Neidio i'r prif gynnwy

Mae deddfwriaeth nodedig i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw, sy'n ei gwneud yn gyfraith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yw symud pethau ymlaen mewn ffordd bendant tuag at darged 2050 o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy gryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg, gyda'r amcan cyffredinol o wneud yn siŵr bod holl ddisgyblion ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn defnyddio'r Gymraeg yn annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Yn seremoni selio'r Bil, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: 

Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd. Mae'r Ddeddf hon yn adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru. Mae'n rhoi cyfle gwell i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg, gan ddod â ni'n agosach at ein nod o weld miliwn o siaradwyr yng Nghymru.