Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer Milfeddygon Swyddogol sy’n ymweld â safleoedd heintiedig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gynnal ymchwiliad ar safle heintiedig mae’n allweddol fod camau’n cael eu cymryd er mwyn lleihau perygl trosglwyddiad. Gall trin dillad, cyfarpar a cherbydau yn y modd anghywir arwain at ledu clefydau heintus iawn fel Clwy’r Traed a’r Genau.  

  • Mae’n rhaid i swyddogion gymryd y camau canlynol wrth ymweld â safle heintiedig neu safle o fewn parth wedi’i ddatgan. 
  • Bydd gofyn i chi adrodd wrth Swyddog y Gât. Bydd yn rhoi mynediad i chi ac yn cofnodi symudiadau pobl, cerbydau a chyfarpar ar y safle ac oddi arno. 
  • Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich dillad, eich cyfarpar a’ch cerbyd yn addas i’ch tasg benodedig ac yn glir o arwyddion amlwg o halogiad. Mae’n rhaid i hyn gael ei wneud cyn y bydd unrhyw gyswllt â da byw er mwyn lleihau perygl trosglwyddo clefydau rhwng safleoedd.
  • Mae’n rhaid parchu mesurau bioddiogelwch y safle er mwyn diogelu’r perchenogion a’u da byw. Dylai’r mesurau hyn fod yn rhai rhesymol ac ni ddylent effeithio ar eich gallu i gynnal ymchwiliad boddhaol.
  • Mae’n rhaid i’ch holl ddillad, cyfarpar ac esgidiau gael eu glanhau a’u diheintio cyn i chi adael safle’r fferm. Fel arall, gallwch waredu’r rhain yn ddiogel oddi ar y safle. 
  • Mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych ddigon o ddiheintydd cymeradwy ar gyfer eich ymweliad. Mae Gorchymyn Anifeiliaid (Diheintydidon Cymeradwy) yn rhestri ddiheintyddion cymeradwy. Mae’n rhaid defnyddio’r gwanediad cywir o ddiheintydd yn unol â’r rhestr gymeradwy. 
  • Mae’n rhaid i unrhyw gyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio fel rhan o’ch ymweliad gael ei gadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd. Mae’n rhaid trin cyfarpar untro (ee chwistrellau) fel gwastraff fferyllol.