Mae Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), a gyflwynwyd gan Mark Isherwood (yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil) wedi'i basio gan y Senedd ar 11 Mawrth 2026.
Nod y Bil yw grymuso'r gymuned sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a rhoi cyfle sylweddol i Gymru sbarduno newid cadarnhaol.
Mae'r ddeddfwriaeth yn sefydlu fframwaith newydd i hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i ddatblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain, wedi'i llywio gan gynghorydd Iaith Arwyddion Prydain a phanel cynorthwyol, ochr yn ochr â chanllawiau Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y canllawiau yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer cynlluniau Iaith Arwyddion Prydain lleol i'w datblygu gan y cyrff cyhoeddus a nodir yn y Bil.
Datblygwyd y Bil drwy gydweithio agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil gydol y broses o basio drwy'r Senedd ac mae'n croesawu'r darn arwyddocaol hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn gosod sylfaen ar gyfer gwella canlyniadau i'r gymuned sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ledled Cymru. Mae'n cydnabod bod hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru yn gyfrifoldeb i bawb yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r ddeddfwriaeth yn gam pwysig iawn tuag at greu Cymru sy'n hyrwyddo, hwyluso a gwerthfawrogi Iaith Arwyddion Prydain fel rhan hanfodol o gymdeithas yng Nghymru. Mae ei ddarpariaethau yn annog mwy o ddealltwriaeth, gwelededd a chynhwysiant o ran Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i greu Cymru decach.
