gael dadansoddiad ar lefel Cymru o'r Arolwg panel Cartrefi Prydain (BHPS) a’r Arolwg Deall Cymdeithas
Mae'r adroddiad yn rhoi safbwynt Cymreig ar ddefnyddioldeb BHPS a’i olynydd, Deall Cymdeithas (Understanding Society), i’w dadansoddi ar lefel Cymru. Caiff nodweddion sampl BHPS eu harchwilio drwy ddadansoddiad enghreifftiol o ddynameg tlodi yng Nghymru.
