Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn cynnwys chwe amcan i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth y dylid eu defnyddio i asesu’r effeithiau ar fioamrywiaeth. Gallant hefyd helpu i ddatblygu ac arwain camau gweithredu i gydymffurfio â dyletswydd A6. Maent wedi cael eu symleiddio fel set o gwestiynau i’ch tywys drwy’r asesiad effaith.

Dylid ystyried y cwestiynau hyn p’un a oes gan eich cynnig elfen rheoli tir ai peidio, er y bydd rhai yn arbennig o berthnasol os yw eich maes polisi yn ymwneud â rheoli tir mewn unrhyw ffordd.

Dylech fabwysiadu dull rhagweithiol o ystyried yr effeithiau posibl ar fioamrywiaeth – mae hwn yn un maes lle mae canlyniadau anfwriadol yn aml yn cael eu hanwybyddu, naill ai oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, neu oherwydd ei bod yn anodd neilltuo gwerth ariannol i fioamrywiaeth.

Ar ben hynny, mae’r ddyletswydd yn mynnu ein bod yn chwilio’n gadarnhaol am gyfleoedd i gynnal a gwella bioamrywiaeth, yn uniongyrchol (lle mae’r ymyriad yn ymwneud â rheoli tir neu adeiladu), ac yn anuniongyrchol (er enghraifft, lle gallai fod cyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth). Wrth gwblhau’r asesiad hwn, ystyriwch sut mae gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau yn cyfrannu’n gyfatebol at nodau eich polisi neu brosiect.

Ystyriwch Gwestiynau 1 – 9 ar gyfer POB polisi.

Gwreiddio bioamrywiaeth

1. Sut bydd eich cynnig yn integreiddio bioamrywiaeth i’r broses o wneud penderfyniadau?

Ydych chi wedi ystyried yr effeithiau a’r cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth yn ystod camau cynnar o feddwl neu ddylunio prosiect?

  • Pa effeithiau fydd caffael yn eu cael ar fioamrywiaeth, gan gynnwys bioamrywiaeth fyd-eang?
  • A yw’r cynnyrch yn dod o ffynonellau cynaliadwy?
  • A yw eich prosiect yn cynnwys defnyddio deunyddiau neu arferion sy’n niweidiol i fioamrywiaeth?

Yn gyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys archwilio'r canlynol:

  • i ba raddau y mae bioamrywiaeth wedi’i integreiddio i’r broses o wneud penderfyniadau
  • dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth, a
  • chapasiti Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth.

A yw’n ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid a buddiolwyr ystyried yr effeithiau a’r cyfleoedd ar gyfer gweithredu cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth yn ystod camau cynnar y broses o feddwl a dylunio prosiectau?

  • A yw ystyried bioamrywiaeth yn un o ofynion ceisiadau am gyllid a manylebau prosiectau?
  • A yw eich gwerthusiad o’r rhain yn ceisio sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a’i gwella?

Nod y Senedd yw bod yn esiampl o ran cynaliadwyedd a pherfformiad amgylcheddol. Fel un o’r prif sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, mae’n cydnabod ei gyfrifoldeb i leihau ei effaith ar yr amgylchedd a gweithredu mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol yn ei holl weithgareddau.

Mae’r Senedd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar Gynaliadwyedd, sy’n cynnwys Bioamrywiaeth. Mae’r adroddiad blynyddol yn crynhoi perfformiad amgylcheddol y Senedd, cynnydd yn erbyn targedau dros y flwyddyn flaenorol, ac yn darparu gwybodaeth am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-2022 yn nodi bod y Comisiwn wedi gwneud cynnydd cadarnhaol o ran bioamrywiaeth, gan gynnwys:

cynnydd sylweddol yn ardal gardd Tŷ Hywel, gan ddefnyddio’r hyn a arferai fod yn ardal wedi’i gorchuddio â cherrig i ychwanegu planhigion newydd sy’n gyfeillgar i beillwyr ac ail bwll bach i gynnal infertebratau. Rydym hefyd yn ymchwilio i allu’r safle i gynnal draenogod, er mwyn helpu i leihau dirywiad yn nifer yr anifeiliaid hyn. Mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chyda chefnogaeth y Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy, Janet Finch-Saunders AS, rydym wedi cyflwyno ardal ‘Gwesty Trychfilod’ newydd i ardd Tŷ Hywel yn ddiweddar. Mae’n cynnwys blychau trychfilod i greaduriaid fel gwenyn unigol a phryfed cop i nythu a gaeafu ynddynt, yn ogystal â bod yn ardal lle gellir gadael boncyff coeden Nadolig y Senedd i fod yn gynefin i bryfed. Mae prosiect Gwenyn y Pierhead wedi parhau drwy gydol y pandemig ac mae’r cnwd mêl cyffredinol wedi cynyddu eto eleni. Heb dynnu dim o’r trydydd cwch gwenyn newydd, cynyddodd y ddau arall eu cynhyrchiant mêl bron i 30% eleni.

Fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, disgwylir i’r newidiadau yn seilwaith ffisegol y Senedd sy’n darparu ar gyfer nifer cynyddol o Aelodau fod yn rhai mewnol. Ni ragwelir y bydd hyn yn cael effaith negyddol ar gynefinoedd neu rywogaethau drwy newidiadau mewn defnydd tir nac yn cael effaith negyddol ar Strategaeth Carbon Comisiwn y Senedd, a oedd wedi ymrwymo’n flaenorol i ddyblu’r mannau gwyrdd ar yr ystad.

Ni ragwelir y bydd newidiadau sy’n deillio o Fil Senedd Cymru yn effeithio’n negyddol ar gynnydd cadarnhaol a adroddwyd gan y Senedd.

2. A yw eich cynnig wedi sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried mewn penderfyniadau busnes?

  • A yw wedi ystyried costau oes gyfan sy’n cynnwys gwerth bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol yn y dadansoddiad cost a budd, hyd yn oed os yw hon yn broses anffurfiol?
    • Ydych chi wedi meddwl sut gall gwella bioamrywiaeth helpu i gyflawni ar draws gweithgareddau Llywodraeth Cymru, er enghraifft, i gefnogi gweithgareddau hamdden egnïol, addysg, atal llifogydd, a thyfu bwyd yn lleol? (Er enghraifft, mae toeau gwyrdd yn helpu i ddarparu cynefinoedd bywyd gwyllt, lleihau’r defnydd o ynni a gwella systemau draenio.)
  • A yw wedi ystyried costau hirdymor dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol, a’r potensial ar gyfer arbedion ar gyfer iechyd a llesiant, perygl llifogydd ac ati?
  • A all annog partneriaid a buddiolwyr i ystyried y costau a’r arbedion hyn?

Disgwylir i’r newidiadau yn seilwaith ffisegol y Senedd sy’n darparu ar gyfer nifer cynyddol o Aelodau fod yn rhai mewnol. Nid yw’r cynnig hwn yn effeithio’n sylweddol ar fioamrywiaeth.

3. Sut mae eich cynnig yn gwella dealltwriaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth, gan annog eraill i weithredu?

  • Allwch chi weithio gyda phartneriaid a buddiolwyr i hyrwyddo dealltwriaeth o fioamrywiaeth?
  • Allwch chi hyrwyddo manteision mynediad at fioamrywiaeth drwy ddarparu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus megis gofal cymdeithasol, datblygu cymunedol, iechyd a hamdden?
  • Allwch chi ddarparu, neu ddod o hyd i, hyfforddiant arbenigol lle bo angen?
  • Allwch chi gysylltu â strategaethau a mentrau cyfathrebu eraill ar gyfer bioamrywiaeth, er enghraifft cynlluniau gwobrwyo, digwyddiadau lleol?

Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd yn gwella ei allu i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, gan gynnwys archwilio'r canlynol:

  • i ba raddau y mae bioamrywiaeth wedi’i integreiddio i’r broses o wneud penderfyniadau
  • dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth, a
  • chapasiti Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth.

Y tu hwnt i hyn, nid yw’r cynnig yn effeithio’n uniongyrchol ar wella na chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, mae’r Senedd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar Gynaliadwyedd, sy’n cynnwys adrodd ar gynaliadwyedd er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth.

Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a'n monitro

4. Ydych chi wedi defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael o fioamrywiaeth i lywio eich cynnig a’r asesiad hwn?

Rhaid i chi ystyried:

  • y rhestrau o rywogaethau a chynefinoedd pwysig iawn a gyhoeddwyd o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru)
  • Yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
  • unrhyw ddatganiad ardal perthnasol a gyhoeddir gan CNC.

Os yw eich cynnig yn ymwneud ag adeiladu neu reoli tir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, dylai gyfeirio at gofnodion bioamrywiaeth sydd ar gael drwy:

  • Canolfannau Cofnodion yr Amgylchedd Lleol
  • Atlas o Gymru Fyw
  • Lle

Y tu hwnt i’r effeithiau cyffredinol sy’n deillio o gynyddu capasiti’r Senedd i graffu, gan gynnwys mewn perthynas â bioamrywiaeth, nid yw’r cynnig hwn yn effeithio’n sylweddol ar fioamrywiaeth.

5. Ydych chi wedi defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effeithiau allweddol ar fioamrywiaeth i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth?

  • Ydych chi’n gwybod beth sy’n sbarduno newid a ffactorau negyddol allweddol a allai godi o’ch cynnig?
  • Ydych chi’n fodlon nad yw’r rhain yn berthnasol neu eu bod wedi cael eu hosgoi?

Y tu hwnt i’r effeithiau cyffredinol sy’n deillio o gynyddu capasiti’r Senedd i graffu, gan gynnwys mewn perthynas â bioamrywiaeth, nid yw’r cynnig hwn yn effeithio’n sylweddol ar fioamrywiaeth.

6. A all eich cynnig gyfrannu at ein corff gwybodaeth ar gyfer bioamrywiaeth?

  • A all gefnogi mentrau gwyddoniaeth sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, a chynlluniau monitro?
  • Ydych chi wedi sicrhau bod unrhyw ddata bioamrywiaeth sy’n cael ei gasglu ar gael i’r cyhoedd?

Y tu hwnt i’r effeithiau eang sy’n deillio o gynyddu capasiti’r Senedd i graffu, gan gynnwys mewn perthynas ag adeiladu ein corff gwybodaeth ar gyfer bioamrywiaeth, ni fydd y cynnig yn cyfrannu at ein corff gwybodaeth ar gyfer bioamrywiaeth.

Llywodraethu a chefnogi’r gwaith o weithredu dros bioamrywiaeth

7. A all eich cynnig gefnogi gweithredu dros fioamrywiaeth mewn unrhyw ffordd?

  • A all staff gymryd rhan mewn camau ymarferol?
  • Allwch chi ariannu camau gweithredu’n uniongyrchol, neu’n anuniongyrchol?
  • Allwch chi gefnogi partneriaethau a/neu gydweithio ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth yn lleol ac yn y gymuned?

Y tu hwnt i’r effeithiau cyffredinol sy’n deillio o gynyddu capasiti’r Senedd i graffu, gan gynnwys mewn perthynas â bioamrywiaeth, nid yw’r cynnig hwn yn effeithio’n sylweddol ar fioamrywiaeth.

8. A all eich cynnig helpu i feithrin capasiti ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth?

  • Allwch chi gefnogi’r gwaith o gaffael sgiliau a hyfforddiant?
  • A yw eich cynnig yn sicrhau’r lefel briodol o gymwysterau i’r rhai sy’n ymwneud â phenderfyniadau ynghylch bioamrywiaeth?
  • A all eich cynnig ariannu meithrin gallu ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth?

Y tu hwnt i’r effeithiau eang sy’n deillio o gynyddu capasiti’r Senedd i graffu, gan gynnwys mewn perthynas â bioamrywiaeth, nid yw’r cynnig yn helpu i feithrin capasiti ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth.

9. Ydych chi wedi cofnodi penderfyniadau a chamau gweithredu i gynnal a gwella bioamrywiaeth?

Amherthnasol.