Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb?

Mewn termau cyffredinol, bydd mesurau i gynyddu maint y Senedd o bosibl yn gwella ei allu i graffu ar fuddiannau amrywiaeth ehangach o gymunedau a phobl ledled Cymru, a’u cynrychioli, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Ni ystyrir bod y mesurau canlynol yn cael effaith wahaniaethol o ran pobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010:

  • cynyddu’r cyfyngiad deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i ddau ar bymtheg (yn ychwanegol at y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), gyda’r pŵer i gynyddu’r cyfyngiad hwn ymhellach i bedwar ar bymtheg
  • cynyddu'r nifer mwyaf o Ddirprwy Lywyddion y gellir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i ddau
  • newid system etholiadol y Senedd fel bod yr holl Aelodau’n cael eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig, gyda’r pleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy fformiwla D’Hondt
  • addasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan gynnwys:
    • rhoi i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau newydd Cymru y swyddogaethau angenrheidiol er mwyn iddo allu cynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethau'r Senedd
    • rhoi cyfarwyddiadau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu dilyn wrth gynnal adolygiadau o ffiniau, gan gynnwys:
      • mewn perthynas â’r adolygiad symlach i baru 32 etholaeth Seneddol newydd y DU cyn etholiad 2026 y Senedd (i ffurfio 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd)
      • adolygiad llawn cyn yr etholiad dilynol, ac
      • adolygiadau cyfnodol parhaus.
  • newid y cyfnod arferol rhwng etholiadau cyffredinol y Senedd yn ôl i 4 blynedd.

Ystyriwyd effaith bosibl mynnu bod unigolyn yn cael ei gofrestru i bleidleisio yng Nghymru er mwyn naill ai sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd, neu aros fel Aelod o’r Senedd ar ôl dychwelyd. Mae data’r Comisiwn Etholiadol (er ei fod ar lefel Prydain Fawr) yn dangos bod rhai grwpiau – er enghraifft, lleiafrifoedd ethnig a phobl iau – yn llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio, ac felly’n fwy tebygol o gael eu gwahardd rhag ymgeisio a bod yn aelod o’r Senedd. Fodd bynnag, o ystyried y broses weinyddol gymharol gyflym a syml y mae angen i berson ei chwblhau er mwyn cofrestru, a’r ffaith nad yw’r nodweddion gwarchodedig uchod yn rhwystr cyfreithiol rhag cofrestru, ni ystyrir bod y mesur hwn yn cael effaith wahaniaethol mewn perthynas â phobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r darpariaethau yn y Bil sy’n ymwneud â rhannu swyddi yn darparu llwybr clir ar gyfer gwaith pellach i ystyried goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi yn y Senedd. Pe bai unrhyw gynigion yn cael eu datblygu, gallai hyn arwain at fwy o gyfleoedd i unigolion allu cymryd rhan yn y broses wleidyddol, gan roi cyfle i fynd i’r afael â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu neu amgylchiadau personol.

Beth yw’r effeithiau negyddol posibl ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig a’r rhai sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel a sut byddwch chi’n lliniaru’r rhain?

Nid oes unrhyw effeithiau negyddol wedi’u datgan.

Pa rwystrau, os o gwbl, y mae pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn eu hwynebu? A ellir lleihau, dileu neu liniaru'r rhwystrau hyn?

Roedd ymchwil Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2022 yn edrych ar dangynrychiolaeth grwpiau â nodweddion gwarchodedig mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol yng Nghymru. Canfu fod rhwystrau i ymgeiswyr am swydd etholedig sydd â nodweddion gwarchodedig, rhwystrau i aelodau etholedig sydd â nodweddion gwarchodedig, a rhwystrau i ddarpar ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig a’r cyhoedd. Cafodd rhwystrau eu categoreiddio ymhellach gan yr adroddiad i rwystrau ariannol, diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol a ffisegol. Roedd y rhwystrau’n cynnwys rhwystrau ffisegol, fel ymgeiswyr anabl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn nad ydynt yn gallu mynd yn gorfforol a churo ar ddrysau pleidleiswyr wrth ymgyrchu, yn ogystal â rhwystrau sy’n ymwneud â chyfrifoldebau gofalu, lle nad oedd yr oriau gofynnol ar gyfer ymgyrchu yn gydnaws ag amgylchiadau personol y rheini sydd â phlant ifanc neu gyfrifoldebau gofalu, er enghraifft.

Mae hyn yn awgrymu anghydraddoldeb o ran mynediad o’i gymharu â grwpiau mwyafrifol sy’n dod yn amlwg “ar wahanol gyfnodau a/neu sawl cam drwy gydol bywyd” (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid t46).

Mae rhannu swydd yn un mecanwaith lle gellir lleihau a/neu ddileu rhwystrau i fynediad, gan ddarparu cyfleoedd i bobl nad ydynt, efallai, am nifer o resymau, yn gallu ymrwymo i fod yn Aelod llawn-amser o’r Senedd, neu ymgymryd â rôl benodol yn y Senedd yn llawn-amser, neu nad ydynt yn dymuno ymrwymo i wneud hynny.

Dywedodd Adroddiad Etholiadol Pwyllgor y Senedd 2020:

dadleuodd llawer o’r rhai a gyfrannodd i’n gwaith y byddai rhannu swyddi yn lleihau rhwystrau a allai, fel arall, atal pobl rhag sefyll etholiad i’r Senedd. Yn benodol, clywsom y byddai o fudd i fenywod, pobl ag anableddau, pobl â chyfrifoldebau rhianta a chyfrifoldebau gofalu eraill, neu bobl a oedd am gadw eu proffesiynau neu ymrwymiadau eraill sydd hefyd â rhywbeth i’w gynnig ym myd gwleidyddiaeth (Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf).

Roedd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd wedi nodi rhannu swyddi fel mesur posibl i gynyddu amrywiaeth drwy wneud rolau’n fwy hygyrch a thrwy ddileu rhai rhwystrau a allai atal rhai grwpiau rhag sefyll:

Wrth ystyried rhannu swyddi, rydym wedi nodi y gallai alluogi mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau teuluol a chyfrifoldebau gofalu; y rhai ag anableddau; a’r rhai sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol ymhellach i ffwrdd o’r Senedd. Nodwn y gallai arwain at fanteision croestoriadol, gan ehangu’r cyfle i fod yn Aelod o’r Senedd i sawl cymuned, ac i bobl o sawl cymuned.

Rhannwch eich Asesiad o'r Effaith ar Gyfiawnder yn ehangach yn Llywodraeth Cymru a gofynnwch i gydweithwyr ystyried yr effeithiau nad oeddent wedi’u bwriadu

Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol drwy gydol y broses o ddatblygu deddfwriaeth ar gyfer diwygio’r Senedd, gan gynnwys gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru sy’n gweithio mewn meysydd polisi cysylltiedig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn nodi’r gwaith helaeth sydd wedi cael ei wneud gan wahanol grwpiau arbenigol dros y blynyddoedd diwethaf o ran edrych ar ffyrdd o gynyddu amrywiaeth ymgeiswyr.

Sut ydych chi/y byddwch chi'n defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i chasglu o'r ymchwil i nodi effeithiau?

Mae adroddiadau sy’n cynnwys Dadansoddi Amrywiaeth a Chwalu Rhwystrau i Swyddi Etholedig ar gyfer Pobl â Nodweddion Gwarchodedig yn tynnu sylw at fodolaeth rhwystrau ac yn edrych ar ffyrdd y gellir dileu rhai o’r rhwystrau hyn i gyfranogiad gwleidyddol.

Mae gwahanol argymhellion ar gynyddu amrywiaeth y Senedd wedi cael eu gwneud o’r blaen yn adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017; yn adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020, yn ogystal ag adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig yn 2022. Mae’r rhain yn cynnwys argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau rhannu swyddi.

Bu’r grwpiau hyn yn cyfweld ag arbenigwyr yn y maes, ac yn ystyried yr ymchwil a oedd ar gael, er mwyn dod i’r casgliadau a arweiniodd at eu hargymhellion.

Sut byddwch chi’n gwybod a yw eich darn o waith yn llwyddiant?

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai unrhyw adolygiad o rannu swyddi gael ei arwain gan y Senedd ei hun, gan sicrhau bod mecanwaith effeithiol i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan wrth ymateb i unrhyw argymhellion ac wrth fapio’r camau nesaf. Mae p’un a yw rhannu swyddi yn y Senedd yn dod yn realiti ai peidio yn dibynnu i raddau helaeth ar y camau a gymerir gan y Senedd, ar gasgliadau’r darn hwnnw o waith ac ar unrhyw ymrwymiadau i newid mewn ymateb.

Cofnod o’r effeithiau yn ôl nodweddion gwarchodedig

Bwriad y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â rhannu swyddi yw darparu llwybr clir ar gyfer ystyriaeth fanylach gan y Senedd o oblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi yn y Senedd. Bydd y gwaith hwn yn nodi’r grwpiau penodol a fydd yn elwa o gyfleoedd rhannu swyddi ac unrhyw effeithiau negyddol posibl.

Yn gyffredinol, ystyrir y gall rhannu swydd ddarparu cyfleoedd i bobl nad ydynt, efallai, am resymau amrywiol, yn gallu ymrwymo i fod yn Aelod llawnamser o’r Senedd neu ymgymryd â rôl benodol yn y Senedd yn llawnamser, neu nad ydynt yn dymuno ymrwymo i wneud hynny. Gall rhannu swydd ehangu’r sgiliau a’r profiad a ddaw i’r rolau, gan arwain at lefelau craffu dyfnach ac ehangach. Mae’n cael ei ystyried yn fesur ymarferol sydd â’r potensial i helpu i sicrhau tegwch, cael gwared ar rwystrau a dod â llawer o fanteision i bobl, gan gynnwys menywod, pobl anabl a gofalwyr. Rhagwelir y byddai’r Senedd yn ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol rhannu swyddi. Er mwyn i rannu swydd weithio’n dda, bydd angen gwneud trefniadau ymarferol priodol i sicrhau bod y rôl, y cyfrifoldebau a’r atebolrwydd yn cael eu rhannu’n gyfartal ac yn deg rhwng partneriaid rhannu swyddi. Dyna pam yr ystyrir ei bod yn bwysig archwilio’r ymarferoldeb a’r goblygiadau ymarferol yn llawn, yn ogystal â’r newidiadau deddfwriaethol a fyddai’n ofynnol.

  • Grŵp neu nodwedd warchodedig
  • Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
  • Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
  • Sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?

Grŵp/nodwedd warchodedig: Oedran

Meddyliwch am wahanol grwpiau oedran.

Effeithiau'r cynnig

Cadarnhaol: Gall mesurau rhannu swydd ddenu ystod oedran ehangach o ymgeiswyr.

Rhesymau

Oedran cyfartalog Aelod o'r Senedd yw 55 oed (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw'r Chweched Senedd?). Mae hyn yn cael ei gymharu ag oedran cyfartalog poblogaeth Cymru, sy’n 42.4 oed (ar adeg y ffigurau yng nghanol 2020 - Amcangyfrifon poblogaeth - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod y Senedd yn denu pobl hŷn yn hytrach na’r boblogaeth gyffredinol.

Gall rhannu swydd ddenu carfan wahanol o ymgeiswyr, er enghraifft aelodau iau – y gallai eu hanghenion fod yn wahanol i anghenion pobl hŷn.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Anabledd

Yystyriwch y model cymdeithasol o anabledd  a sut y gallai eich cynnig achosi, neu sut y gellid ei ddefnyddio’n rhagweithiol i ddileu, y rhwystrau sy’n analluogi pobl sydd â gwahanol fathau o amhariadau:

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd.  Rydym yn deall nad namau sy’n gwneud pobl yn anabl, ond y rhwystrau y maent yn dod ar eu traws mewn cymdeithas. Sicrhau bod eich cynnig yn chwalu rhwystrau, yn hytrach na’u creu, yw’r ffordd orau o wella cydraddoldeb i bobl anabl. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r fewnrwyd a chwilio am ‘model cymdeithasol’.

Effeithiau'r cynnig

Cadarnhaol: Gall mesurau rhannu swyddi helpu i chwalu’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu i ddod yn ymgeiswyr ac yn Aelodau o’r Senedd.

Rhesymau

Yn ôl ffigurau Cyfrifiad 2021, mae 10.4 miliwn (17.8%) o bobl yng Nghymru a Lloegr yn anabl (Anabledd, Cymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Ar hyn o bryd, nid oes data ar gael ar faint o Aelodau’r Senedd sy’n anabl. Fodd bynnag (Barriers to elected office for disabled people), rydym yn gwybod bod pobl anabl yn wynebu rhwystrau penodol drwy gydol eu taith i ddod yn ymgeiswyr ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Mae’r adroddiad Dadansoddi Amrywiaeth yn nodi:

Yng nghyd-destun tangynrychiolaeth ddifrifol pobl ag anableddau yn ein deddfwrfeydd etholedig, nid yw’n syndod nad yw’r sefydliadau hyn yn llwyddo i gynrychioli buddiannau pobl ag anableddau yn sylweddol.

Mae’r adroddiad hefyd yn mynd ymlaen i nodi y gallai:

rhwystrau o’r fath gynnwys costau ceisio am swydd etholedig a chael eu dethol, yn enwedig i bobl ag anableddau a allai wynebu costau ychwanegol o ran gofynion mynediad.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Ailbennu rhywedd

Y broses o newid rhyw a phobl Drawsryweddol.

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Beichiogrwydd a mamolaeth

Effeithiau'r cynnig

Cadarnhaol: Gall mesurau rhannu swydd helpu i gael gwared ar rwystrau i swyddi etholedig i fenywod sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Rhesymau

Mae ymchwil yn dangos bod normau rhywedd yn cael “effaith negyddol ar botensial menywod i ennill cyflog; er enghraifft, drwy adael y farchnad lafur yn gynharach oherwydd cyfrifoldebau gofalu” (Chwalu’r rhwystrau i swyddi etholedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig: damcaniaeth newid (crynodeb)). Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pwysig i’w gwneud yn ymarferol i unigolion sy’n wynebu rhwystrau penodol i aros mewn swydd etholedig, er enghraifft wrth ddarparu cymorth ariannol i Aelodau sydd â gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill. Gall cyfleoedd rhannu swydd ddenu mwy o fenywod â phlant ifanc i swydd etholedig, gan ei gwneud yn fwy realistig o ran gyrfa.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Hil

Yn cynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr a Mudwyr, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Crefydd, cred a diffyg cred

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Rhyw

Effeithiau'r cynnig

Cadarnhaol: Gall mesurau rhannu swydd helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n atal unigolion (ni waeth beth yw eu rhyw) rhag ceisio swydd etholedig. Ystyrir y gallai rhannu swydd ddod â manteision, yn benodol, i fenywod.

Rhesymau

Yn gyffredinol, ers datganoli ym 1999, mae menywod wedi cael eu tangynrychioli yn y Senedd. Rydym hefyd yn gwybod bod menywod yn cael eu tangynrychioli’n sylweddol yn y cam ymgeisio ar gyfer etholiadau’r Senedd. Roedd cyfanswm o 470 o ymgeiswyr wedi sefyll i gael eu hethol i’r Senedd yn 2021. O’r rhain, roedd 322 (69%) yn ddynion ac roedd 148 (31%) yn fenywod (Etholiad y Senedd yn 2021: Papur briffio).

Canfu’r adroddiad Dadansoddi Amrywiaeth:

Roedd menywod yn llawer mwy tebygol na dynion o ystyried bod rhwystrau yn fwy ‘sylweddol’, ac ystyried bod cymhellion yn fwy cadarnhaol.

Mae cryn dipyn o ymchwil a thystiolaeth ynghylch manteision polisi cyhoeddus amrywiol i fenywod gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Cyfeiriadedd rhywiol

Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Aelwydydd incwm isel

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Priodas a phartneriaeth sifil

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Effeithiau'r cynnig

Nid oes unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol wedi cael eu nodi o ganlyniad i’r darpariaethau rhannu swyddi. Fel y manylir yn yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant, nid yw’r Bil yn effeithio ar hawliau pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio – dim ond y ffordd y mae pleidleisiau o’r fath yn digwydd.

Rhesymau

Amherthnasol.

Lliniaru

Bydd unrhyw waith sy’n cael ei sbarduno gan y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth yn ystyried ffyrdd o reoli neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

A fydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl yn eich barn chi?

  • Hawliau Dynol
  • Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
  • Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
  • Sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau negyddol?

Erthygl 8: Yr hawl i breifatrwydd

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Erthygl 14: Amddiffyn rhag gwahaniaethu

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Erthygl 9: Rhyddid meddwl, cred a chrefydd

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Erthygl 3, Protocol 1: Yr Hawl i Etholiadau Rhydd  

Effeithiau'r cynnig

Cadarnhaol

Mae gostyngiad yn hyd tymhorau’r Senedd o 5 i 4 blynedd yn cynyddu pa mor aml y mae’r etholwyr yn arfer eu mandad democrataidd i ddewis y ddeddfwrfa.

Mae mabwysiadu system rhestr gyfrannol yn darparu fframwaith i ganiatáu i gyfansoddiad y ddeddfwrfa adlewyrchu’n well y dewisiadau pleidleisio a wneir gan yr etholwyr.

Mae cynyddu pa mor aml y mae ffiniau etholaethau’r Senedd yn cael eu hadolygu yn lleihau’r siawns bod unrhyw etholaeth benodol yn cael ei gorgynrychioli neu ei thangynrychioli i bob pwrpas.

Hawliau Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir

Mae Rhan 2 o Gytundeb Ymadael yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â Chytundeb Gwahanu yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Ardal Masnach Rydd Ewropeaidd (EEA EFTA - mae’r Ardal yn cynnwys gwledydd yr UE yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy) a Chytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir (“Cytundebau Hawliau Dinasyddion”) yn rhoi sicrwydd i ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir a oedd yn preswylio’n gyfreithlon yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 y bydd eu hawliau dinasyddion yn cael eu diogelu.

Mae’r Cytundebau Hawliau Dinasyddion yn cael eu gweithredu mewn cyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (EUWAA - Adrannau 5 a 6 o EUWAA).

Bydd gan unigolion cymwys sy'n dod o fewn cwmpas y Cytundebau Hawliau Dinasyddion fwy neu lai yr un hawliau parhaus i weithio, astudio a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau, i'r graddau y mae'r hawliau hyn wedi deillio o aelodaeth y DU o'r UE yn ogystal â'u cyfranogiad yng Nghytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a Chytundeb Rhyddid Pobl i Symud yr Undeb Ewropeaidd a’r Swistir.

Yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig (e.e. lle mae gan unigolyn ddinasyddiaeth Wyddelig - gan gynnwys dinasyddiaeth ddeuol Brydeinig a Gwyddelig) neu lle’r oedd ganddo ganiatâd amhenodol i ddod i’r Du neu aros yno), bydd angen i unigolion fod wedi gwneud cais am statws preswyl newydd (naill ai cyn setlo neu statws preswylydd sefydlog) drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Daeth y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais o’r fath i ben ar 30 Mehefin 2021.

Ystyriaethau polisi i’w hystyried:

  • Ydych chi wedi ystyried a fydd eich cynnig polisi yn effeithio ar ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir y mae eu hawliau wedi’u diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion?
  • Os oes posibilrwydd y bydd unrhyw effaith negyddol ar ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, sut bydd unrhyw effeithiau o’r fath yn cael eu dileu neu eu rheoli os ystyrir bod rheoli’n briodol?
  • A oes angen cyngor cyfreithiol?

Ystyriwch effeithiau eich polisi ar y meysydd isod, gan nodi a yw’r effaith yn gadarnhaol neu’n negyddol ac a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddileu’r effaith negyddol bosibl. Nodwch y sail ar gyfer eich ateb, gan gynnwys lle ceisiwyd cyngor cyfreithiol a nodwch hefyd lle nad yw hawl yn berthnasol i’ch polisi.

Cydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol

Parhau i gydnabod cymwysterau proffesiynol a enillwyd gan ddinasyddion yr UE/yr Ardal Economaidd Ewropeaidd/y Swistir yn eu gwledydd (ac a gydnabyddir eisoes yn y DU).

Mynediad at systemau nawdd cymdeithasol

Mae’r rhain yn cynnwys budd-daliadau, mynediad at addysg, tai a mynediad at ofal iechyd.

Triniaeth gyfartal

Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu, triniaeth gyfartal a hawliau gweithwyr.

Hawliau gweithwyr

Mae gweithwyr a phobl hunangyflogedig sy’n dod o dan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion yn cael eu gwarantu, yn gyffredinol, yr un hawliau ag yr oeddent yn eu mwynhau pan oedd y DU yn Aelod-wladwriaeth. Mae ganddynt hawl i beidio â chael eu gwahaniaethu oherwydd eu cenedligrwydd, a’r hawl i gael eu trin yn gyfartal â dinasyddion y DU.

(Gall gweithwyr rheng flaen (y dinasyddion hynny sy’n byw mewn un wladwriaeth ac sy’n gweithio mewn gwlad arall yn rheolaidd) barhau i weithio yn y DU os gwnaethant hynny erbyn 31 Rhagfyr 2020).

Ni ystyrir y bydd y Bil yn cael effaith benodol ar ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd na’r Swistir (y mae eu hawliau’n cael eu diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion) o’i gymharu â phobl eraill sy’n byw yng Nghymru. Gellir nodi nad yw’r rheolau ar gyfer yr adolygiad paru o’r ffin cyn etholiad y Senedd yn 2026 yn cynnwys gofyniad i fodloni cwota etholiadol. Gan fod etholaethau Senedd y DU a fydd yn cael eu paru wedi cael eu ffurfio ar sail etholfraint Seneddol y DU, mae hyn yn golygu na fyddant yn ystyried dosbarthiad daearyddol rhai dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu ddinasyddion y Swistir. Y rheswm am hyn yw mai dim ond dinasyddion Prydeinig, dinasyddion cymwys y Gymanwlad a dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon sydd â’r hawl i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Gall pob dinesydd tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau i’r Senedd. Fodd bynnag, ni ystyrir y bydd hyn yn cael effaith wahaniaethol ar bobl ifanc ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu ddinasyddion y Swistir eu hunain. Mae’n cyflwyno’r potensial i rai etholaethau gael nifer fwy neu lai o etholwyr nag y gellid ei ddisgwyl ar sail cwota etholiadol y DU, ond ni ystyrir bod hyn yn cyd-fynd ag effaith wahaniaethol ar ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu ddinasyddion y Swistir eu hunain.