Mae Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, 19 Mai) wedi cyflwyno Bil beiddgar ac uchelgeisiol sy'n anelu at drawsnewid ein hymateb i ddigartrefedd.
Bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn newid ein system ddigartrefedd yn sylfaenol, felly mae'n canolbwyntio ar atal a darparu mwy o ddulliau o gefnogi pobl i gael cartrefi tymor hwy.
Mae'r Bil yn canolbwyntio ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.
Mae wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth a phrofiad byw y rhai sydd wedi bod yn ddigartref ac mae'n gam hanfodol tuag at gyflawni ein huchelgais hirdymor o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Ymhlith prif elfennau'r Bil:
- Trawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach.
- Targedu gweithredu at y rhai sydd mewn perygl fwyaf. Yn benodol, darparu cyfle i roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc sy'n gadael gofal.
- Canolbwyntio ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus Cymru at ei gilydd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Mae'r Bil hwn yn nodi trobwynt yn y ffordd y mae Cymru yn mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n falch o gyflwyno deddfwriaeth sydd nid yn unig yn newid systemau ond hefyd yn trawsnewid bywydau.
Mae pob person yn haeddu lle diogel i'w alw'n gartref, ac mae'r diwygiadau hyn yn dod â ni'n agosach at wneud hynny'n realiti ledled Cymru.
Rwy'n arbennig o falch am yr hyn y mae yn ei olygu i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Trwy ddod â thimau tai a gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd, byddwn yn sicrhau bod y bobl ifanc hyn - yr ydy ni'n gyfrifol amdanynt - yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Nid dyhead yn unig yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru - mae'n bosib ei gyflawni os ydym yn gweithio gyda'n gilydd i adnabod yr arwyddion cynnar a chamu i mewn gyda'r gefnogaeth gywir cyn i bethau fynd yn argyfwng. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r dulliau i ni wneud i hynny ddigwydd.
