Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mar Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Dibenion Allweddol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (“y Bil”) i weithredu’r rhan fwyaf o argymhellion Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd ar gyfer diwygio’r Senedd, mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Yn benodol, mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau
  • cynyddu’r cyfyngiad deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i 17 (yn ychwanegol at y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), gyda’r pŵer i gynyddu’r cyfyngiad hwn ymhellach i 19
  • cynyddu'r nifer mwyaf o Ddirprwy Lywyddion y gellir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i 2
  • newid system etholiadol y Senedd fel bod yr holl Aelodau’n cael eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig, gyda’r pleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy fformiwla D’Hondt
  • addasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan gynnwys:
    • rhoi i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau newydd Cymru y swyddogaethau angenrheidiol er mwyn iddo allu cynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethau'r Senedd
    • rhoi cyfarwyddiadau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu dilyn wrth gynnal ei adolygiadau o’r ffiniau, gan gynnwys:
      • mewn perthynas â’r adolygiad symlach i baru 32 etholaeth Seneddol newydd y DU cyn etholiad 2026 y Senedd (i ffurfio 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd)
      • adolygiad llawn cyn yr etholiad dilynol, ac
      • adolygiadau cyfnodol parhaus.
  • newid y cyfnod arferol rhwng etholiadau cyffredinol y Senedd yn ôl i 4 blynedd
  • ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr, ac aelodau o’r Senedd, gael eu cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad yng Nghymru
  • rhoi cyfle i’r Senedd gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd ac unrhyw fater arall sy’n yn berthnasol i ddiwygio'r Senedd ar ôl etholiad 2026
  • annog rhagor o waith, dan arweiniad y Senedd, i edrych ar heriau deddfwriaethol a dichonoldeb sy’n gysylltiedig â rhannu swyddi.

Ystyriwyd effaith y ddeddfwriaeth hon ar y pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Y tymor hir

Ystyrir bod deddfu i ddiwygio’r Senedd yn cael buddion parhaus yn y tymor hir o ran gallu’r Senedd i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif, gwneud deddfau, ystyried amrywiadau treth, a chynrychioli pobl Cymru. Mae hefyd yn dileu cyfyngiad ar benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch datganoli pwerau, y dylid eu cymryd ar sail pa ddull sy’n diwallu anghenion pobl Cymru orau.

Atal

Bydd deddfu i ddiwygio’r Senedd yn lliniaru amrywiaeth o bryderon a nodwyd yn flaenorol ynghylch gallu’r Senedd, gan gynnwys ei gallu i graffu’n effeithiol ac ymgysylltu â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu. Mae gwell craffu’n arwain at bolisïau a deddfu gwell, sy’n atal ystod o broblemau rhag codi yn y dyfodol.

Integreiddio

Bydd gwell craffu yn arwain at amrywiaeth eang o fuddion ar draws holl sbectrwm cyfrifoldebau polisi Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, wrth ddatblygu newidiadau etholiadol, sy’n angenrheidiol i ethol Senedd sy’n fwy o ran maint, rhoddwyd ystyriaeth i’r newidiadau ehangach sy’n effeithio ar gapasiti timau etholiadau awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022, a diwygiadau sy’n cael eu cyflawni ar wahân drwy Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Llywodraeth Cymru.

Cydweithio

Mae ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol i ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon, gan gynnwys partneriaid cyflawni allanol yn y gymuned etholiadol a Chomisiwn y Senedd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n rheolaidd â phartneriaid allweddol drwy Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru, cyfarfodydd â’r Comisiwn Etholiadol (a phleidiau gwleidyddol drwy ‘Banel Pleidiau Gwleidyddol Senedd yr Alban’ y Comisiwn Etholiadol). Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cwrdd â rhanddeiliaid allweddol i drafod elfennau manwl o bolisi i sicrhau ei fod yn weithredol ac y gellir ei weithredu’n ddidrafferth.

Cynnwys

Mae rhanddeiliaid allanol allweddol, yn ogystal â meysydd polisi traws-Lywodraethol, wedi cael eu cynnwys yn llawn yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth Diwygio’r Senedd.

Effaith

Diben cyffredinol y Bil yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Bydd cynyddu capasiti’r Senedd yn ei galluogi i wneud y canlynol yn fwy effeithiol:

  • dal Llywodraeth Cymru i gyfrif
  • craffu, goruchwylio a gwella polisi, deddfwriaeth a gwariant, a
  • cynrychioli, gwasanaethu ac ymateb i bobl Cymru.

Costau ac arbedion

Mae cost ynghlwm wrth fuddsoddi yn ein democratiaeth. Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi cael ei ddatblygu i gyd-fynd â’r Bil, gan gynnwys mewn perthynas â’i oblygiadau costau ac arbedion i Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Senedd, Awdurdodau Lleol, y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a’r Comisiwn Etholiadol. Bydd gwerth am arian yn parhau i gael ei ystyried yn llawn wrth gyflawni a gweithredu’r diwygiadau.

Mecanwaith

Mae angen deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni’r holl gynigion a nodir uchod.

Adran 2. Beth fydd yr effaith ar lesiant cymdeithasol?

2.1 Pobl a chymunedau

Rhoddwyd ystyriaeth i sut, ac i ba raddau, y gall y ddeddfwriaeth effeithio ar bobl a chymunedau. Roedd hyn yn cynnwys effeithiau ar unigolion, grwpiau o bobl neu gymunedau penodol, pobl sy’n byw, yn gweithio, neu’n gysylltiedig â lleoedd penodol, defnyddwyr cynnyrch neu wasanaethau penodol, gweithwyr, yn gyffredinol ac mewn sectorau penodol, a’r nod o hyrwyddo gwaith teilwng a theg (yn unol ag adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015). Mae’r paragraffau isod yn crynhoi effaith bosibl darpariaethau yn y Bil.

Maint

Bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar fuddiannau amrywiaeth ehangach o gymunedau a phobl ledled Cymru a’u cynrychioli.

Ffiniau

Bydd pobl yn byw mewn etholaethau mwy yn y Senedd nag sy’n digwydd ar hyn o bryd, o ran lefelau poblogaeth, ac yn ddaearyddol. Efallai y bydd hyn yn cael ei ystyried yn effaith negyddol gan rai, gyda’r canfyddiad y gallai eu hardal leol fod wedi ‘colli ei llais’. Gall newidiadau i enwau etholaethau hefyd gyfrannu at y canfyddiad hwn – er enghraifft, os nad yw ardal leol yn ymddangos yn enw’r etholaeth mwyach.

Efallai y bydd rhai hefyd o’r farn y bydd mynediad at eu Haelod o’r Senedd wedi cael ei erydu gan y bydd angen i’r aelod hwnnw gynnwys mwy o etholwyr ac ardal fwy. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio y bydd gan bob un o etholaethau newydd y Senedd chwe Aelod etholedig o’r Senedd.

O ran unrhyw effeithiau ar leoedd penodol, mae’n werth nodi y bydd trigolion etholaeth Senedd y DU Ynys Môn (a warchodir mewn adolygiadau o ffiniau etholaethau Senedd y DU) yn rhan o etholaeth Senedd fwy o’i gymharu, ac un a fydd yn ymestyn i’r tir mawr. Efallai y bydd rhai o drigolion Ynys Môn yn ystyried hyn fel effaith negyddol o ystyried daearyddiaeth unigryw Ynys Môn fel ynys.

Efallai y bydd rhai cymunedau hefyd yn poeni y byddant yn cael eu rhannu rhwng etholaethau’r Senedd ar ôl i adolygiadau o ffiniau gael eu cwblhau. Fodd bynnag, gall Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW) (wedi’i ailenwi), ystyried “unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan y parau arfaethedig” fel rhan o adolygiad 2026. Hefyd, wrth ystyried a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd fel rhan o unrhyw adolygiadau dilynol, gall y LDBCW (wedi’i ailenwi) hefyd ystyried “unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan newidiadau o’r fath”. Byddai’r amrywiaeth o amrywiadau cwota etholiadol sydd wedi’u cynnwys fel rhan o’r adolygiad o’r ffin a fydd yn cael ei gynnal cyn etholiad y Senedd ar gyfer 2030 (ac adolygiadau dilynol) hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd i’r Comisiwn ystyried cysylltiadau lleol, gan gynnal lefel o gynrychiolaeth gyfartal ar yr un pryd.

Systemau pleidleisio a diwygiadau eraill

Mae newidiadau i’r system bleidleisio yn gyffredinol a byddant yn effeithio ar bawb o oedran pleidleisio.

Gall gweithredu gofyniad i breswylio yng Nghymru ar gyfer y ddau ymgeisydd sy’n cael eu hethol i fod yn Aelod o’r Senedd, ac i aros yn Aelod o’r Senedd, olygu y bydd angen i unigolion sy’n preswylio y tu allan i Gymru ar hyn o bryd, ond sy’n bwriadu ceisio cael eu hethol yn 2026 (neu yn y dyfodol) adleoli er mwyn bod yn gymwys. Gellir nodi bod Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 eisoes yn darparu y caiff person nad oes ganddo gyfeiriad sefydlog neu barhaol gofrestru yn y man lle y mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser, neu y mae ganddo gysylltiad lleol ag ef, drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol.

Bydd lleihau hyd tymhorau o bum i bedair blynedd yn golygu y bydd staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Aelodau’r Senedd (a Chynghorwyr Arbennig y Llywodraeth) o bosibl yn wynebu risg o golli eu swyddi’n amlach, o ystyried y bydd eu cyflogwyr (boed yn Aelodau Seneddol neu’n Aelodau o’r Llywodraeth) yn wynebu cael eu hailethol yn amlach.

Bwriad y mesurau yn y Bil sy’n ymwneud â rhannu swyddi yw helpu i sicrhau bod ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i rannu swyddi fel mecanwaith i sicrhau bod rôl Aelod o’r Senedd a swyddfeydd cysylltiedig yn agored i gynifer o bobl â phosibl, gan ddileu rhwystrau posibl a denu amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr a chynyddu amrywiaeth y Senedd.

2.2 Hawliau plant

Mae’n rhaid i Weinidogion roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth arfer unrhyw swyddogaeth. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn ystyried effaith Bil Senedd Cymru (Aelodaeth ac Etholiadau) ar blant yng Nghymru a’u hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): asesiad o’r effaith ar hawliau plant.

2.3 Cydraddoldeb

Cynhaliwyd yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i ystyried effeithiau posibl y ddeddfwriaeth ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r Asesiad Effaith llawn yn nodi, mewn termau cyffredinol, y disgwylir i’r Bil gael effeithiau cadarnhaol ar y cyfan ar amrywiaeth o bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd o bosibl yn gwella ei allu i graffu ar fuddiannau amrywiaeth ehangach o gymunedau a phobl ledled Cymru, a’u cynrychioli, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau ac mae ar gael yn Atodiad B.

2.4 Prawfesur gwledig

Yn fras, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth ar ran pobl Cymru, gan gynnwys unigolion a chymunedau gwledig. Ceir crynodeb o effaith y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn y paragraffau isod.

Ffiniau

Fel y nodwyd uchod, bydd etholaethau’r Senedd yn fwy yn dilyn yr adolygiadau o ffiniau, fel y darperir ar eu cyfer yn y Bil. Felly, gallai pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth ystyried bod hunaniaeth ac anghenion eu cymunedau yn cael eu cynnwys mewn ardal fwy.

Mae risg y gallai pobl mewn cymunedau gwledig fod â phryderon y bydd aelodau etholedig yn ddaearyddol ymhellach i ffwrdd o’u cymunedau. Fodd bynnag, mae system etholiadol newydd y Senedd yn golygu y bydd pobl mewn cymunedau gwledig yn cael eu cynrychioli gan chwe Aelod, a allai liniaru risgiau o’r fath. Ar ben hynny, fel rhan o’r adolygiadau o ffiniau, mae’r Bil yn darparu i’r LDBCW (wedi’i ailenwi) ystyried ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys maint, siâp a hygyrchedd etholaethau arfaethedig neu etholaethau presennol y Senedd. Mae hyn yn golygu y bydd y LDBCW (wedi’i ailenwi) yn ystyried effeithiau posibl maint etholaethau fel rhan o’i waith.

Ystyriwyd a ddylid cyfyngu ar uchafswm maint un o etholaethau’r Senedd. Er enghraifft, mae rheolau ar gyfer adolygiadau o etholaethau Senedd y DU yn datgan na chaiff etholaeth fod ag arwynebedd o fwy na 13,000 cilomedr sgwâr (yn amodol ar rai eithriadau). Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod terfyn wedi’i osod i osgoi etholaethau eithriadol o fawr yn yr Alban, ac yn rhinwedd daearyddiaeth ffisegol, byddai etholaethau yng Nghymru bob amser ymhell o gyrraedd y terfyn hwnnw.

Mae hefyd yn bwysig nodi bod y Bil (at ddibenion yr adolygiad cyn etholiad 2030 a thu hwnt) yn adlewyrchu’r argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig y dylai etholaethau’r Senedd gynnwys nifer gweddol gyfartal o etholwyr, gydag amrywiad derbyniol yn yr etholwyr fesul etholaeth. Yr egwyddor sylfaenol felly yw bod pawb yn cael ei gynrychioli’n gyfartal yn fras ar draws Cymru, gydag etholaethau o’r un maint yn fras o ran etholwyr.

Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r LDBCW (wedi’i ailenwi) barhau â’r arfer o ddynodi etholaethau naill ai’n ‘etholaeth sirol’ neu’n ‘etholaeth fwrdeistrefol’. Fel egwyddor gyffredinol, lle mae etholaethau’n cynnwys elfennau mwy gwledig, byddent fel arfer yn cael eu dynodi’n etholaethau sirol, gydag etholaethau bwrdeistrefol yn cynnwys ardaloedd mwy trefol. Mae prif effaith hyn yn gysylltiedig â gwariant etholiadol rheoledig ymgeiswyr (gyda’r uchafswm yn uwch ar gyfer etholaethau sirol (mwy gwledig) nag etholaethau bwrdeistrefol (mwy trefol). Mae hyn yn golygu bod effaith ariannol ymgyrchu mewn etholaethau gwledig mawr ar ymgeiswyr etholiadol yn lleihau.

Ni ddylai newidiadau i ffiniau etholaethau’r Senedd effeithio ar fynediad at wasanaethau i bobl wledig gan nad ydynt fel arfer yn cael eu darparu ar lefel etholaeth y Senedd.

Efallai fod rhai cymunedau gwledig yn poeni y gallent gael eu rhannu rhwng etholaethau’r Senedd a allai effeithio ar neu danseilio’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau. Fodd bynnag, gall y LDBCW (wedi’i ailenwi), ystyried “unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan y parau arfaethedig” fel rhan o adolygiad 2026. Yn yr un modd, wrth ystyried a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd fel rhan o unrhyw adolygiadau dilynol, gall y LDBCW (wedi’i ailenwi) hefyd ystyried “unrhyw gysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan newidiadau o’r fath”.

Ar sail yr effeithiau a nodwyd uchod, nid yw cwblhau Asesiad llawn ar Effaith Prawfesur Gwledig wedi cael ei nodi fel gofyniad.

2.5 Iechyd

Yn gyffredinol, y bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag iechyd cymunedau a phobl ledled Cymru.

Y tu hwnt i hyn, ni ystyrir bod darpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar iechyd. Yn unol â hynny, penderfynwyd peidio â chynnal asesiad iechyd manylach.

2.6 Preifatrwydd

Ni ystyrir bod y rhan fwyaf o ddarpariaethau Bil Diwygio’r Senedd yn arwain at faterion sy’n ymwneud â phrosesu gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion, neu’n ymwneud ag unigolion o’r fath yn unig.

Er enghraifft, bydd cynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd yn golygu y bydd cyrff sydd eisoes yn prosesu data sy’n ymwneud ag Aelodau o’r fath (er enghraifft, Comisiwn y Senedd) yn gyfrifol am fwy o ddata. Fodd bynnag, mae gan gyrff o’r fath brosesau ar waith eisoes ar gyfer prosesu gwybodaeth am Aelodau, ac ni ystyrir bod Bil Diwygio’r Senedd yn effeithio ar brosesau o’r fath. Yn yr un modd, mae’r Bil yn darparu ar gyfer cynnydd yn nifer uchaf Gweinidogion a Dirprwy Lywyddion Llywodraeth Cymru, ond ni ystyrir ei fod yn effeithio ar y prosesau presennol ar gyfer ymdrin â gwybodaeth am Weinidogion neu Ddirprwy Lywyddion Llywodraeth Cymru.

Mae asesiad o’r effaith ar ddiogelu data wedi cael ei gynnal ar gynigion sy’n ymwneud ag Adolygiadau o Ffiniau Etholaethau’r Senedd ac mae wedi’i gynnwys yn Atodiad C. Ymgynghorwyd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar y rhain ac ni chodwyd unrhyw faterion. Felly, credwyd nad oedd y cynigion yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cynnal Asesiad llawn o’r Effaith ar Ddiogelu Data. Rhoddir crynodeb o'r cynigion yn y paragraffau isod.

Darpariaethau sy'n ymwneud ag Adolygiadau o Ffiniau

Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru (h.y. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru sydd wedi’i ailenwi) gynnal adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd i bennu etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, ac ar gyfer etholiadau dilynol. Mae’r Bil yn nodi’r rheolau a’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru (DBCC) eu dilyn wrth gynnal yr adolygiadau hynny.

Adolygu Data’r Gofrestr Etholiadol

Er mwyn i’r adolygiadau ddigwydd cyn etholiad y Senedd 2030 a thu hwnt, mae’r Bil yn mynnu bod y DBCC yn defnyddio data cofrestr etholiadol, i sicrhau bod maint yr etholwyr yn debyg yn gyffredinol ar draws etholaethau ac o fewn ystod amrywiaeth o gwota etholiadol. Disgwylir y bydd y DBCC yn gofyn (gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol) am fersiynau wedi’u golygu o’r cofrestrau fel rhan o’r gwaith hwn, gan mai dyma’r arfer presennol mae’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW) yn ei ddilyn wrth gynnal adolygiadau etholiadol llywodraeth leol. Felly, ni fyddai’r dull hwn yn golygu prosesu data personol. Os bydd y DBCC yn symud i ffwrdd o’r arfer hwn, ac yn defnyddio’r cofrestrau etholiadol llawn [troednodyn 1], a fyddai’n cynnwys manylion fel enwau, cyfeiriadau a rhifau etholiadol, yna byddai’n rhaid i'r DBCC sicrhau bod unrhyw brosesu data personol yn cael ei wneud yn unol â GDPR y DU.

Gofyniad i ymgynghori a chyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau

Ar gyfer pob adolygiad o ffiniau’r Senedd y mae’n ei gynnal, bydd yn rhaid i’r DBCC ymgynghori ar ei gynigion a chyhoeddi sylwadau a ddaw i law. Ystyrir bod y gofyniad i ymgynghori yn angenrheidiol er mwyn i safbwyntiau pobl a chymunedau gael eu hystyried fel rhan o’r adolygiadau o ffiniau. Mae hyn hefyd yn arfer safonol ar gyfer adolygiadau o ffiniau sy’n cael eu cynnal ledled y DU. Mae ymatebwyr yn debygol o wirfoddoli data personol (fel enwau, cyfeiriadau e-bost, data lleoliad) a hefyd data categori arbennig (fel barn wleidyddol) wrth ymateb i ymgynghoriadau, ac mewn perthynas â mynd i unrhyw wrandawiadau cyhoeddus fel rhan o adolygiadau 2030 a thu hwnt. Mae hyn yn golygu y bydd y DBCC yn prosesu data personol wrth gyflawni ei rwymedigaeth i ymgynghori (er nad yw’r Bil yn datgan bod rhaid casglu data personol).

O ran cyhoeddi ymatebion i’r ymgynghoriad, mae hyn yn sicrhau’r tryloywder mwyaf posibl ar gyfer yr adolygiadau, gan fod modd gweld y sylwadau a ystyriwyd gan y DBCC wrth wneud ei gynigion. Rhagwelir y bydd y DBCC yn cyhoeddi’r sylwadau hynny gydag unrhyw ddata personol wedi’i olygu, gyda phrosesau priodol ar waith i sicrhau bod unrhyw wybodaeth a gyhoeddir yn ddienw. Mae hyn yn adlewyrchu arferion presennol y LDBCW wrth gynnal adolygiadau etholiadol llywodraeth leol.

Adran 3. Beth fydd yr effaith ar lesiant diwylliannol a’r gymraeg?

3.1 Llesiant diwylliannol

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys mewn perthynas â llesiant diwylliannol. Y tu hwnt i hyn, ni ystyrir bod y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant diwylliannol.

3.2 Y Gymraeg

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys mewn perthynas â’r Gymraeg.

Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar gael yn Atodiad E isod.

Adran 4. Beth fydd yr effaith ar lesiant economaidd?

Mae cefnogi twf yn economi Cymru, a thrwy hyn fynd i’r afael â thlodi, wrth galon Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

4.1 Busnes, y cyhoedd ac unigolion

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â llesiant economaidd.

Y tu hwnt i hyn, ni ystyrir bod y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant economaidd.

4.2 Y sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill

Ni chynhaliwyd asesiad llawn o effaith y Bil ar y Sector Cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r Asesiad Effaith Integredig wedi ystyried goblygiadau posibl y Bil i’r sector cyhoeddus yn fanwl. Rhoddir crynodeb o'r ystyriaethau hyn yn y paragraffau isod.

Maint

Bydd cynyddu nifer Aelodau’r Senedd, uchafswm nifer Gweinidogion Cymru ac uchafswm nifer y Dirprwy Lywyddion yn arwain at oblygiadau amrywiol i lwyth gwaith cyrff cyhoeddus fel Comisiwn y Senedd (wrth roi cymorth i Aelodau) a Llywodraeth Cymru (wrth ddarparu cymorth i Weinidogion ac ymateb i graffu seneddol). Mae’r rhain yn cael eu hystyried yn fanwl yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil.

Ffiniau

Mae'r LDBCW yn gorff annibynnol presennol a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'i brif ddiben ar hyn o bryd yw cyhoeddi rhaglen waith sy'n adolygu’n barhaus y trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 prif gyngor yng Nghymru (y bydd yn parhau i wneud hynny ochr yn ochr â'i gyfrifoldebau ychwanegol).

Mae’r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth i ailenwi'r LDBCW yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru i adlewyrchu ei gyfrifoldebau ychwanegol newydd.

Yn ogystal â'i swyddogaethau adolygu etholaeth newydd yn y Senedd, rhagwelir y bydd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Llywodraeth Cymru ei hun yn darparu ar gyfer Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru (wedi’i ailenwi) i ymgymryd â swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae’r cynnydd yn uchafswm nifer y Comisiynwyr yn rhagweld y newid hwn. Yn y cyd-destun hwn, gellir ystyried bod y cynnydd o uchafswm o bump i naw Comisiynydd yn cynrychioli gostyngiad o 25% yn y terfyn uchaf cyfunol presennol o 12 o fewn y ddau gorff presennol (pum comisiynydd ffiniau a saith aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol). Bydd y cyfrifoldebau ychwanegol a roddir i'r LDBCW hefyd yn cynyddu maint y gwaith ar gyfer Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn. Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn cynnwys swyddi Prif Weithredwr, Pennaeth Busnes, Pennaeth Polisi a Rhaglen, Rheolwr Cyllid, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Rheolwyr Adolygu a Swyddogion Cymorth. Mae Ysgrifenyddiaeth Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru hefyd yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ddarparu Ysgrifenyddiaeth i Gomisiwn Ffiniau Cymru ar gyfer ei hadolygiadau o etholaethau Seneddol y DU yng Nghymru.

Felly, ystyrir bod yr effaith ar y LDBCW yn sylweddol, a bydd y rhain yn cynnwys effeithio ar adnoddau, staffio a chyllid (gan gynnwys costau sy’n gysylltiedig â’r ailenwi).

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'r LDBCW ar hyn o bryd yn cael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i ariannu ei weithgareddau refeniw a chyfalaf cyffredinol. Is-adran noddi’r Comisiwn yn Llywodraeth Cymru yw’r Is-adran Polisi Llywodraeth Leol.

Mae trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a’r LDBCW ynghylch y cyllid ychwanegol sydd ei angen oherwydd y cynnydd mewn cyfrifoldebau, er mwyn i'r LDBCW (wedi’i ailenwi) allu dechrau gweithio ar adolygiadau’r Senedd yn fuan ar ôl hynny pan fyddai disgwyl cael Cydsyniad Brenhinol i’r ddeddfwriaeth. Nodir y costau ychwanegol hyn yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

System bleidleisio

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu etholiadau’r Senedd. Swyddogion Canlyniadau (Prif Weithredwyr yr awdurdodau lleol fel arfer) sy’n gyfrifol am drefnu’r etholiadau yn eu hardal.

Mae’r Bil yn darparu ar gyfer newid y system bleidleisio o system aelodau cymysg i system rhestr gyfrannol gaeedig, gyda seddi’n cael eu dyrannu gan ddefnyddio’r dull D’Hondt.

Mae’r newid yn y systemau pleidleisio yn dangos newid sylweddol yn y ffordd y caiff etholiadau’r Senedd eu cynnal. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiwygio ac addasu’r arferion presennol. Yn y byrdymor, bydd hyn yn creu baich ychwanegol ar awdurdodau lleol mewn perthynas ag adnoddau gan y bydd angen iddynt gyflwyno’r newidiadau a sicrhau bod yr holl staff (gan gynnwys staff pleidleisio) wedi’u hyfforddi’n llawn. Efallai y bydd hyn yn gofyn am gyllid ychwanegol.

Ystyrir bod yr effaith ar awdurdodau lleol, yn enwedig gwasanaethau etholiadol, yn sylweddol.

Mae effaith ychwanegol hefyd ar y Comisiwn Etholiadol sy’n gyfrifol am gynhyrchu canllawiau etholiadol yn y DU. Bydd newid i’r system bleidleisio yn gofyn am ailddrafftio’r canllawiau presennol yn sylweddol er mwyn egluro’r newidiadau i bawb sy’n ymwneud ag etholiadau, gan gynnwys ymgeiswyr a phleidleiswyr.

Mae lleihau hyd tymhorau’r Senedd o bum mlynedd i bedair blynedd yn golygu y bydd etholiadau’n cael eu cynnal yn fwy rheolaidd, gan gynyddu’r gost gyffredinol ar gyfer gweinyddu etholiadau’r Senedd ar gyfer gweinyddwyr etholiadol a chyrff fel y Comisiwn Etholiadol.

Yn yr un modd, bydd cynyddu amlder etholiadau cyffredinol i’r Senedd yn golygu bod angen cynnal adolygiadau o ffiniau’n amlach nag y byddai angen fel arall (h.y. unwaith bob wyth mlynedd, yn hytrach nag unwaith bob deng mlynedd). I’r gwrthwyneb, bydd dileu’r angen am isetholiadau yn arwain at arbedion ariannol i gyrff sy’n ymwneud â’u darparu. Mae goblygiadau ariannol newidiadau o’r fath wedi’u hymgorffori yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol hwn.

4.3 Y Trydydd Sector

Nododd yr Asesiad y gallai’r ddeddfwriaeth gael effeithiau ymylol ar gyrff y trydydd sector sydd â diddordeb penodol mewn systemau pleidleisio etholiadol wrth ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd. Efallai y bydd effaith fach ar gyrff trydydd sector sy’n ymwneud â hyrwyddo systemau pleidleisio cyfrannol, er enghraifft y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Y gobaith yw y byddai unrhyw effaith yn gadarnhaol gan fod symud oddi wrth system etholiadol gymysg i aelodau sy’n defnyddio’r system fwyafrifol syml yn rhannol i restr gyfrannol gaeedig yn amlwg yn arwain at gynrychiolaeth decach. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw iawndal ariannol am y math hwn o weithgaredd.

Ni ystyrir bod y goblygiadau hyn yn ddigon sylweddol i fynnu asesiad llawn o effaith y Bil ar y Trydydd Sector.

4.4 Effaith ar gyfiawnder

Mae asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau’r ddeddfwriaeth hon yn nodi nad oes ganddi unrhyw effaith, neu effaith fach iawn, ar y system gyfiawnder. Mae asesiad llawn o’r effaith ar Gyfiawnder wedi’i gwblhau a’i gyhoeddi fel rhan o’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil.

Adran 5. Beth fydd yr effaith ar lesiant amgylcheddol?

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â llesiant amgylcheddol.

Y tu hwnt i hyn, ni ystyrir bod darpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant amgylcheddol.
O dan Adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi, cyhoeddi a gweithredu polisi adnoddau naturiol a chymryd pob cam rhesymol i’w weithredu ac annog eraill i gymryd camau o’r fath. Cyhoeddwyd y Polisi Adnoddau Naturiol ym mis Awst 2017.

Mae’r asesiadau canlynol wedi cael eu hystyried a’u cwblhau lle bo hynny’n briodol.

  • Blaenoriaethau cenedlaethol, heriau a chyfleoedd y Polisi Adnoddau Naturiol - gofynnol ar gyfer pob cynnig (5.1a a 5.1b)
  • Bioamrywiaeth - gofynnol ar gyfer pob cynnig (5.2 a Atodiad F)
  • Newid yn yr hinsawdd - gofynnol ar gyfer pob cynnig (5.3) 
  • Asesiad Amgylcheddol Strategol - Cynlluniau a rhaglenni penodol y mae angen Asesiadau Amgylcheddol Strategol ar eu cyfer o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (5.4)
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - cynigion a allai effeithio ar Ardal Gadwraeth Arbennig neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Ardal (ACA/AGA) (5.5)
  • Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol - prosiectau penodol sy’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref; trafnidiaeth; amaethyddiaeth; coedwigaeth; y môr; draenio tir a thrydan lle bo angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol o dan y Rheoliadau amrywiol (5.6)

5.1 Adnoddau Naturiol

5.1a Sut bydd y cynnig yn cyflawni un neu fwy o Flaenoriaethau Cenedlaethol y Polisi Adnoddau Naturiol?

Ar ôl ystyried y cynigion yn erbyn blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol, ni nodir unrhyw effaith ac felly nid oes asesiad llawn o'r effaith wedi’i gynnal.

5.1b A yw’r cynnig yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau cenedlaethol a’r cyfleoedd canlynol o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?

Ar ôl ystyried y cynigion yn erbyn blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol, ni nodir unrhyw effaith ac felly nid oes asesiad llawn o'r effaith wedi’i gynnal.

5.2 Bioamrywiaeth

Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio ag Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae Asesiad o’r Effaith ar Fioamrywiaeth wedi cael ei gynnal ac wedi’i ddarparu yn Atodiad E.

5.3 Y Newid yn yr Hinsawdd

Mae newid yn yr hinsawdd wedi cael ei nodi fel un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen i ni leihau ein hallyriadau drwy gamau datgarboneiddio (5.3a) ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy gynyddu ein cydnerthedd (5.3b).

5.3a Datgarboneiddio

Ar wahân i wella gallu’r Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â llesiant amgylcheddol, ni ystyrir bod y cynigion yn effeithio’n sylweddol ar lefel allyriadau yng Nghymru.

5.3b Addasu

Ar wahân i wella gallu’r Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â llesiant amgylcheddol, ni fydd y cynnig yn cael effaith sylweddol ar y gallu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

5.4 Asesiad Amgylcheddol Strategol

Mae’r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn berthnasol i gynlluniau, rhaglenni a strategaethau sy’n ofynnol gan ddarpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol, a naill ai’n amodol ar baratoi a/neu fabwysiadu ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol, neu gael ei baratoi gan awdurdod i’w fabwysiadu drwy weithdrefn ddeddfwriaethol (er enghraifft Deddf Seneddol neu reoliad).

Mae angen Asesiad Amgylcheddol Strategol os yw’r cynllun, y rhaglen neu’r strategaeth yn debygol o gael effaith mewn rhai meysydd allweddol – amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd, ynni, diwydiant, trafnidiaeth, rheoli gwastraff, rheoli dŵr, twristiaeth, cynllunio gwlad a thref neu ddefnydd tir.

Nid yw’r cynigion yn effeithio’n sylweddol ar yr ardaloedd hyn ac felly penderfynwyd nad oes angen Asesiad Amgylcheddol Strategol.

5.5 Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Ni fydd y cynigion yn effeithio’n sylweddol ar rwydwaith safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd Natura 2000 ac felly penderfynwyd nad oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

5.6 Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â llesiant amgylcheddol. Y tu hwnt i hyn, ni ystyrir bod y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant amgylcheddol.

Nid yw’r cynigion yn cynnwys unrhyw rai o’r gweithgareddau a restrir yn y canllawiau asesu effaith integredig ac felly rydym wedi penderfynu nad oes angen Asesiad Amgylcheddol Strategol.

Adran 6. Y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Beth fydd yr effaith ar anfantais economaidd-gymdeithasol?

6.1 Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint ac amrywiaeth y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar effaith polisïau a deddfwriaeth sy’n ymwneud ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Y tu hwnt i hyn, ni ystyrir bod y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant economaidd ac felly nid oes Asesiad llawn o’r effaith economaidd-gymdeithasol wedi’i gynnal.

Adran 7. Cofnod o’r asesiadau effaith llawn gofynnol

Mae angen asesiadau effaith llawn:

  • Hawliau plant - angen ei gwblhau
  • Cydraddoldeb - Angen ei gwblhau (gweler Atodiad B)
  • Preifatrwydd - Angen ei gwblhau (gweler Atodiad C)
  • Y Gymraeg - Angen ei gwblhau (gweler Atodiad D)
  • Economaidd / Asesiad Effaith Rheoleiddiol - Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi’i gwblhau
  • Cyfiawnder - Mae asesiad llawn o’r effaith ar Gyfiawnder wedi’i gwblhau a’i gyhoeddi fel rhan o’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil.
  • Bioamrywiaeth - Angen ei gwblhau (gweler Atodiad E)

 

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?

Fel y nodir yn flaenorol yn y ddogfen hon, mae rhanddeiliaid allanol allweddol, yn ogystal â meysydd polisi traws-Lywodraethol, wedi cael eu cynnwys yn llawn yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Bil.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig yn gosod amserlen uchelgeisiol i ddiwygio mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026, a oedd yn golygu nad oedd yn bosibl i Lywodraeth Cymru gynnal ei hymgynghoriad cyhoeddus agored ei hun ar gysyniadau cyffredinol Diwygio’r Senedd na Bil drafft.

Yn hytrach na hynny, bu Llywodraeth Cymru yn:

  • Cydweithio â rhanddeiliaid allanol mewn ffordd wedi’i thargedu, i sicrhau bod swyddogion yn ymwybodol o’u safbwyntiau ar faterion allweddol, ac yn
  • Cydweithio’n gynnar ac yn fanwl â’r gymuned o weinyddwyr etholiadol, gan sicrhau y byddai pryderon gweinyddol yn gallu cael eu cynnwys yn y broses o gynllunio’r ddeddfwriaeth.

Er enghraifft, bu cydweithio rheolaidd ag ysgrifenyddiaeth Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Bil, er mwyn sicrhau bod modd cyflawni’r cynigion sydd wedi’u cynnwys a’u bod yn adlewyrchu arferion presennol ym maes adolygu ffiniau. Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi cael eu cynnal ynghylch y trefniadau arfaethedig a’r effaith bosibl ar y Comisiwn, ochr yn ochr â’r newidiadau sydd i’w gwneud drwy’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).  Bu cydweithio uniongyrchol â’r Comisiwn Etholiadol hefyd ar yr elfennau diwygio hynny sy’n effeithio’n uniongyrchol arno, ac mae’r Comisiwn Etholiadol wedi hwyluso’r broses o ymgysylltu â nifer o gynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol ar gynigion sy’n effeithio ar bleidiau gwleidyddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch goblygiadau diogelu data cynigion yr adolygiad o’r ffiniau.

Hefyd, er nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu cynnal ei hymgynghoriad cyhoeddus ei hun, wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth mae wedi ystyried y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael am farn y cyhoedd am Ddiwygio’r Senedd, a fynegwyd mewn cyfres o ymgynghoriadau a gynhaliwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf (gan y Pwyllgor Diben Arbennig a’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, a’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol cyn hynny). Mae crynodebau o bob un o’r ymgynghoriadau hyn wedi’u cynnwys yn y memorandwm esboniadol a baratowyd i gyd-fynd â’r Bil hwn.

Mae ymatebion i’r ymgynghoriadau hyn wedi helpu i lywio’r gwaith o baratoi’r asesiadau effaith integredig ac unigol. Mae asesiadau effaith unigol hefyd wedi cael eu llywio gan drafodaethau â rhanddeiliaid mewnol a deialog benodol gyda rhanddeiliaid arbenigol allanol, gan gynnwys Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd yr asesiadau effaith hyn yn cael eu hadolygu a’u diweddaru wrth i wybodaeth a thystiolaeth newydd am effaith ddod ar gael.

8.2 Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol – cadarnhaol a negyddol?

Diben y Bil yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Bydd cynyddu capasiti’r Senedd yn ei galluogi i wneud y canlynol yn fwy effeithiol:

  • dal Llywodraeth Cymru i gyfrif
  • craffu, goruchwylio a gwella polisi, deddfwriaeth a gwariant, a
  • cynrychioli, gwasanaethu ac ymateb i bobl Cymru

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant

Mae’r asesiad effaith integredig yn ystyried goblygiadau’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Yn y cyd-destun hwn, ystyrir bod y ddeddfwriaeth yn cael amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol, gan gynnwys ar allu tymor hir y Senedd i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif, gwneud deddfau, ystyried amrywiadau treth, a chynrychioli pobl Cymru. Mae hefyd yn dileu cyfyngiad ar benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch datganoli pwerau, y dylid eu cymryd ar sail pa ddull sy’n diwallu anghenion pobl Cymru orau. Ystyrir bod gwell craffu’n arwain at bolisïau a deddfu gwell, a allai atal ystod eang o broblemau rhag codi yn y dyfodol.

Wrth ddatblygu newidiadau etholiadol, rhoddwyd ystyriaeth integredig i’r newidiadau ehangach sy’n effeithio ar y gymuned etholiadol ehangach, gan gynnwys capasiti timau etholiadau awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022, a diwygiadau sy’n cael eu cyflawni ar wahân drwy Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Llywodraeth Cymru.

Mae cydweithio ac ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol i ddatblygu’r ddeddfwriaeth hon, gan gynnwys partneriaid cyflawni allanol yn y gymuned etholiadol, a rhagwelir y bydd y dull hwn yn cael ei gynnal wrth weithredu’r ddeddfwriaeth hon.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, ac osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae rhai o’r asesiadau effaith yn nodi effeithiau negyddol posibl ar grwpiau neu ardaloedd penodol. Fel y nodwyd yn yr asesiadau, cytunwyd ar fesurau lliniaru i osgoi neu i leihau effeithiau negyddol. Mae’r asesiadau effaith hefyd yn nodi y gallai rhai o ddarpariaethau’r Bil gael effeithiau cadarnhaol ar grwpiau neu ardaloedd penodol. Ni nodwyd unrhyw effeithiau a oedd yn golygu bod angen ailystyried neu oedi cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.

8.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (y Gorchymyn Cynnal Etholiadau) a’i gydgrynhoi, a fydd yn darparu’r sail statudol ar gyfer etholiad 2026, a bydd yn ymgorffori’r newidiadau a fydd yn deillio o Fil Diwygio Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Bydd hefyd yn cynnwys mesurau ymarferol, fel cynllun y papur pleidleisio.

Pa gynlluniau sydd ar waith ar gyfer adolygu a gwerthuso ar ôl gweithredu?

Mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol yn darparu mecanwaith i’r Senedd ystyried cynnal adolygiad o ba mor effeithiol yw darpariaethau’r Bil yn dilyn etholiad 2026, gan roi cyfle i’r Senedd gynnal asesiad gwrthrychol a chynnwys partneriaid a rhanddeiliaid allanol. Gellir seilio ymyriadau a pholisi’r llywodraeth yn y dyfodol ar y canfyddiadau.

Troednodiadau

[1] Mae gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru eisoes fynediad at y cofrestrau perthnasol. Sail gyfreithiol hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 – yn benodol rheoliad 101(2) a (3), sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob swyddog cofrestru yng Nghymru gyflenwi copïau o gofrestrau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn rhad ac am ddim ac wrth eu cyhoeddi.