Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw [dydd Llun 3 Gorffennaf] cafodd deddfwriaeth eang ei chwmpas, a fydd yn helpu pobl i fyw bywydau iachach a'u hamddiffyn rhag niwed, Gydsyniad Brenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn seremoni selio swyddogol yng Nghaerdydd, cafodd y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ei wneud yn Ddeddf y Cynulliad. Mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol pan hysbysir Clerc y Cynulliad am Freinlythyrau o dan y Sêl Gymreig sydd wedi'u llofnodi â llaw Ei Mawrhydi ei hun yn nodi Ei Chydsyniad. 

Bydd y gyfraith Cymru radical hon yn ymestyn ardaloedd di-fwg i leoliadau gan gynnwys tir ysgolion ac ysbytai, ac yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer gweithdrefnau fel tatŵio. 

Bydd hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio strategaeth toiledau; ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut fydd eu penderfyniadau yn effeithio ar iechyd pobl; gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff i blant; gwneud gwasanaethau fferyllol yn fwy ymatebol i'w cymunedau; ac yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra.

Rhoddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau yn y seremoni selio, ac roedd Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, hefyd yn bresennol.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:  

“Bydd y ddeddfwriaeth radical hon yn ein helpu i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. 

“Mae'n cadw ar drywydd y pryderon iechyd y cyhoedd sy'n dod i'r amlwg ac mae’n rhoi ffocws cryf ar blant, gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn tyfu i fyny mewn Cymru sy'n eu helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach.”


Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd: 

“Mae hon yn ddeddfwriaeth eang ei chwmpas a fydd yn cael effaith gadarnhaol sylweddol, hirhoedlog, ar iechyd yng Nghymru. Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl o bob cenhedlaeth – o blant a fydd yn gallu cael eu hamddiffyn o niwed mwg ail-law a pheryglon cael twll yn rhan bersonol o'r corff, i bobl hŷn a fydd yn elwa ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus a gynlluniwyd yn well. 

“Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid a fu'n gweithio gyda ni i ddatblygu'r Ddeddf hon, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw wrth iddi gael ei rhoi ar waith.”