Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Bil yn rhan o'n gwaith i ddiwygio ardrethi annomestig (ardrethi busnes) a'r Dreth Gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mewn perthynas â'r system ardrethi annomestig, bydd y Bil yn:

  • cynyddu pa mor aml y bydd gwerth pob eiddo yn cael ei ddiweddaru i bob 3 blynedd
  • darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac esemptiadau
  • galluogi newidiadau wrth gyfrifo taliadau ar gyfer gwahanol gategorïau o dalwyr ardrethi
  • cau ‘bylchau’ hysbys a gwella'r gallu i fynd i'r afael ag ymddygiad osgoi trethi yn y dyfodol
  • ei gwneud yn bosibl i well gwybodaeth gael ei darparu gan dalwyr ardrethi

Mewn perthynas â system y Dreth Gyngor, bydd y Bil yn:

  • darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer trefnu a labelu bandiau
  • darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid disgowntiau
  • cyflwyno diweddariadau i werth pob eiddo bob 5 mlynedd
  • dileu'r angen i gyhoeddi manylion y Dreth Gyngor mewn papurau newydd

Y camau nesaf

Dilynwch hynt y Bil drwy'r camau craffu gan y Senedd. Os bydd yn cael ei basio, bydd yn dod yn gyfraith yn haf 2024.