Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): asesiad o’r effaith ar gyfiawnder
Asesiad effaith cyfiawnder ar Fil a fydd yn gwella atebolrwydd Aelodau'r Senedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb gweithredol
Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau posibl y ddeddfwriaeth ar y system gyfiawnder yw nad oes ganddi unrhyw effaith, neu effaith fach iawn yn unig.
Cyflwyniad
Mae Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cyflwyno system o adalw Aelodau'r Senedd o'u swydd yn ystod eu tymor. Bydd yn caniatáu i etholwyr gael y gair olaf ynghylch a ddylid diswyddo neu gadw Aelod o'r Senedd ar ôl i un o ddau ddigwyddiad sbardun posibl ddigwydd:
- bod Aelod o'r Senedd yn cael ei euogfarnu o drosedd yn y Deyrnas Unedig ac yn cael dedfryd o garchar neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth (sef dedfryd nad yw’n arwain at ei anghymhwyso yn awtomatig o'i swydd)
- bod y Senedd yn cytuno i wneud Aelod yn destun pôl adalw yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (‘SoCC’) i osod y sancsiwn adalw.
Mae'n cynnwys mesurau hefyd sy'n anelu at gryfhau proses safonau'r Senedd, gan gynnwys:
- darparu hyblygrwydd ychwanegol i Gomisiynydd Safonau y Senedd (‘y Comisiynydd’) gynnal ymchwiliad i ymddygiad Aelod o'i ben a’i bastwn ei hun
- rhoi i'r Senedd (os bydd yn dewis gwneud hynny) y gallu i benodi Aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- yn ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad ym mhob Senedd yn y dyfodol, a
- darparu ar gyfer y gallu i'r Senedd gyflwyno trefn apelio fel rhan o'r broses safonau.
Mae'r Bil yn gosod dyletswydd hefyd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n gwahardd gwneud datganiadau ffug o ffeithiau gan ymgeiswyr yn ystod cyfnod etholiad.
Beth sy'n cael ei gynnig
Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar y llysoedd yng Nghymru a Lloegr i roi gwybod i'r Llywydd - Senedd Cymru pan fydd Aelod yn cael ei euogfarnu a'i orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw'n gaeth (gan gynnwys dedfrydau wedi'u gohirio), neu os ydynt wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn unrhyw euogfarn neu ddedfryd. Mae'r ddyletswydd yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad effeithlon y system adalw, mewn perthynas ag un o'r ddau ddigwyddiad sbardun posibl sy'n arwain at bleidlais adalw.
Er bod hyn yn ddyletswydd uniongyrchol ar y llysoedd, ni fydd yn cynyddu nifer yr achosion na'r beichiau ar y llys; bydd yn ychwanegu gofyniad gweinyddol ychwanegol bach mewn nifer bach o achosion, a bernir bod effaith hyn yn fach iawn.
Nid yw'r Bil yn creu nac yn ehangu unrhyw droseddau (etholiadol) presennol. Mae'r ddeddfwriaeth yn dirprwyo pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer cynnal pôl adalw. Mae manylion y rheoliadau hynny i'w penderfynu o hyd, ond rhagwelir y bydd y troseddau etholiadol sy'n bodoli mewn perthynas ag etholiadau cyffredinol y Senedd (a nodir yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025) (a elwir yn ‘Orchymyn Cynnal Etholiadau’) yn cael eu hymestyn i bôl adalw. Mae'r Bil yn dirprwyo pŵer hefyd i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer mecanweithiau i herio pôl adalw.
Er bod y pŵer gwneud rheoliadau yn y Bil yn debygol o gael ei arfer mewn ffordd sy'n cynyddu nifer y “digwyddiadau etholiadol” y gall troseddau etholiadol fod yn gymwys iddynt, nid oes gan y Bil ei hun unrhyw effaith ac mewn gwirionedd bernir bod yr effaith ymarferol debygol pan wneir yr is-ddeddfwriaeth yn ddibwys:
- Er y bydd amlder unrhyw bôl adalw yn cael ei arwain gan y galw, fel procsi bu 6 deiseb adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yn Senedd y DU yn y 10 mlynedd ers i Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 gychwyn. Gan addasu ar gyfer Senedd o 96 o Aelodau, byddai hyn yn awgrymu y byddai llai nag un pôl adalw yn cael ei gynnal bob dau dymor seneddol.
- Mae nifer y cyfranogwyr mewn pôl adalw yn llawer llai nag mewn etholiad cyffredinol. Ni fydd ymgeiswyr – yn hytrach “aelod sy'n destun adalw” ac “ymgyrchwyr achrededig” (dros dro).
- Ychydig iawn o doriadau troseddau etholiadol sydd wedi'u herlyn yng Nghymru, ac nid yw hyn yn cynnwys unrhyw erlyniadau nac euogfarnau.
Ar gyfer etholiad y Senedd 2021, o'r 8 achos o droseddau etholiadol a adroddwyd i Heddluoedd ledled Cymru, nid arweiniodd yr un ohonynt at achosion llys, rhybudd neu euogfarn, Y Comisiwn Etholiadol, data twyll etholiadol 2021. Yn yr un modd, ar gyfer etholiadau lleol 2022 yng Nghymru, o'r 19 achos o droseddau etholiadol a adroddwyd i Heddlu De Cymru, nid arweiniodd yr un ohonynt at achosion llys, rhybudd neu euogfarn, Y Comisiwn Etholiadol, data twyll etholiadol 2022.
Mae'r Bil yn gosod dyletswydd hefyd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn Gorchymyn Cynnal Etholiadau yn y dyfodol sy'n gwahardd datganiadau ffug o ffeithiau sy'n ymwneud ag etholiadau'r Senedd rhag cael eu gwneud neu eu cyhoeddi. Ni ellir asesu effeithiau hyn ar y system gyfiawnder nes y bydd manylion y drosedd yn hysbys, a bydd Asesiad manwl o’r Effaith ar Gyfiawnder yn cael ei gynnal mewn perthynas â chreu unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol.
Adolygu ar ôl gweithredu
Ar hyn o bryd, ni fwriedir cynnal adolygiad ar ôl gweithredu yn achos y Bil hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi’r ddeddfwriaeth hon mewn ymateb i argymhellion Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd fel rhan o’i ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau Unigol. Er hynny, wrth gyflwyno'r drosedd newydd ac wrth baratoi'r rheoliadau sy'n ymwneud â phôl adalw fel y nodir uchod, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiadau llawn o'r effaith ar gyfiawnder.
