Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig Bil a fydd yn gwella atebolrwydd Aelodau'r Senedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Dechreuodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ymchwiliad i atebolrwydd aelodau unigol yn 2024. Cyhoeddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddau adroddiad ynghyd â set o argymhellion – wedi’u rhannu’n ddwy brif thema, adalw Aelodau o’r Senedd, ym mis Ionawr 2025 a dichell fwriadol a mesurau i gryfhau proses safonau’r Senedd, ym mis Chwefror 2025. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r naill adroddiad ar 10 a’r llall ar 26 Mawrth 2025. Dywedodd yr ymatebion y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Atebolrwydd Aelodau yn ystod tymor yr hydref, er mwyn gweithredu ar argymhellion y Pwyllgor. Diben y Bil yw gwella atebolrwydd Aelodau o’r Senedd drwy gryfhau’r systemau sy’n bodoli ar hyn o bryd, sy’n rheoleiddio ac yn sancsiynu eu hymddygiad.
Ar thema adalw, bydd y Bil yn:
- cyflwyno system o adalw Aelodau o’r Senedd o’r swydd yn ystod eu tymor. Bydd hyn yn cynnwys dau ddigwyddiad sbardun penodedig sy’n rhoi cychwyn ar y broses adalw a chynnal pleidlais ymhlith etholwyr, mewn perthynas ag Aelod, er mwyn cadarnhau a ydynt am ei ddiswyddo neu ei gadw
- galluogi’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyhoeddi canllawiau y bydd yn eu defnyddio i lywio ei ystyriaeth ynghylch a ddylid argymell sancsiwn adalw Aelod (yr ail o’r ddau ddigwyddiad sbardun penodedig posibl)
- gosod dyletswydd ar y Llysoedd yng Nghymru a Lloegr i hysbysu Llywydd Senedd Cymru pan fydd Aelod yn cael ei euogfarnu a’i orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth (gan gynnwys dedfrydau gohiriedig).
O ran mesurau i gryfhau proses safonau’r Senedd, bydd y Bil yn:
- caniatáu i Gomisiynydd Safonau’r Senedd gynnal ymchwiliad i ymddygiad Aelod ar ei ysgogiad ei hun
- ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd sefydlu Pwyllgor a elwir yn Bwyllgor Safonau Ymddygiad (neu enw arall y mae’r Senedd yn penderfynu arno)
- caniatáu i’r Senedd (pe bai’n dewis gwneud hynny) benodi aelodau lleyg i fod yn aelodau o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a bod yn rhan o unrhyw system apelio y mae’r Senedd yn ei sefydlu, fel rhan o’r broses safonau
- gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol i ganiatáu i’r Senedd sefydlu system apelio ar gyfer proses safonau’r Senedd.
- egluro pwerau presennol Gweinidogion Cymru yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud darpariaeth ynglŷn â chynnal etholiadau’r Senedd a chyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffaith anwir.
Hirdymor
Bydd y Bil yn gwneud Aelodau o’r Senedd yn fwy atebol i’r etholwyr, drwy sefydlu system i adalw Aelod etholedig, a’i ddiswyddo yn ystod ei dymor, ar sail ewyllys ddatganedig pleidleiswyr yn yr etholaeth berthnasol.
Atal
Byddai modd gwella uniondeb y broses ddemocrataidd drwy roi pŵer i’r etholwyr ddewis a ydynt am ddiswyddo neu gadw eu Haelod o’r Senedd pe bai’n cael ei euogfarnu a’i ddedfrydu i’r carchar neu pe bai’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell sancsiwn adalw. Nod y system adalw yw atal Aelodau o’r Senedd rhag dwyn anfri ar Senedd Cymru drwy roi’r opsiwn i’r etholwyr ddiswyddo Aelod yn dilyn achos o gamymddwyn difrifol, ac o ganlyniad mae’n ceisio adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn eu cynrychiolwyr etholedig.
Integreiddio
Mae’r system adalw wedi cael ei datblygu i ategu’r trefniadau etholiadol a fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer etholiad 2026 y Senedd ac, yn benodol, y system etholiadol gyfrannol â rhestrau caeedig, ac integreiddio â nhw.
Cydweithio
Mae ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid wedi bod yn hollbwysig i ddatblygu’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys partneriaid cyflawni allanol yn y gymuned etholiadol, Comisiwn y Senedd, Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd a Chomisiynydd Safonau’r Senedd.
Cynnwys
Mae’r cynigion hyn wedi tarddu o’r Senedd ei hun, drwy ystyriaethau gan Bwyllgor y Bil Diwygio a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Er mai Bil Llywodraeth Cymru yw hwn, ei ddiben craidd yw rhoi effaith gyfreithiol i argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Bydd y Senedd yn cael cyfle i ffurfio’r ddeddfwriaeth ymhellach yn ystod y broses o graffu ar y ddeddfwriaeth.
Bydd y Senedd hefyd yn gyfrifol am weithredu darpariaethau penodol yn y ddeddfwriaeth. Er enghraifft, mae’r Bil yn darparu y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn paratoi canllawiau ynglŷn â’r materion i’w hystyried ganddo wrth ystyried a ddylid argymell y dylai Aelod o’r Senedd fod yn destun sancsiwn adalw.
Effaith
Mae’r Bil yn cynnwys mesurau sydd â’r nod o gryfhau proses safonau’r Senedd, gan gynnwys gofyniad bod yn rhaid i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad gorfodol; y gall y Senedd, pe bai’n dewis gwneud hynny, benodi Aelodau lleyg i fod yn aelodau o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a fyddai’n cynnig elfen o annibyniaeth ac arbenigedd ar y cam gwneud penderfyniadau o’r broses. Mae’r Bil hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Comisiynydd Safonau fynd ati’n rhagweithiol i ystyried pryderon ynglŷn ag ymddygiad Aelodau o’r Senedd.
Costau ac arbedion
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â’r Bil, gan gynnwys mewn perthynas â’i oblygiadau i Gomisiwn y Senedd, Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Rheoli Etholiadol, a’r Comisiwn Etholiadol o ran costau ac arbedion. Bydd gwerth am arian yn parhau i gael ei ystyried yn llawn, wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r broses o gyflawni’r diwygiad, gan gynnwys ei roi ar waith.
Dull
Bydd y cynnig polisi a nodir uchod yn cael ei gyflwyno drwy ddeddfwriaeth sylfaenol a rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth honno.
Adran 2: beth fydd yr effaith ar lesiant cymdeithasol?
2.1 Pobl a Chymunedau
Rhoddwyd ystyriaeth i’r ffordd y gall y ddeddfwriaeth effeithio ar bobl a chymunedau, ac i ba raddau. Roedd hyn yn cynnwys effeithiau ar unigolion penodol, grwpiau o bobl neu gymunedau, pobl sy’n byw neu’n gweithio mewn lleoedd penodol neu sy’n gysylltiedig â lleoedd penodol, defnyddwyr cynhyrchion neu wasanaethau penodol, gweithwyr, yn gyffredinol ac mewn sectorau penodol, a’r nod o hyrwyddo gwaith teilwng a theg (yn unol ag adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015).
Bydd y ddeddfwriaeth yn sefydlu system i adalw Aelod etholedig, ei ddiswyddo yn ystod ei dymor ar sail ewyllys ddatganedig pleidleiswyr yn yr etholaeth berthnasol.
2.2 Hawliau Plant
Mae’n ofynnol i Weinidogion roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth arfer unrhyw rai o’u swyddogaethau.
Nid ystyrir y bydd y ddarpariaeth yn y Bil yn cael effaith andwyol ar blant a hawliau plant gan fod angen i ddarpar Aelodau o’r Senedd fod yn 18 oed o leiaf cyn y diwrnod y cânt eu henwebu i sefyll etholiad. Bydd cyflwyno mesur i wneud Aelodau o’r Senedd yn fwy atebol yn gwella o bosibl allu’r Senedd i ystyried safbwyntiau, teimladau a dymuniadau plant a phobl ifanc yng Nghymru, i graffu ar bolisïau a deddfwriaeth ar eu rhan, ac i’w cynrychioli a’u gwasanaethu.
Mae’r Bil yn darparu mai’r personau â hawl i bleidleisio mewn pôl adalw yw’r rhai, ar ddiwrnod y pôl, y bydd ganddynt yr hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad cyffredinol o Aelodau o’r Senedd. Felly, bydd etholfraint pleidleiswyr ar gyfer pôl adalw yr un fath â’r etholfraint ar gyfer etholiadau cyffredinol y Senedd. Bydd hyn yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed, sydd wedi cofrestru i bleidleisio.
Ni nodwyd unrhyw effeithiau uniongyrchol ar hawliau plant o ganlyniad i’r ddarpariaeth yn y Bil ac felly, ni chynaliwyd asesiad llawn, manwl o’r effaith ar hawliau plant. Fodd bynnag, cwblhawyd asesiad llawn o’r effaith ar hawliau plant mewn perthynas â Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a fydd yn cyflwyno diwygiadau ehangach i system etholiadol y Senedd o 2026.
2.3 Cydraddoldeb
Yn gyffredinol, bydd mesurau i wneud Aelodau o’r Senedd yn fwy atebol yn gwella, o bosibl, swyddogaeth graffu’r Senedd ar ran pobl Cymru. Ar y cyfan, ystyrir na fydd y mesurau yn y Bil yn cael effaith wahanol ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig nac ar y rhai o aelwydydd incwm isel. Mae Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau. Mae hyn yn cynnwys asesiad o unrhyw effeithiau y mae’r Bil yn eu cael ar hawliau dynol.
2.4 Prawfesur Gwledig
Ni fydd y Bil yn cael effaith gadarnhaol na negyddol ar unigolion na chymunedau gwledig ac felly nodwyd na fyddai angen cwblhau Asesiad Effaith Prawfesur Gwledig.
Mae’r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â manylion cynnal pôl adalw. Y bwriad polisi yw y bydd y ffordd y cynhelir pôl adalw yn debyg i’r ffordd y cynhelir etholiad cyffredinol i’r Senedd mewn etholaeth, gyda threfniadau tebyg o ran pleidleisio drwy’r posst a nifer y gorsafoedd pleidleisio a’u lleoliadau.
Bydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cyflwyno system newydd ar gyfer etholiadau cyffredinol y Senedd cyn etholiad 2026 y Senedd. Rhoddwyd crynodeb o effaith darpariaethau yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar unigolion a chymunedau gwledig yn yr Asesiad Effaith Integredig.
2.5 Iechyd
Nid ystyrir y bydd darpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar iechyd. Yn unol â hynny, mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio â chynnal asesiad iechyd manwl.
2.6 Preifatrwydd
Ystyriwyd effaith y cynigion polisi ar ddiogelu data, gan gynnwys y goblygiadau o ran casglu a phrosesu data a fydd yn ofynnol o ganlyniad i ddarpariaethau’r Bil. Nodir yr effeithiau, y risgiau posibl sy’n gysylltiedig â chasglu a phrosesu data a’r mesurau lliniaru ar gyfer y rhain mewn Asesiad llawn o’r Effaith ar Ddiogelu Data.
Adran 3: Beth fydd yr effaith ar lesiant cymdeithasol a’r Gymraeg?
3.1 Llesiant Cymdeithasol
Nid ystyrir y bydd darpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant diwylliannol.
Y Gymraeg
Cynhaliwyd Asesiad llawn o’r Effaith ar y Gymraeg.
Adran 4: Beth fydd yr effaith ar lesiant economaidd?
Mae cefnogi twf yn economi Cymru, a thrwy hyn fynd i’r afael â thlodi, wrth wraidd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
4.1 Busnesau, y cyhoedd ac unigolion
Nid ystyrir y bydd darpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu negyddol) ar lesiant diwylliannol.
4.2 Y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill
Nid yw asesiad llawn o effaith y Bil ar y Sector Cyhoeddus wedi cael ei gynnal. Fodd bynnag, mae’r Asesiad Effaith Integredig wedi ystyried goblygiadau posibl y Bil i Weinyddwyr Etholiadol a Chomisiwn y Senedd.
Gweinyddwyr Etholiadol
Mae’r Bil yn gosod dyletswydd gyffredinol ar swyddogion canlyniadau etholaethol mewn perthynas â chynnal pôl adalw yn un o etholaethau’r Senedd yn unol â’r Bil ac unrhyw reoliadau canlyniadol a wneir oddi tano. Rhagwelir ar hyn o bryd y bydd rôl Swyddog Canlyniadau Etholaethol ar gyfer polau adalw yn debyg i’w rôl mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd. Bydd y gofynion yn y Bil i gynnal pôl adalw yn effeithio ar rôl Gweinyddwyr Etholiadol mewn Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am drefnu a rhedeg etholiadau ac maent yn cefnogi Swyddogion Canlyniadau Etholaethol yn eu rôl. Ystyrir y bydd rôl Gweinyddwyr Etholiadol mewn perthynas â threfnu a rhedeg pôl adalw yn debyg i’w rôl mewn etholiadau cyffredinol i’r Senedd.
Y Comisiwn Etholiadol
Bydd y darpariaethau adalw yn y Bil yn estyn y gofynion a osodir ar y Comisiwn Etholiadol ar hyn o bryd i gynnwys polau adalw’r Senedd. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno adroddiad ar y ffordd y gweinyddir unrhyw bôl adalw
- parhau i adolygu a chyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru ar faterion datganoledig
- gallu cynrychiolwyr y Comisiwn i fod yn bresennol mewn pôl adalw
- paratoi cod ymarfer ar gyfer presenoldeb arsyllwyr mewn pôl adalw
- ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ar unrhyw newid i gyfraith etholiadol a wneir drwy reoliad (a chydsynio i bennu terfynau gwariant
- a rhoi cyngor a chymorth.
Comisiwn y Senedd
Bydd y ddarpariaeth yn y Bil yn effeithio ar Gomisiwn y Senedd ar y sail ei fod yn rhoi cymorth i’r Llywydd yn ogystal â’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae swyddfa Comisiynydd Safonau’r Senedd hefyd yn cael ei chefnogi gan swyddogion a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd.
Ceir rhagor o fanylion am effaith y darpariaethau yn y Bil ar y sector cyhoeddus yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a gyflwynwyd ar y cyd â’r ddeddfwriaeth.
4.3 Y Trydydd Sector
Nododd yr Asesiad y gallai’r ddeddfwriaeth gael effeithiau ymylol ar gyrff yn y Trydydd Sector sydd â diddordeb penodol mewn systemau pleidleisio etholiadol ac ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd. Nid ystyrir bod y goblygiadau hyn yn ddigon arwyddocaol i’w gwneud yn angenrheidiol i asesiad llawn gael ei gynnal ar effaith y Bil ar y Trydydd Sector.
4.4 Effaith ar Gyfiawnder
Ystyriwyd effaith y cynigion polisi ar y system gyfiawnder. Ymgysylltwyd â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn cadarnhau’r effeithiau posibl yn llawn. Nodir y rhain mewn Asesiad o’r Effaith ar y System Gyfiawnder sydd wedi cael ei gwblhau.
Adran 5: Beth fydd yr effaith ar lesiant amgylcheddol?
5.1 Adnoddau Naturiol
Ar ôl ystyried y cynigion yn erbyn blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Cenedlaethol, ni nodwyd unrhyw effaith ac felly nid yw asesiad effaith llawn wedi cael ei gynnal.
5.2 Bioamrywiaeth
Cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar Fioamrywiaeth mewn perthynas â Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a fydd yn cyflwyno diwygiadau ehangach i system etholiadol y Senedd o 2026. Ni fydd y darpariaethau yn y Bil yn cael effaith sylweddol ar Fioamrywiaeth.
5.3 Newid yn yr hinsawdd
Nid ystyriwyd y bydd y cynigion yn cael effaith sylweddol ar lefel allyriadau yng Nghymru.
5.3b Y gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Ni fydd unrhyw un o’r risgiau a nodwyd yn Asesiad y DU o Risgiau Newid yn yr Hinsawdd yn effeithio ar ddarpariaethau yn y Bil.
5.4 Asesiad Amgylcheddol Strategol
Nid yw’r cynigion yn cael effaith sylweddol ar y meysydd hyn ac felly penderfynwyd na fydd angen Asesiad Amgylcheddol Strategol.
5.5 Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Ni fydd y cynigion yn cael effaith sylweddol ar rwydwaith safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd Natural 2000 ac felly penderfynwyd na fydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Adran 6: Y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a beth fydd yr effaith ar anfantais economaidd-gymdeithasol?
6.1 Y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Nid ystyrir y bydd darpariaethau’r Bil yn effeithio (naill ai’n fuddiol neu’n negyddol) ar lesiant economaidd ac felly nid yw asesiad llawn o’r effaith economaidd-gymdeithasol wedi cael ei gynnal.
Adran 7: Cofnod o asesiadau effaith llawn sy’n ofynnol
Yr asesiadau effaith llawn sy’n ofynnol:
- Cydraddoldeb
- Diogelu Data
- Y Gymraeg
- Effaith Reoleiddiol
- Cyfiawnder.
Adran 8: Casgliad
Wrth i’r Bil gael ei ddatblygu, bu ymgysylltu a’r rhanddeiliaid allanol a nodir uchod. Mae hyn wedi helpu i lywio’r asesiad effaith hwn.
Mae’r asesiad hwn yn ystyried goblygiadau’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r pum ffordd o weithio a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn y cyd-destun hwn, ystyrir y bydd y ddeddfwriaeth yn cael rhai effeithiau cadarnhaol. Bydd cyflwyno system adalw y gellir ei defnyddio fel sancsiwn fel rhan o broses safonau’r Senedd yn gwneud Aelodau o’r Senedd yn fwy atebol, yn benodol am y bydd y system yn sicrhau mai’r etholwyr sy’n penderfynu’n derfynol a ddylai Aelod sy’n destun adalw gael ei gadw neu ei ddiswyddo. Mae hefyd yn ceisio atal Aelodau rhag ymddwyn mewn ffordd a fyddai’n cael ei hystyried yn achos difrifol o dorri’r cod ymddygiad, gan y gallai’r sancsiwn beri i’r Aelod gael ei ddiswyddo drwy bôl adalw. Mae’r system adalw wedi cael ei llunio i sicrhau y gall integreiddio â’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer etholiad 2026 y Senedd.
Prif effaith y Bil fydd cyflwyno system adalw y gellir ei defnyddio fel sancsiwn fel rhan o brosesau safonau’r Senedd. Bydd hyn yn cael effaith ar holl Aelodau’r Senedd, ond dim ond o dan amgylchiadau prin y bydd Aelod yn destun y sancsiwn os bydd un o’r ddau ddigwyddiad sbardun yn digwydd. Rhagwelir mai dim ond ar nifer bach o achlysuron y bydd adalw yn digwydd, o ystyried bod yr amgylchiadau a fyddai’n arwain at orfodi’r sancsiwn yn seiliedig ar b’un a yw Aelod yn cael ei euogfarnu ac yn cael dedfryd o garchar sy’n llai na’r hyn sy’n arwain at anghymhwyso awtomatig o’r swydd, neu a yw’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell y sancsiwn ar y sail yr ystyrir bod ymddygiad Aelod yn achos difrifol o dorri’r safonau disgwyliedig.
O ran y darpariaethau eraill yn y Bil, mae’n anodd nodi faint o bobl y byddant yn debygol o effeithio arnynt o ystyried y bydd yn dibynnu ar amgylchiadau penodol. Er enghraifft, byddai’n amrywio yn dibynnu ar nifer yr aelodau lleyg y mae’r Senedd yn dewis eu penodi i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a nifer yr ymchwiliadau y mae Comisiynydd Safonau’r Senedd yn eu cynnal ar ei ysgogiad ei hun.
Wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu, ystyriwyd y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystod ei ymchwiliad i atebolrwydd aelodau unigol.
Mae asesiadau effaith llawn manwl wedi cael eu paratoi lle mae’r asesiad hwn wedi nodi y gallai’r Bil gael effeithiau penodol, neu os oes gofyniad deddfwriaethol i wneud hynny. Mae asesiadau effaith unigol wedi cael eu paratoi mewn perthynas â Chydraddoldeb; Diogelu Data; y Gymraeg a’r System Gyfiawnder.
Mae prif effeithiau’r Bil a nodwyd yn ymwneud â chydraddoldeb, o ran potensial i leihau cynrychiolaeth grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn y Senedd os bydd Aelod â nodweddion gwarchodedig yn colli ei sedd o ganlyniad i bôl adalw. Fodd bynnag, yn yr un modd, os bydd Aelod wedi’i adalw heb nodweddion gwarchodedig yn cael ei ddisodli gan unigolyn â nodweddion gwarchodedig, gallai hyn gynyddu cynrychiolaeth y rhai sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig. Bydd cwmpas hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys y camau gweithredu y mae pleidiau gwleidyddol wedi eu cymryd mewn perthynas â dethol ymgeiswyr. Mae hyn yn gysylltiedig â chanllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Cynhaliwyd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb mewn perthynas â’r canllawiau hynny. Nid oes unrhyw gamau lliniaru y gellir eu cymryd i gyfyngu ar yr effaith bosibl oherwydd bydd yr amgylchiadau a fyddai’n peri i Aelod gael ei ddiswyddo o ganlyniad i’w adalw yn amrywio’n fawr ac felly ni ellir eu rhagweld.
Mae’r Bil yn sicrhau y bydd gan Weinidogion Cymru y pwerau i ddarparu ar gyfer llawer o’r manylion gweithredol a fydd yn angenrheidiol i roi’r system adalw ar waith mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11 o’r Bil. Mae’r Bil hefyd yn diwygio adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffaith anwir neu gamarweiniol, cyn neu yn ystod etholiad Senedd er mwyn effeithio ar etholiad unrhyw ymgeisydd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r effeithiau sy’n codi o’r ddeddfwriaeth yn ystod y broses o graffu ar y ddeddfwriaeth a rhoi’r darpariaethau ar waith, gan gynnwys adolygu’r asesiadau effaith fel y bo’n angenrheidiol ac yn briodol. Bydd hyn yn cynnwys ailasesiad o’r effeithiau pan fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu’r rheoliadau canlyniadol a fydd yn rhoi’r system adalw ar waith. O ran y darpariaethau ynglŷn â chryfhau proses safonau’r Senedd, y Senedd, Comisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a fydd yn gyfrifol am fonitro’r effeithiau. O ran y cynigion polisi sy’n ymwneud â’r system adalw a ddeilliodd o’r Senedd, rhagwelir y bydd am gynnal adolygiad o’r ffordd y rhoddir y system ar waith, ar ôl y cyfryw amser ag y mae wedi cael ei defnyddio.
