Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cyflwyno system o adalw Aelodau'r Senedd o'u swyddi yn ystod eu tymor. Bydd yn caniatáu i etholwyr gael y gair olaf ynghylch a ddylid diswyddo neu gadw Aelod o'r Senedd ar ôl i un o ddau ddigwyddiad sbardun posibl ddigwydd, fel a ganlyn:

  • bod Aelod yn cael ei euogfarnu o drosedd yn y Deyrnas Unedig ac yn cael dedfryd o garchar neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw'n gaeth (a'i bod yn ddedfryd nad yw'n arwain at anghymhwyso o swydd yn awtomatig)
  • bod y Senedd yn cytuno i wneud Aelod yn destun pôl adalw yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i osod y sancsiwn adalw.

Mae'n cynnwys mesurau hefyd sy'n ceisio cryfhau proses safonau'r Senedd, gan gynnwys:

  • darparu hyblygrwydd ychwanegol i Gomisiynydd Safonau y Senedd ("y Comisiynydd") gynnal ymchwiliad ar ei ysgogiad ei hun i ymddygiad Aelod
  • galluogi'r Senedd i benodi (os bydd yn dewis gwneud hynny) aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad
  • ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad ym mhob Senedd yn y dyfodol
  • darparu ar gyfer galluogi'r Senedd i gyflwyno mecanwaith apelio yn rhan o'r broses safonau.

Mae'r Bil hefyd yn egluro pwerau presennol Gweinidogion Cymru yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud darpariaeth ynghylch cynnal etholiadau i'r Senedd. Mae hefyd yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffeithiau anwir.

Cofnod o'r effeithiau

Yn gyffredinol, nid yw mesurau'r Bil yn cael unrhyw effeithiau gwahaniaethol ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig fel y'u pennir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r effeithiau ar y rhai â'r nodweddion gwarchodedig canlynol wedi'u hystyried:

  • Oedran
  • Anabledd (y model cymdeithasol o anabledd*)
  • Ailbennu Rhywedd (mae hyn yn cynnwys y weithred o drawsnewid)
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd, cred a diffyg cred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)
  • Priodas a phartneriaeth sifil.

* Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn deall nad yw pobl anabl yn cael eu hanablu gan amhariadau ond gan y rhwystrau y maent yn dod ar eu traws mewn cymdeithas. Y ffordd orau o wella cydraddoldeb i bobl anabl yw drwy sicrhau mai dileu rhwystrau, yn hytrach na'u creu, y bydd eich cynnig. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r fewnrwyd a chwilio am ‘model cymdeithasol’.

Mae mesurau'r Bil hefyd wedi'u hystyried o ran effeithiau ar y rhai o aelwydydd incwm isel, fel y nodir yn nyletswydd economaidd-gymdeithasol Cymru. Yn gyffredinol, nid yw'r mesurau'n cael unrhyw effeithiau gwahaniaethol ar y grŵp hwn o bobl.

Y system adalw

Mae’r effeithiau posibl ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, o ganlyniad i Aelod o’r Senedd yn colli ei sedd yn dilyn canlyniad pôl adalw, wedi'u hystyried.

Yn gyffredinol, nid ystyrir bod y mesurau'n cael unrhyw effeithiau gwahaniaethol ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, nac ar y rhai o aelwydydd incwm isel. Gall diswyddo Aelod o'r Senedd arwain at lai o gynrychiolaeth yn y Senedd o ran grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, os yw'r Aelod hwnnw'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion hynny. of groups who share protected characteristics, if that Member shared one or more of those characteristics.

Yn yr un modd, os caiff yr Aelod sy'n cael ei adalw ei ddisodli gan Aelod sydd â nodweddion gwarchodedig tebyg neu nodweddion gwarchodedig eraill, gallai hyn gynyddu cynrychiolaeth y rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Bydd y cwmpas ar gyfer hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys y camau y mae pleidiau gwleidyddol wedi'u cymryd o ran dewis ymgeiswyr. Mae hyn yn gysylltiedig â chanllawiau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. O ran y canllawiau hynny, cynhaliwyd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb.

Ni ellir rhag-weld yr amgylchiadau a fyddai'n arwain at ddiswyddo Aelod o'r Senedd ond, yn hytrach, byddai'n digwydd mewn ymateb i ymddygiad yr Aelod hwnnw. Nid oes tystiolaeth wedi'i nodi i awgrymu y byddai Aelodau â nodweddion gwarchodedig yn wynebu mwy o risg o gael eu hadalw nag Aelodau nad ydynt yn rhannu'r nodweddion gwarchodedig hyn.

Nid oes unrhyw gamau lliniaru y gellir eu cymryd i leihau'r effaith wahaniaethol bosibl, oherwydd bod yr amgylchiadau sy'n arwain at ddiswyddo Aelod o ganlyniad i'r adalw yn debygol o amrywio'n fawr ac felly ni ellir eu rhag-weld.

Penodi aelodau lleyg i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd

Mae'r Bil yn darparu i'r Senedd, os yw'n dewis gwneud hynny, benodi aelodau lleyg i eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Diben hyn yw darparu elfen o annibyniaeth ac arbenigedd i'r broses safonau, yn benodol yn ystod y cam gwneud penderfyniadau.

Bydd Comisiwn y Senedd, ar ran y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn rheoli'r broses o recriwtio aelodau lleyg a bydd penodiadau terfynol yn cael eu cadarnhau drwy bleidlais y Senedd gyfan. Er nad yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth benodol ynghylch meini prawf sy'n ymwneud â Chynhwysiant ac Amrywiaeth ymgeiswyr, efallai y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn dymuno nodi ffafriaeth i Gomisiwn y Senedd (a fydd yn cynnal y broses recriwtio) geisio recriwtio unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd a meysydd arbenigedd, gan gynnwys rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Byddai'r pwyllgor, felly, yn cynrychioli amrywiaeth y Senedd a phoblogaeth ehangach Cymru, y mae'r Senedd yn ei gwasanaethu a'i chynrychioli. Bydd hyn yn sicrhau amrywiaeth yn ystod cam gwneud penderfyniadau proses safonau'r Senedd, y bydd Aelodau lleyg yn chwarae rhan ynddo.

Dangosir ymrwymiad y Senedd i faterion yn ymwneud ag Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026, a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Senedd. Mae'r Strategaeth yn nodi'r camau gweithredu y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i adeiladu "lle cynrychioladol, cynhwysol i weithio ynddo".

Hawliau Dynol

Ystyriwyd a fyddai agweddau ar y cynigion polisi i gyflwyno system adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r mesurau i gryfhau proses safonau'r Senedd yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol.

Erthygl 6: Yr hawl i gael treial teg

Nid yw cyflwyno'r system adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd yn darparu ar gyfer gohirio cynnal pôl adalw tan ddiwedd y cyfnod apeliadau troseddol.

Mae effeithiau'r cynnig hwn ar yr hawl a ddarperir o dan Erthygl 6 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i dreial teg wedi'i ystyried. Daethpwyd i'r casgliad nad yw'r cynnig yn atal Aelod rhag arfer ei hawl i apelio yn erbyn ei euogfarn a'i ddedfryd.

Erthygl 3, Protocol 1: Hawl i etholiadau rhydd/Hawl i sefyll mewn etholiad ('E3P1')

Gall cyflwyno system adalw ar gyfer Aelodau'r Senedd arwain at Aelod yn colli ei sedd pe bai'r etholwyr yn pleidleisio i'w ddiswyddo, ac felly, gall ymyrryd â'i hawl i eistedd fel aelod.

Mewn amgylchiadau pan fo Aelod wedi'i euogfarnu a'i ddedfrydu i gyfnod o garchar (Digwyddiad sbardun A yn y Bil), ond bod yr Aelod wedi apelio yn erbyn ei euogfarn a'i ddedfryd, ni fydd y system adalw nac, yn benodol, y broses o gynnal pôl adalw, yn cael eu gohirio. Ystyriwyd y gallai hyn effeithio ar Aelod sy'n colli ei sedd, y mae wedyn yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn ei euogfarn neu ddedfryd, ond nad yw'n gallu adennill ei sedd. Fodd bynnag, mae'r cynnig i beidio ag oedi'r broses tra bod apêl yn mynd rhagddi yn gyfiawn, o ystyried bod y cynnig yn ceisio taro'r cydbwysedd rhwng y canlyniadau i Aelod a phwysigrwydd gweithredu'r broses adalw heb oedi diangen a allai, felly, gael effaith negyddol bosibl ar y broses ddemocrataidd.

O ran Digwyddiad sbardun B yn y Bil, ar gyfer pôl adalw, mae amrywiaeth o fesurau diogelu wedi'u cynnwys ynddo, megis y gofyniad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell y sancsiwn adalw, y gofyniad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddilyn canllawiau pan fydd yn penderfynu argymell y sancsiwn, a'r angen am benderfyniad terfynol y Senedd gyfan i gytuno arno.

Caiff yr effaith ar Aelod fel yr amlinellir uchod ei lliniaru yn y pen draw ar y sail y bydd yn cael cyfle i roi ei achos gerbron yr etholwyr pan fyddant yn pleidleisio mewn pôl adalw.

Ystyriwyd yr effaith ar Hawliau'r Confensiwn o ran yr elfen ôl-weithredol sy'n ymwneud ag amseriad cyflawni'r drosedd gan berson cyn iddynt ddod yn Aelod o'r Senedd a chyn i'r darpariaethau ddod i rym (rhaid i'r euogfarn ddigwydd ar ôl i'r darpariaethau ddod i rym ac ar ôl i berson ddod yn Aelod). Daethpwyd i'r casgliad bod unrhyw effaith ar E3P1 yn gyfyngedig ac yn gyfiawn yng nghyd-destun diben mesurau'r Bil. Caiff effeithiau eu lliniaru gan eu bod yn rhai y gellir eu hosgoi. Gall person sy'n agored i gael ei euogfarnu ar ôl etholiad ddewis peidio â sefyll yn yr etholiad hwnnw ac felly, osgoi'r canlyniad o gael ei adalw os caiff ei euogfarnu a'i ddedfrydu i gyfnod o garchar. Y bwriad polisi yw gwneud Aelodau'r Senedd yn fwy atebol i'r etholwyr. Byddai'r diben hwnnw'n cael ei danseilio'n ddifrifol pe gellid dim ond gwneud y risg o Aelod yn colli ei sedd yn gymwys i droseddau a gyflawnir ar ôl i'r person ddod yn Aelod ac ar ôl i fesurau'r Bil ddod i rym.ces committed after the person becomes a Member and after the measures in the Bill come into force.

Erthygl 8: Yr hawl i breifatrwydd

Mae effaith negyddol bosibl ar Aelodau'r Senedd o ganlyniad i estyn swyddogaethau'r Comisiynydd Safonau, drwy ei alluogi i gynnal ymchwiliadau i ymddygiad Aelodau pan nad oes cwyn wedi dod i law.

Caiff unrhyw effaith ei liniaru gan y trothwy sydd wedi'i gynnwys yn y Bil y mae'n rhaid ei fodloni cyn y gall y Comisiynydd arfer y swyddogaeth hon.

Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir

Ni fernir y bydd y Bil yn effeithio’n benodol, boed yn gadarnhaol neu'n andwyol, ar ddinasyddion yr UE, AEE na'r Swistir (y mae eu hawliau’n cael eu diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion), o’i gymharu â phobl eraill sy’n byw yng Nghymru.