Neidio i'r prif gynnwy

Introduction

Bydd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ("y Bil") Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer menywod i'r system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig a ddefnyddir mewn etholiadau i Senedd Cymru ("y Senedd") (fel y darperir ar eu cyfer ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)), gyda'r bwriad o'u gweithredu mewn pryd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026. Mae'r Bil yn nodi'r rheolau cwota (h.y. y gofynion o ran cyfran a gosodiad menywod ar restrau ymgeiswyr pleidiau) ac yn darparu'r pwerau ar gyfer y manylion gweithredol, a fydd yn dilyn mewn is-ddeddfwriaeth ac y caniateir eu hesbonio mewn canllawiau.

Nod y cwota yw gwneud y Senedd yn fwy cynrychioliadol o gyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd. Diben hyn (sydd hefyd yn ddiben rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Senedd), yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Mae tystiolaeth y gall deddfwrfa sydd â chydbwysedd o ran rhywedd fod yn ddeddfwrfa fwy effeithiol.

Yn benodol, mae'r cwota yn ceisio sicrhau bod cyfran y menywod yn y Senedd yn adlewyrchu'n fras y gyfran o fenywod yn y boblogaeth gyffredinol (sef dros 50%), gan fod menywod wedi bod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol yn gyson ymhlith Aelodau o'r Senedd, ac y ceir tystiolaeth o'r manteision sy'n deillio o'u cynrychiolaeth mewn sefydliadau gwleidyddol.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr etholiadol sydd am sefyll dros blaid nodi a ydynt yn fenyw ai peidio fel rhan o'r broses enwebu er mwyn bod yn ymgeisydd ar restr plaid ar gyfer etholiad i'r Senedd. Mae'n hanfodol i'r polisi bod ymgeiswyr ar restr pleidiau'n nodi a ydynt yn fenyw (ai peidio), gan fod y rheolau cwota yn canolbwyntio ar gynrychiolaeth menywod ar restrau ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol. Mae'r Bil yn cynnwys rheolau sy'n ymwneud â chyfran yr ymgeiswyr sy'n fenywod ar restr plaid, yn ogystal â rheolau o ran safle menywod ar unrhyw restr (h.y. y rheolau sy'n gymwys ar lefel leol). Hefyd, mae rheol ynghylch y gyfran o restrau plaid wleidyddol ledled Cymru sydd â menyw yn y safle cyntaf neu'r unig safle (pan fo'n rhestr o un) (h.y. y rheol sy'n gymwys ar lefel genedlaethol).

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ar restr plaid ar gyfer etholiadau i'r Senedd, fel rhan o'r broses enwebu, nodi a ydynt yn fenyw ai peidio. Darperir ar gyfer y gofyniad hwn, a'r materion sy'n gysylltiedig ag ef, mewn is-ddeddfwriaeth.

Disgrifio'r gwaith prosesu

Ni fydd gan Weinidogion Cymru unrhyw ran uniongyrchol yn y gwaith o gasglu a phrosesu'r data mewn gwirionedd. Pleidiau gwleidyddol, Swyddogion Canlyniadau Etholaethol (SCEau) a'r Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol (SCEC) fydd y rheolyddion data. Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data hwn wedi'i gwblhau i ddisgrifio'r hyn yr ydym yn ystyried fydd goblygiadau'r darpariaethau deddfwriaethol o safbwynt diogelu data a phreifatrwydd. Darperir ar gyfer llawer o'r manylion mewn is-ddeddfwriaeth sydd eto i'w llunio (ac a fydd yn ddibynnol ar y Bil yn cael y Cydsyniad Brenhinol). Mae'r Asesiad Effaith hwn yn nodi'n fras yr hyn y mae'r is-ddeddfwriaeth yn debygol o ddarparu ar ei gyfer.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n sefyll dros bleidiau gwleidyddol cofrestredig nodi a ydynt yn fenyw ai peidio fel rhan o'r ffurflenni enwebu y mae'n ofynnol iddynt eu llenwi er mwyn dod yn ymgeisydd ar restr plaid. Bydd angen i bleidiau gwleidyddol cofrestredig (fel y'u diffinnir yn y ddeddfwriaeth) gasglu'r wybodaeth gan eu hymgeiswyr a defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau bod eu rhestrau'n cydymffurfio â gofynion y rheolau cwota rhywedd. Bydd pleidiau gwleidyddol (drwy eu swyddog enwebu neu bersonau y maent wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddynt) yn cyflwyno'r ffurflenni enwebu, gan gynnwys eu rhestrau ymgeiswyr i'r SCE a fydd yn defnyddio'r wybodaeth i wirio cydymffurfiaeth â'r rheolau cwota sy'n gymwys ar lefel leol (yn ogystal â gofynion eraill o ran enwebu). Yn ei dro, ni fydd y SCE ond yn rhannu gwybodaeth berthnasol â'r SCEC, sydd i'w chyfyngu i'r lleiafswm sy'n angenrheidiol i orfodi cydymffurfiaeth. Disgwylir hefyd i'r wybodaeth hon gynnwys manylion ynghylch a yw'r ymgeisydd yn y safle cyntaf neu'r unig safle ar restr plaid a gyflwynwyd ar gyfer yr etholaeth yn fenyw ai peidio. Ni ddisgwylir iddi gynnwys enwau'r ymgeiswyr hynny, fodd bynnag byddai'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd pan gyhoeddir y datganiadau am y sawl a enwebwyd maes o law. Bydd rhannu gwybodaeth ynghylch a yw ymgeiswyr yn fenywod ai peidio yn galluogi'r SCEC i benderfynu a yw pob plaid sy'n sefyll ymgeiswyr yn yr etholiad yn cydymffurfio â'r rheol sy'n gymwys ar lefel genedlaethol.

Mae SCEau presennol yn ddarostyngedig i safonau perfformiad, fel y'u pennir gan y Comisiwn Etholiadol, sy'n rhestru "Asesiad o ofynion GDPR a chofnodion o'r ffordd y caiff data personol a geir eu rheoli fel rhan o'r broses enwebu" fel gwybodaeth sydd ei hangen arnynt. Mae hyn yn gosod y disgwyliad y dylai SCEau ddeall effaith eu gweithgareddau er mwyn cyflawni un o'r canlyniadau yn y safonau, sef "Mae pawb sy'n gymwys ac sydd am sefyll etholiad yn gallu gwneud hynny ac mae ganddynt hyder yn y broses" (Safonau Perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau). Fe'u cynghorir hefyd i gynnal polisi cadw dogfennau sy'n ymwneud â defnyddio, storio a dileu data a gedwir at ddibenion gweinyddu'r etholiad (Data protection resource for EROs and ROs). Byddai hyn i gyd yn berthnasol i weinyddiaeth SCEau o etholiadau'r Senedd, gan gynnwys ar ôl i'r cwotâu gael eu gweithredu. Fel rhan o'r broses datblygu polisi barhaus, rhoddir ystyriaeth i rôl bosibl ar gyfer y Comisiwn Etholiadol o ran pennu safonau a darparu cyngor mewn perthynas â'r SCEC.

Fel rheolyddion, bydd SCEau yn darparu Hysbysiad Preifatrwydd i ymgeiswyr sy'n egluro at ba ddibenion y cesglir y data, sut y mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth fel rhan o'r broses i ddod yn ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer y Senedd a sut y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei phrosesu. Bydd yr hysbysiad hwn hefyd yn nodi sut y bydd y data hwnnw'n cael ei rannu ar ôl i ymgeiswyr ei gyflwyno, ac at ba ddiben y'i rhennir. Bydd angen ystyried a ddylai'r SCEC hefyd ddarparu Hysbysiad Preifatrwydd fel rhan o'u rôl. Mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i wneud darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth ar gyfer archwilio'r wybodaeth am rywedd a ddarperir gan ymgeiswyr (h.y. gwybodaeth ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio).

Mae pleidiau gwleidyddol hefyd yn darparu Hysbysiad Preifatrwydd ar wahân i ymgeiswyr fel rhan o'u rôl i reoli aelodaeth o'u pleidiau a dewis ymgeiswyr etc. Bydd angen iddynt ehangu'r hysbysiadau hyn i gyfeirio at y defnydd o'r data ychwanegol hwn ar gyfer llunio rhestrau ymgeiswyr sy'n cydymffurfio.

Bydd y SCE yn rhannu data personol â'r SCEC mewn modd cyfyngedig. Darperir ar gyfer manylion yr holl wybodaeth y gallai fod angen ei rhannu â'r SCEC mewn is-ddeddfwriaeth i ddilyn. Yn yr un modd, darperir ar gyfer i ba raddau y bydd gan bersonau eraill hawliau i archwilio'r wybodaeth am rywedd a ddarperir gan ymgeiswyr ac unrhyw fesurau diogelu cysylltiedig mewn is-ddeddfwriaeth.

Bydd yn ofynnol i'r SCE gyhoeddi'r rhestr o ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys yn y datganiad am y sawl a enwebwyd. Er na fydd yr wybodaeth am rywedd a ddarperir gan ymgeiswyr yn cael ei chyhoeddi, bydd trefn rhestr y blaid (a fydd yn cael ei llywio gan yr wybodaeth hon a'r rheolau cwota) ar gael i'r cyhoedd, ac felly efallai y bydd yn bosibl canfod, neu o leiaf rag-weld yn hyderus, sut y mae rhai ymgeiswyr wedi disgrifio eu rhywedd (ond nid pob ymgeisydd o reidrwydd).

Mae'n bosibl y bydd angen y data wedyn at ddibenion achos cyfreithiol, yn benodol, os cyflwynir deiseb etholiadol a bod yr wybodaeth am rywedd a ddarperir gan ymgeiswyr yn berthnasol iddi.

Bydd y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr nodi a ydynt yn fenyw ai peidio. I lawer o bobl, ni fydd yr wybodaeth y maent yn ei rhoi ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio yn fater sensitif. Weithiau, fodd bynnag, gall fod yn sensitif i'r person dan sylw. Nid yw'r wybodaeth hon yn ddata categori arbennig. Mae data am iechyd yn ddata categori arbennig, ac er y gallai nodi rhywedd person, weithiau, olygu bod gwybodaeth am eu hiechyd yn cael ei datgelu (er enghraifft, os yw'r person wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd), ni fyddai nodi rhywedd ynddo'i hun yn golygu datgelu unrhyw wybodaeth am iechyd ymgeisydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal Asesiad llawn o'r Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â'r Bil hwn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wahân. Mae'r asesiad wedi ystyried effeithiau'r cynigion hyn mewn amryw o amgylchiadau, gan gynnwys y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am rywedd a'i gysylltiad â hawl ymgeisydd i sefyll mewn etholiad. Ni ofynnir i ymgeiswyr ond nodi a ydynt yn fenyw ai peidio at ddibenion y cwota. Mae'r cwotâu ar gyfer menywod, felly'r unig wybodaeth sydd ei hangen gan ymgeiswyr yw manylion am eu rhywedd, h.y. a ydynt yn fenyw ai peidio. Dyma'r geiriad yn y Bil a'r cwestiwn y bydd gofyn i ymgeiswyr ei ateb wrth ddarparu gwybodaeth am eu rhywedd. Ni fernir bod angen gofyn rhagor o gwestiynau am rywedd.

Bydd yn cwmpasu'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll dros blaid mewn etholiad cyffredinol i'r Senedd (sy'n cwmpasu Cymru gyfan). Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth hon unwaith ar gyfer pob etholiad i'r Senedd y maent yn dymuno sefyll dros blaid ynddo. Cynhelir etholiadau'r Senedd unwaith bob pum mlynedd, er bod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cynnig lleihau hyn i bedair blynedd. Mae'n anodd rhag-weld faint o bobl fydd yn cael eu cynnig fel ymgeiswyr ar restrau pleidiau ar gyfer etholiadau'r Senedd yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried bod cynlluniau hefyd fel rhan o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) i newid y system etholiadol ar gyfer y Senedd i system â rhestrau caeedig. Gan ddefnyddio nifer yr ymgeiswyr yn etholiad y Senedd yn 2021 (sef 470 o ymgeiswyr ar draws 60 o seddi - Etholiad y Senedd yn 2021: Papur briffio) fel llinell sylfaen, rydym yn amcangyfrif y gallai fod tua 700-800 o ymgeiswyr ym mhob etholiad cyffredinol i'r Senedd ar ôl cynyddu ei maint i 96 Aelod o dan system â rhestrau caeedig.

Nid yw'r rheolau ond yn gymwys i lunio rhestrau ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol. Nid ydynt yn effeithio ar faterion diweddarach fel llenwi swyddi gwag sy'n codi yn ystod tymor y Senedd. Yn unol â hynny, dim ond ar adeg yr etholiad cyffredinol, neu o gwmpas yr adeg honno, y bydd angen yr wybodaeth ynghylch a yw darpar ymgeisydd yn fenyw ai peidio, ac nid ar ôl i'r cyfnod ar gyfer unrhyw her ddod i ben, neu os bydd her (deiseb etholiadol) yn cael ei chyflwyno ar ôl yr etholiad, unwaith y bydd yr achos hwnnw (ac unrhyw apêl gysylltiedig) wedi'u cwblhau. Er y gallai fod angen yr wybodaeth ar bleidiau gwleidyddol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad er mwyn dewis ymgeiswyr, dim ond yn ystod y cyfnod enwebu y bydd angen yr wybodaeth ar y SCEau a'r SCEC a hyd nes y bydd y dyddiad cau ar gyfer her wedi dod i ben, neu os bydd her, unwaith y bydd yr achos wedi dod i ben.

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn llunio canllawiau ar gyfer SCEau presennol, sy'n cynnwys cyngor ar drin data yn unol â'r gyfraith etholiadol a gofynion GDPR y DU. Mae'n debygol y bydd y Comisiwn Etholiadol yn diweddaru'r canllawiau hyn os oes angen i adlewyrchu newidiadau o ganlyniad i'r Bil hwn.

Mae pleidiau gwleidyddol eisoes yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth am ymgeiswyr, e.e. cyfeiriadau cartref drwy'r broses enwebu. Mae eisoes yn ofynnol i SCEau dderbyn a phrosesu data personol am ymgeiswyr yn ystod y broses enwebu, ac ar ei hôl. Felly, er bod yr wybodaeth sydd i'w darparu yn wybodaeth newydd, o ran pleidiau gwleidyddol a SCEau, fe'i darperir ar eu cyfer o fewn cyfundrefn bresennol sydd eisoes yn cynnwys darparu a phrosesu data personol.

Bydd angen i ymgeiswyr sy'n sefyll dros bleidiau nodi a ydynt yn fenyw ai peidio fel rhan o'r ffurflenni enwebu sy'n orfodol er mwyn dod yn ymgeisydd ar restr plaid. Mae cyflwyno gwybodaeth bersonol yn rhan sefydledig o'r broses etholiadol ac mae ymgeiswyr yn gyfarwydd iawn â darparu eu data fel hyn. Mae pleidiau gwleidyddol a SCEau eisoes yn egluro i ymgeiswyr drwy Hysbysiad Preifatrwydd at ba ddibenion y maent yn casglu ac yn prosesu'r data, a bydd y ddeddfwriaeth hon yn ychwanegu darn arall o ddata at y gofynion hynny.

Bu rhywfaint o ymgysylltu wedi'i dargedu â rhanddeiliaid perthnasol ynghylch y gofyniad newydd am wybodaeth am rywedd fel rhan o'r pecyn ehangach o wybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn ystod y broses enwebu. Teimlwyd yn gyffredinol y byddai'n briodol integreiddio'r elfen newydd hon i systemau a phrosesau presennol lle mae arferion gorau ar drin data eisoes wedi'u sefydlu. Bydd yr ymgysylltiad hwn yn parhau wrth i'r ddeddfwriaeth sylfaenol fynd rhagddi, ac wrth ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth a fydd yn dilyn.

Ymhellach, bydd y gyfraith ar y cwotâu a'r broses etholiadol yn glir. Felly, bydd yn amlwg i ddarpar ymgeiswyr y bydd angen iddynt nodi eu rhywedd (yn benodol, p'un a ydynt yn fenyw ai peidio) ac y bydd angen i restrau'r pleidiau gydymffurfio â'r rheolau hynny ac, gan fod y rhestrau yn cael eu cyhoeddi ac yn weladwy i bleidleiswyr, y gallai fod yn bosibl, weithiau, i bobl ganfod sut y mae rhai ymgeiswyr wedi disgrifio eu rhywedd.

Grwpiau bregus

Nac ydynt, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod rhaid i ymgeiswyr sy'n cael eu hethol i'r Senedd fod dros 18 oed.

Er bod y math o ddata sy'n cael ei gasglu yn newydd a bod rhannu peth o'r data â'r SCEC yn newydd, mae'n arferol i SCEau gasglu data drwy ffurflenni enwebu ym mhob etholiad. O'r herwydd, mae prosesau a rheolau presennol ar waith i ddiogelu'r data (a gellir ehangu'r rheolau, neu fabwysiadu rheolau penodol newydd, i gwmpasu'r wybodaeth newydd sydd i'w darparu), a bydd darpariaethau mewn cysylltiad â'r SCEC yn trin yr wybodaeth hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o gynlluniau ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth.

Pwrpas y prosesu

Amlinellir amcanion y polisi yn Adran 1 – Nod y cwotâu yw ceisio gwneud y Senedd yn fwy cynrychioladol o gyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd. Mae hyn at y diben (sydd hefyd yn ddiben rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Senedd) o wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru.

Yn benodol, mae'r cwota yn ceisio cynyddu'r tebygolrwydd y bydd cyfran y menywod yn y Senedd yn adlewyrchu'n fras y gyfran o fenywod yn y boblogaeth gyffredinol (sef dros 50%), gan fod menywod wedi bod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol yn gyson ymhlith Aelodau o'r Senedd, ac y ceir tystiolaeth o'r manteision sy'n deillio o'u cynrychiolaeth mewn sefydliadau gwleidyddol.

Effaith ar unigolion

Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i is-ddeddfwriaeth ddarparu bod pob ymgeisydd ar restr plaid yn nodi a ydynt yn fenyw ai peidio fel rhan o'r broses enwebu. Mae hyn yn hanfodol bwysig os yw'r SCE a'r SCEC am allu barnu'n effeithiol a yw plaid wedi cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ai peidio. Nodir manylion y trefniadau gorfodi mewn is-ddeddfwriaeth, ond maent yn debygol o ganolbwyntio ar y canlynol. Yn gryno, os na fydd ymgeiswyr ar restr plaid yn darparu gwybodaeth am eu rhywedd, ni fyddant yn cael eu henwebu yn ddilys ac ni fyddant yn cael eu henwebu fel ymgeiswyr yn yr etholiad ar gyfer y blaid. Os bydd y blaid yn methu â sicrhau bod ei rhestr yn cydymffurfio â'r rheolau ar lefel leol, bydd y rhestr yn cael ei gwrthod. Os bydd y blaid yn methu â sicrhau bod ei rhestr yn cydymffurfio â'r rheol ar lefel genedlaethol, bydd y blaid yn cael cyfle i ddewis rhestr neu restrau i'w newid, a chanlyniad hynny fydd bod ymgeiswyr ar y rhestr neu'r rhestrau a ddewisir yn cael eu symud i fyny neu i lawr y rhestr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Bydd camau y gall y SCE eu cymryd hefyd i ddatrys materion o ddiffyg cydymffurfio os na fydd y blaid yn cymryd camau ei hun. Canlyniad y broses hon yw y gallai effeithio ar y tebygolrwydd y bydd ymgeiswyr yn ennill sedd, neu fod ymgeiswyr yn peidio â chael eu henwebu.

Fel y soniwyd yn flaenorol yn yr Asesiad Effaith hwn, efallai y bydd rhai pobl eraill yn gweld yr wybodaeth am rywedd a ddarparwyd gan ymgeiswyr. Efallai na fydd hyn yn fater sensitif i lawer. Weithiau, fodd bynnag, gall fod yn sensitif i rai pobl. Efallai y bydd hefyd yn bosibl, weithiau, i bobl ganfod sut y mae rhai ymgeiswyr ar restr wedi disgrifio eu rhywedd. Er y gallai hyn arwain at y cyhoedd yn canfod gwybodaeth fwy personol am ymgeisydd (y gallai fod yn sensitif i rai ymgeiswyr), gellid dadlau bod person yn rhoi eu hunain yn llygad y cyhoedd mewn ffordd y gallant ddisgwyl craffu personol ychwanegol.

Manteision prosesu

Yn fwy penodol, nod y cwotâu yw cynyddu'r tebygolrwydd y bydd cyfran y menywod yn y Senedd yn adlewyrchu'n fras y gyfran o fenywod yn y boblogaeth gyffredinol (sef dros 50%). Mae mynd i'r afael â thangynrychiolaeth grŵp mwyafrifol (h.y. menywod) yn allweddol i sicrhau Senedd fwy cynrychioliadol, ac felly effeithiol.

Canfu ymchwil ryngwladol fod manteision penodol yn deillio o gynrychiolaeth menywod mewn sefydliadau gwleidyddol. Canfuwyd bod menywod mewn gwleidyddiaeth yn:

  • Rhoi blaenoriaeth i faterion polisi a deddfwriaethol penodol
  • Rhoi blaenoriaeth i fathau penodol o waith
  • Hyrwyddo ffyrdd penodol o weithio
  • Annog safon uwch o ymgeiswyr yn gyffredinol
  • Creu modelau rôl mewn swyddi arweinyddol gwleidyddol
  • Cynyddu cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol
  • Lleihau llygredigaeth a gweithgarwch anfoesegol.

Bydd casglu'r data hwn yn y modd a amlinellir yn caniatáu i SCEau a'r SCEC orfodi'r rheolau yn effeithiol. Ar gyfer pleidiau gwleidyddol, bydd yr wybodaeth hon yn eu galluogi i lunio eu rhestrau ymgeiswyr yn gywir, gan leihau'r risg na fydd eu rhestrau yn cydymffurfio.

Y broses ymgynghori

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am brosesu unrhyw ddata personol. Mae cyfrifoldebau proseswyr a rheolyddion eisoes wedi'u gosod ar SCEau a'r pleidiau gwleidyddol o dan y broses enwebu bresennol, a bydd angen iddynt ehangu'r data y maent yn ei gasglu o ganlyniad i'r polisi hwn. Mae'n ofynnol i'r sefydliadau hynny fod yn gyfrifol am eu cydymffurfiaeth eu hunain yn y maes hwn, ac mae SCEau presennol yn ddarostyngedig i safonau perfformiad a bennir gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r SCEC yn rôl newydd a rhoddir ystyriaeth i a allent hefyd fod yn destun safonau perfformiad tebyg neu ganllawiau ar yr arferion gorau, a all gynnwys materion sy'n gysylltiedig â diogelu data. Bydd angen i'r SCEC gydymffurfio â GDPR y DU.

Bu ymgysylltu'n gynnar â Grŵp Rhanddeiliaid Ymarferwyr Etholiadol, pleidiau gwleidyddol a'r Comisiwn Etholiadol ar eu priod rolau a chyfrifoldebau, yn ogystal ag ymgysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch Erthygl 36(4) a chysylltu â swyddogion GDPR/hawliau gwybodaeth mewnol. Mae adborth gan y rhanddeiliaid hyn wedi helpu i lywio'r Bil. Bydd ymgysylltu mwy manwl â rhanddeiliaid yn parhau wrth i'r darpariaethau deddfwriaethol sylfaenol gael eu llunio'n derfynol, ac wrth ddatblygu unrhyw is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth sylfaenol.

Asesu rheidrwydd a chymesuredd

Mae'r polisi yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno rhestrau sy'n cydymffurfio â'r rheolau cwota, a fydd yn ei dro yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gasglu data ynghylch a yw eu hymgeiswyr yn fenywod ai peidio. Bydd angen i SCEau hefyd weld yr wybodaeth hon i wirio bod rhestrau'n cydymffurfio â'r rheolau o fewn y broses bresennol o ystyried papurau enwebu a dilysrwydd enwebiadau. Bydd angen i'r SCEC hefyd weld rhywfaint o'r data hwn i wirio cydymffurfiaeth, ond bydd hyn yn cael ei gyfyngu i'r lleiafswm sy'n angenrheidiol.

Mae adrannau blaenorol yr Asesiad Effaith hwn yn egluro bod y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i wneud y prosesu hwn yn ofynnol, a hynny oherwydd ei bod er budd y cyhoedd i'r Senedd fod yn fwy cynrychioliadol o gyfansoddiad y gymdeithas o ran rhywedd. Mae gwella effeithiolrwydd y ddeddfwrfa fel hyn er budd pawb, ac mae'n dod ag ystod ehangach o safbwyntiau i'r Senedd i wneud penderfyniadau ar bolisïau a phenderfyniadau ariannu sy'n effeithio ar fywydau pobl. Bydd yr wybodaeth y bydd angen ei chasglu yn rhinwedd y ddeddfwriaeth yn gymesur â chyflawni'r nod hwn. Y rheswm am hyn yw:

  • y bydd y gyfraith ond yn ei gwneud yn ofynnol casglu, darparu a phrosesu gwybodaeth sy'n angenrheidiol i gyflawni'r polisi yn effeithiol (o ran yr hyn y mae angen ei rannu â'r blaid wleidyddol a'r hyn y mae rhaid ei ddarparu i'r SCE a'r SCEC)
  • na fydd gwybodaeth am rywedd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o'r datganiad am y sawl a enwebwyd.

Mae'r canllawiau presennol a gyhoeddwyd i SCEau ar bwnc diogelu data yn cynghori "bod prosesu data personol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol / Swyddogion Cofrestru yn debygol o fod o dan y 'sail gyfreithlon' ei fod yn 'angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd'” (Data protection resource for EROs and ROs). Mater i'r SCEau yw penderfynu ar y sail gyfreithlon drostynt eu hunain a sut i ddogfennu yn eu Hysbysiad Preifatrwydd y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data.

Mater i SCEau, y SCEC a'r pleidiau gwleidyddol fydd penderfynu ar y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r system gwota neu ei gweinyddu, a bod yn glir am hyn yn eu Hysbysiad Preifatrwydd.

Y sail gyfreithlon ar gyfer y sefydliadau hyn yn prosesu'r wybodaeth i gydymffurfio â'r rheolau ac fel y rhagwelir yn yr Asesiad Effaith hwn fyddai er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, gan fod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gydymffurfio â gofynion ynghylch eu rhestrau ymgeiswyr ac y bydd yr is-ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i SCEau a'r SCEC orfodi'r rheolau cwota fel rhan o'u dyletswyddau swyddogol. Darperir ar gyfer y sail gyfreithlon hon yn Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU:

Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU: mae angen prosesu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolydd yn ddarostyngedig iddi.

Gall y sail gyfreithlon bod prosesu yn 'angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd' (Erthygl 6(1)(e)) fod yn berthnasol ar gyfer rhywfaint o'r prosesu y bydd y SCEau a'r SCEC yn ei wneud i weinyddu'r cwotâu. Bydd manylion yr hyn y gall neu y bydd yn ofynnol iddynt ei wneud ac unrhyw gyfyngiadau ar y prosesu hwnnw neu fesurau diogelu cysylltiedig yn cael eu nodi yn yr is-ddeddfwriaeth.

Er nad yw manylion ynglŷn ag a yw person yn fenyw ai peidio yn debygol o fod yn ddata categori arbennig am y rhesymau a roddir uchod, gallai fod yn sensitif, weithiau, i rai pobl. Yn benodol, gellid cael amgylchiadau lle gallai'r wybodaeth, ynghyd â gwybodaeth arall sy'n hysbys i'r cyhoedd, ddatgelu gwybodaeth neu awgrymu rhywbeth am ymgeisydd sy'n sensitif. O'r herwydd, mae'r asesiad hwn wedi ystyried y gofynion ar gyfer data categori arbennig a byddai'r amod canlynol o dan Erthygl 9 yn gallu cael ei fodloni:

Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU: mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o ‌fudd sylweddol i’r cyhoedd, ar sail cyfraith ddomestig a fydd yn gymesur â’r nod yr eir ar ei drywydd, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelwch data ac yn darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol ar waith i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion gwrthrych y data.

Yn ogystal, ategir Erthygl 9(2)(g) gan adran 10 o Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae adran 10 yn dweud, os yw'r prosesu yn dibynnu ar 'fudd sylweddol i'r cyhoedd' ar gyfer y sail gyfreithlon, bod angen bodloni amod ychwanegol hefyd. Mae rhestr o amodau derbyniol at y diben hwn i'w gweld yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018. Y "Dibenion statudol ac ati a dibenion llywodraethol" a ddiffinnir ym mharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018 yw'r dibenion y dibynnir arnynt yma. Er mwyn dibynnu ar y sail gyfreithlon yn Erthygl 9(2)(g) a'r amod ym mharagraff 6, rhaid i'r rheolwr hefyd fod â dogfen bolisi briodol ar waith (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018) ac mae Rhan 4 o'r Atodlen yn cynnwys amodau pellach ynghylch y ddogfen bolisi honno.

Rhagwelir y byddai canllawiau presennol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer y SCE yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r uchod, ac y byddai canllawiau tebyg ar gael ar gyfer y SCEC.

Gyda'r bwriad o wneud y Senedd yn fwy effeithiol, nod y polisi yw cynyddu'r tebygolrwydd y bydd cyfran y menywod yn y Senedd yn adlewyrchu'n fras y gyfran o fenywod yn y boblogaeth gyffredinol (sef dros 50%) drwy ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno rhestrau ymgeiswyr sy'n cydymffurfio â'r rheolau ynghylch cyfran a gosodiad menywod. Bydd SCEau yn gwirio'r rhestrau hyn i edrych a ydynt yn cydymffurfio â'r rheol ar lefel leol a bydd y SCEC yn gwirio cydymffurfiaeth â'r rheol ar lefel genedlaethol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i bleidiau gwleidyddol, SCEau a'r SCEC gael gwybodaeth ynghylch a yw ymgeiswyr yn fenywod ai peidio er mwyn cydymffurfio, ac felly sefyll ymgeiswyr mewn etholiad (yn achos pleidiau) neu asesu cydymffurfiaeth (yn achos SCEau a'r SCEC). Mae prosesu data yn y ffordd a ddisgrifir yn yr asesiad hwn yn cyflawni'r dibenion hyn.

Rhoddwyd ystyriaeth i gynllun cwota gwirfoddol, ond gwrthodwyd yr opsiwn hwn. Fe'i hystyriwyd yn llai tebygol o gyflawni'r nod polisi.

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r gofyniad gorfodol ar ymgeiswyr i nodi a ydynt yn fenyw ai peidio (h.y. a allai'r gofyniad hwn fod yn wirfoddol yn hytrach). Penderfynwyd y gallai pleidiau wynebu anawsterau wrth ddangos bod eu rhestrau'n cydymffurfio heb wybodaeth ynghylch a oedd pob ymgeisydd yn fenyw ai peidio, ac y gallai fod risgiau i'r system beidio â gweithio'n iawn neu'n effeithiol, gyda chanlyniadau andwyol i bleidiau o ran pwy y gallent eu cynnig i sefyll ac i rai ymgeiswyr o ran eu gallu i sefyll ym mhob achos. Mae'r wybodaeth hon, a ddefnyddir i asesu cydymffurfiaeth, yn rhoi'r cyfle gorau i wireddu nod y cwotâu mewn ffordd nad yw'n ymyrryd yn annheg â hawliau plaid a'i hymgeiswyr i sefyll.

Ystyriwyd hefyd a ddylai grŵp ar wahân (fel y Bwrdd Rheoli Etholiadol) fod yn gyfrifol am wirio rhestrau ar gyfer cydymffurfiaeth â'r meini prawf cwota rhywedd, ond byddai'r opsiwn hwn wedi cynyddu'n anghymesur nifer y bobl sy'n cael mynediad at ddata ymgeiswyr. Byddai naill ai wedi bod yn ofynnol i bleidiau neu ymgeiswyr gyflwyno rhestrau a gwybodaeth am rywedd yn uniongyrchol i grŵp o'r fath, neu i SCEau rannu data o'r fath ag ef. Ystyrir ei bod yn fwy priodol i'r SCE gynnal y gwiriadau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'u rôl bresennol yn gwirio papurau enwebu ymgeiswyr. Ystyrir y byddai hyn yn broses symlach ac y byddai'n manteisio i'r eithaf ar y manteision a ddaw yn sgil defnyddio profiad a dyletswyddau presennol SCEau mewn perthynas â thrin data sensitif sydd wedi'i gynnwys mewn papurau enwebu. Y bwriad yw penodi'r SCEC o'r gronfa bresennol o Swyddogion Canlyniadau Awdurdodau Lleol, sy'n golygu y byddant o bosibl yn dod â phrofiad blaenorol o'r gyfraith etholiadol a'r arferion yn y maes i'r rôl, a fydd yn anochel yn rôl tymor byr.

Y rheidrwydd i bleidiau gwleidyddol rannu data personol â'r SCE

Er mwyn gwneud y Senedd yn fwy effeithiol, nod y polisi yw cynyddu'r tebygolrwydd y bydd cyfran y menywod yn y Senedd yn adlewyrchu'n fras y gyfran o fenywod yn y boblogaeth gyffredinol (sef dros 50%) drwy ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno rhestrau ymgeiswyr sy'n cydymffurfio â'r rheolau ynghylch cyfran a gosodiad menywod. Er mwyn cyflawni eu dyletswydd i wirio bod rhestrau pleidiau wedi cydymffurfio â'r rheolau ar lefel leol, bydd angen i'r SCE wybod pa ymgeiswyr sy'n fenywod a pha rai sydd ddim. Bydd angen i'r ymgeisydd nodi'r wybodaeth hon, a'i chyflwyno i'r SCE drwy Swyddog Enwebu'r pleidiau fel rhan o'r papurau enwebu sy'n ofynnol o dan y broses enwebu bresennol. Defnyddir y papurau enwebu i gadarnhau bod ymgeiswyr wedi'u henwebu'n ddilys, ac maent yn elfen orfodol o'r broses enwebu. 

Heb yr wybodaeth hon, ni fyddai'r SCE yn gallu gwirio bod rhestrau plaid yn cydymffurfio â'r rheolau. Fel y nodwyd uchod, mae SCEau yn ddarostyngedig i'r safonau perfformiad presennol sy'n cyffwrdd â diogelu data, ac mae'r rhain yn debygol o gwmpasu eu gweithgareddau o safbwynt gweinyddu'r rheolau cwota.

Bydd manylion gweithredol eraill yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Mae SCEau presennol yn cyhoeddi Hysbysiad Preifatrwydd mewn perthynas â'r wybodaeth y maent yn ei chasglu drwy'r enwebiadau a'r broses etholiadol ehangach. Dylai'r wybodaeth am rywedd a ddarperir gael ei chynnwys yn yr hysbysiadau hyn yn y dyfodol, yn ogystal â sut a pham y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei rhannu ac â phwy.

Y rheidrwydd i SCEau rannu data personol â'r SCEC

Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion i wneud darpariaeth ynghylch rôl y SCEC, felly darperir ar gyfer manylion y rôl honno mewn is-ddeddfwriaeth. Mae'r cwota yn cynnwys rheol sy'n gymwys ar lefel genedlaethol, ac felly mae angen i berson ar lefel genedlaethol ystyried cydymffurfiaeth â'r cwota hwn – dyma fydd rôl y SCEC. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen i bob un o'r SCEau ddarparu gwybodaeth i'r SCEC sy'n ymwneud â'r ymgeisydd yn y safle cyntaf neu'r unig safle ar restr pob plaid yn eu hetholaeth. Gan na fydd angen i'r SCEC adnabod yr ymgeiswyr hyn, ni fydd ond angen iddynt wybod a ydynt wedi nodi eu bod yn fenywod ai peidio, a faint o ymgeiswyr sydd ar restr pob plaid, ac felly ni ddisgwylir i unrhyw ddata personol arall gael ei rannu â hwy (er y bydd y rhestrau am y sawl a enwebwyd yn cael eu cyhoeddi yn y pen draw). Heb yr wybodaeth hon, ni fydd y SCEC yn gallu gwirio cydymffurfiaeth plaid â'r rheolau ar lefel genedlaethol.

Mae'r SCEC yn rôl newydd a rhoddir ystyriaeth i ganllawiau a safonau perfformiad perthnasol sy'n ymwneud â'u rôl, gan gynnwys a ddylid cymhwyso unrhyw reolau cadw penodol i wybodaeth a rennir â hwy ar adeg llunio'r is-ddeddfwriaeth.

Cyflawni'r un canlyniad heb gasglu data a allai fod yn sensitif

Mae'r polisi yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau lunio rhestrau sy'n cydymffurfio â'r rheolau o ran cyfran a gosodiad menywod ar restrau pleidiau ac i SCEau a'r SCEC wirio bod y rhestrau hyn yn cydymffurfio. Nid yw'n bosibl llunio a gwirio rhestrau ymgeiswyr heb gasglu data ynghylch a yw'r ymgeiswyr yn fenywod ai peidio.

Mae'r ddeddfwriaeth yn diffinio'r rheolau cwota yn glir ac yn rhoi pwerau i'r is-ddeddfwriaeth i ddelio â'r gofynion gweithredol. Bydd swyddogaethau SCEau a'r SCEC yn cael eu nodi yn yr is-ddeddfwriaeth honno, a'u cyfyngu ganddi. Byddant hwy a phleidiau gwleidyddol hefyd wedi'u rhwymo gan gyfraith diogelu data. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys mecanwaith i'r Senedd ystyried cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y system newydd yn dilyn yr etholiad cyntaf y mae'n gymwys iddo, ac i Lywodraeth Cymru ymateb i unrhyw adroddiad a osodir gerbron y Senedd o ganlyniad.

Ansawdd data a lleihau data

Bydd ymgeiswyr yn darparu'r wybodaeth yn uniongyrchol. Er na fydd darparu gwybodaeth ffug am rywedd yn esgor ar gosb droseddol, mae cyfraith achosion yn dangos bod gan SCEau hawl i wrthod enwebiadau sy'n dwyll amlwg.

Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi canllawiau i helpu SCEau i gydymffurfio â'r gyfraith etholiadol. Disgwylir y bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith etholiadol ar ôl pasio'r Bil.

Mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth

Mae adran 6(2) o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn darparu, pan fo person y gosodir rhwymedigaeth arno i brosesu data personol gan ddeddfiad a'i fod yn cael ei brosesu dim ond at y dibenion y mae'n ofynnol iddo gael ei brosesu gan y deddfiad a dim ond drwy ba fodd y mae'n ofynnol ei brosesu, y person yw'r rheolydd.

Bydd pleidiau gwleidyddol, SCEau a'r SCEC, fel rheolyddion, yn gwneud penderfyniadau am weithgareddau prosesu. Bydd ganddynt reolaeth gyffredinol dros y data personol sy'n cael ei brosesu, a hwy yn y pen draw fydd yn gyfrifol am y prosesu. Yn unol â hynny, byddant yn gyfrifol am gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Gan y bydd yr wybodaeth yn cael ei chasglu fel estyniad o broses sy'n bodoli eisoes, bydd y broses honno ynghyd â'r rheolau a'r safonau perfformiad presennol sy'n gymwys mewn perthynas â hi, yn gyfarwydd i bartïon allweddol. Ar hyn o bryd, mae gan y Comisiwn Etholiadol rôl o ran eu helpu i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth drwy ganllawiau.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Amherthnasol

Nodi ac asesu risgiau

Yn disgrifio ffynhonnell risg a natur yr effaith bosibl ar unigolion.

Y tebygolrwydd o niwed:

  • Annhebygol
  • posibl
  • debygol

Difrifoldeb y niwed:

  • Bach
  • sylweddol
  • ddifrifol

Y risg gyffredinol:

  • Isel
  • canolig
  • uchel

Risg 1

Yn gyffredinol, gallai unigolion gael eu troi i ffwrdd rhag sefyll mewn etholiad gan y gellid ystyried bod y ddeddfwriaeth yn rhy ymwthiol, a chan effaith bosibly ffaith y gallai fod yn bosibl, weithiau, rhag-weld o'r rhestr gyhoeddedig yr hyn y mae ymgeiswyr penodol wedi'i ddweud am eu rhywedd.

Mae'n bosibl y gallai fod effaith negyddol ar rai unigolion a allai, oherwydd eu hamgylchiadau penodol, deimlo'n ansicr neu'n bryderus ynghylch nodi a ydynt yn fenyw ai peidio, ac ystyried hyn yn rhwystr i'w cyfranogiad fel ymgeisydd ar gyfer etholiad.

Y tebygolrwydd o niwed

Annhebygol (ar sail bod y niferoedd yr effeithir arnynt yn y ffordd hon yn debygol o fod yn isel iawn – ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr ni fydd gwybodaeth am p'un a ydynt yn fenyw ai peidio yn sensitif).

Difrifoldeb y niwed

Bach neu sylweddol, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Gellid dadlau y byddai rhywun sy'n sefyll mewn etholiad i'r Senedd yn rhoi eu hunain yn llygad y cyhoedd a bod rhywfaint o graffu yn anochel.

Y risg gyffredinol: Isel

Risg 2

Datgelu data sensitif am rywedd unigolyn i'r cyhoedd, o ganlyniad i achos o dor diogelwch data gan reolyddion/ proseswyr.

Fodd bynnag, efallai y gellid casglu'r wybodaeth hon mewn rhai achosion o'r rhestr ymgeiswyr sy'n cael ei chyhoeddi ac sydd ar gael i'r cyhoedd.

Y tebygolrwydd o niwed

Annhebygol (ar sail y bydd mesurau rheoli ar waith ac na fydd yr wybodaeth hon yn wybodaeth sensitif i'r rhan fwyaf o bobl).

Difrifoldeb y niwed

Bach neu sylweddol – yn dibynnu ar natur y datgeliad ac amgylchiadau'r unigolyn.

Y risg gyffredinol: Isel

Risg 3

Datgelu data am rywedd unigolyn i'r cyhoedd, o ganlyniad i berson sydd wedi gweld y data hwn yn ystod y broses archwilio yn ei ddatgelu i'r cyhoedd.

Fel uchod, efallai y gellid casglu'r un wybodaeth mewn rhai achosion o'r rhestr ymgeiswyr sydd ar gael i'r cyhoedd.

Y tebygolrwydd o niwed

Posibl (ar y sail bod ychydig yn llai o reolaeth dros bwy sy'n gweld yr wybodaeth a beth maent yn ei wneud gyda'r wybodaeth. Fodd bynnag, ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr ni fydd yr wybodaeth hon yn wybodaeth sensitif).

Difrifoldeb y niwed

Bach neu sylweddol – yn dibynnu ar natur y datgeliad ac amgylchiadau'r unigolyn.

Y risg gyffredinol: Canolig

Risg 4

Rhyddhau gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â rhywedd ymgeisydd i'r cyhoedd o ganlyniad i her gyfreithiol, e.e. drwy'r broses deiseb etholiadol. Os bydd ymgeisydd yn destun her, gallai gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'u rhywedd gael ei datgelu yn ystod yr achos cyfreithiol, gan arwain at ganlyniadau sylweddol i'r unigolyn o bosibl.

Y tebygolrwydd o niwed

Annhebygol (ar y sail bod heriau cyfreithiol yn brin.

Hefyd yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n annhebygol y bydd rhywedd ymgeisydd yn cael ei gwestiynu, ac ni fydd yr wybodaeth yn sensitif i'r ymgeisydd).

Difrifoldeb y niwed

Bach neu sylweddol – yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn.

Gellid dadlau y byddai rhywun sy'n sefyll mewn etholiad i'r Senedd yn rhoi eu hunain yn llygad y cyhoedd a bod rhywfaint o graffu yn anochel.

Y risg gyffredinol: Canolig

Nodi mesurau i leihau risg

Yr opsiynau i leihau neu ddileu'r risg.

Yr effaith ar y risg:

  • Wedi'i dileu
  • Wedi'i lleihau
  • Wedi'i derbyn

Y risg weddilliol:

  • Isel
  • canolig
  • uchel

Cymeradwywyd y mesur:

  • Do
  • Naddo

Risg 1

Gallai canllawiau i ymgeiswyr a Hysbysiadau Preifatrwydd (a ddiwygiwyd i adlewyrchu'r newid yn y gyfraith) roi sicrwydd i unigolion ynghylch pam mae angen yr wybodaeth a sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio, ei storio a'i rhannu (gan gynnwys y cyfnod cadw a'r trefniadau ar gyfer gwaredu).

Ni ofynnir i ymgeiswyr ond nodi a ydynt yn fenyw ai peidio at ddibenion y cwota, gan nad oes angen unrhyw wybodaeth arall at ddibenion gweithredu'r cwota yn effeithiol.

Yr effaith ar y risg

Wedi'i lleihau'n rhannol drwy geisio'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i weithredu'r ddeddfwriaeth yn unig (h.y. a yw ymgeisydd yn fenyw ai peidio)

Y risg weddilliol

Bach

Cymeradwywyd y mesur

Gall canllawiau a Hysbysiadau Preifatrwydd a ddarperir gan reolyddion data ddarparu mesurau lliniaru pellach.

Yn y pen draw, ymgeiswyr fydd yn penderfynu a fyddant yn rhannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'u rhywedd at y dibenion a nodwyd. 

Risg 2

Fel rheolyddion data, bydd y pleidiau gwleidyddol, y SCE a'r SCEC wedi'u rhwymo gan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU.

Rhoddir ystyriaeth i briodoldeb mesurau diogelu pellach mewn is-ddeddfwriaeth.

Yr effaith ar y risg

Wedi'i lleihau – o ystyried y bydd y gyfraith GDPR bresennol yn gymwys ac efallai y bydd y risg yn cael ei lleihau ymhellach drwy is-ddeddfwriaeth.

Y risg weddilliol

Bach

Cymeradwywyd y mesur

I'w ystyried ymhellach yn ystod y cyfnod is-ddeddfwriaeth.

Risg 3

Rhoddir ystyriaeth i osod cyfyngiadau ar bwy all archwilio papurau enwebu ac amodau ar gyfer gwneud hynny.

Yr effaith ar y risg

Wedi'i lleihau

Y risg weddilliol

Isel/Canolig

Cymeradwywyd y mesur

I'w ystyried ymhellach yn ystod y cyfnod is-ddeddfwriaeth.

Risg 4

Er na fydd darparu gwybodaeth anghywir am rywedd yn drosedd, efallai y bydd amgylchiadau lle gallai'r wybodaeth a roddir gan ymgeisydd fod yn berthnasol i her gyfreithiol.

Yr effaith ar y risg

Wedi'i derbyn

Y risg weddilliol

Canolig

Cymeradwywyd y mesur

Amherthnasol