Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant  (‘y Blaenoriaethau’), sef fframwaith polisi newydd ar gyfer sector cyhoeddus a sector diwylliant Cymru a fydd yn diffinio'r cyfeiriad ar gyfer y celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau, a sector yr amgylchedd hanesyddol. Mae hefyd yn pennu fframwaith ar gyfer sectorau a meysydd polisi eraill ac ar gyfer sefydliadau partner sydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo diwylliant yng Nghymru. 

Mae'r ddogfen Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn seiliedig ar dair blaenoriaeth. 

Blaenoriaeth Un yw bod ‘diwylliant yn dod â phobl ynghyd’, Blaenoriaeth Dau yw ‘cenedl diwylliant’, a Blaenoriaeth Tri yw bod ‘diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy’. Mae’r blaenoriaethau hynny’n cael ei hategu gan gyfres o ddyheadau. 

Mae gwerth cynhenid diwylliant yn cael ei gydnabod yn y ddogfen, ac mae ymrwymiad i'r egwyddor bod ‘gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad at, i greu, i gymryd rhan, ac i'w gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgareddau diwylliannol ein cenedl’. Llywiwyd y gwaith o ddatblygu’r ddogfen Blaenoriaethau gan y pum ffordd gynaliadwy o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ffyrdd hynny o weithio yn gosod y sylfaen ar gyfer sut yr ydym yn bwriadu cyflawni'r canlyniadau yr ydym yn dymuno’u gweld. 

  • Tymor hir: Un o'r heriau y cyfeirir ati yn y ddogfen yw'r cyfyngiadau ariannol mawr sy'n wynebu sefydliadau sy'n cael arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen amlinellu blaenoriaethau a pharhau i sicrhau ein bod yn mynd ati’n rheolaidd i ailedrych ar y blaenoriaethau hynny.
  • Atal: Wrth inni ddatblygu'r ddogfen Blaenoriaethau, buom yn ystyried sut y gellir atal problemau yn y dyfodol. Mae'n ddogfen sy’n meddwl am y dyfodol ac mae ynddi ddyheadau hirdymor sy'n ystyried sut y gall diwylliant atal effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol negyddol posibl.  
  • Integreiddio: Yn ogystal â bod yn gydnaws â'r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ddogfen Blaenoriaethau hefyd yn cyd-fynd yn glir â deddfwriaeth a mentrau polisi eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050, Cynllun Cydraddoldeb 2020-2024, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Cyllideb Garbon Cymru Sero Net, y Strategaeth Ddigidol i Gymru, Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, a'r Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol.
  • Cydweithio: Bwriedir i'r ddogfen Blaenoriaethau fod yn fframwaith ar gyfer gweithgarwch cydweithredol yn y dyfodol ar draws y sectorau diwylliant a chyda sectorau ehangach yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w helpu i gydweithio ac i weithio mewn partneriaeth er mwyn cael mwy o effaith, ac mae'r dyhead hwnnw’n amlwg yn y fframwaith polisi newydd.
  • Ymgysylltu: Wrth fynd ati i ddatblygu'r Blaenoriaethau, trafodwyd yn eang â rhanddeiliaid ar draws sector y celfyddydau, y sector diwylliant a'r sector treftadaeth yng Nghymru. Yn ystod y broses ymgysylltu gychwynnol, cynhaliwyd dros gant o sgyrsiau gyda chynrychiolwyr y sectorau hynny, gyda chynrychiolwyr cymunedol, arbenigwyr digidol, staff mewn cyrff diwylliannol cenedlaethol, partneriaid cymdeithasol, a llunwyr polisi. Mae rhanddeiliaid mewnol ac allanol wedi monitro'r gwaith o ddatblygu'r Blaenoriaethau drwy fod yn rhan o grŵp mewnol cyfeirio polisi ac o grŵp llywio allanol ac arno arbenigwyr annibynnol a gweithwyr llawrydd o'r sectorau dan sylw. Bydd y grwpiau mewnol ac allanol yn parhau i fonitro camau terfynol y gwaith datblygu polisi. 

Lansiwyd cyfnod ymgynghori estynedig o 15 wythnos ar 23 Mai 2024. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2025 (Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024-i-2030 Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad). Daeth cyfanswm o 376 o ymatebion i law ar gyfer yr ymgynghoriad, gan gynnwys ymatebion ar-lein (209), ymatebion dros e-bost (75), ac ymatebion copi caled (92). Darparwyd ymatebion hefyd fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori a gweithdai. Mae ymatebion o'r ymgynghoriad wedi llywio'r Asesiad Effaith Integredig terfynol hwn.   

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymchwil (Adolygiad o Sail Dystiolaeth y Sector Diwylliant yng Nghymru) gyda'r nod o nodi ac asesu ffynonellau presennol a bylchau tystiolaeth ar draws y sectorau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, celfyddydau, archifau a threftadaeth yng Nghymru. Mae'r ymchwil hon wedi llywio cynnwys yr Asesiad Effaith Integredig hwn. 

Mae'r crynodeb hwn o'r Asesiad Effaith Integredig yn cyflwyno data ac ymchwil  gyd-destunol sy'n berthnasol i'r sector diwylliant yng Nghymru, ac mae hefyd yn ymdrin ag effaith bosibl y Blaenoriaethau arfaethedig. Mae'r ddogfen yn rhoi trosolwg eang o effeithiau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol posibl y fframwaith polisi newydd a geir yn y ddogfen Blaenoriaethau. Rydym wedi ystyried ystod o dystiolaeth, data a safbwyntiau rhanddeiliaid wrth inni ddatblygu'r Asesiad Effaith Integredig hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r fersiwn derfynol hon o'r Asesiad Effaith Integredig ochr yn ochr â chyhoeddi fersiwn derfynol y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant. 

Casgliadau

Sut yr aed ati, wrth ddatblygu’r cynnig, i gynnwys a rhoi rhan i’r bobl sy'n fwyaf tebygol o deimlo’i effeithiau? 

Cafodd The Means, ar y cyd ag Arad Research a Bop Consulting, eu penodi yn 2023 i fynd ati’n annibynnol i hwyluso cyfres o gant o sgyrsiau ymgysylltu, a chynhaliwyd dau ar bymtheg o weithdai ymgynghori gydag ystod eang o randdeiliaid yn y sector a chyda grwpiau â diddordeb. Mae’r ddogfen Blaenoriaethau wedi’i seilio ar y canfyddiadau a gafwyd bryd hynny. Roedd y rhanddeiliaid a aeth i’r gweithdai yn cynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, siaradwyr Cymraeg a phobl eraill y gallai'r Blaenoriaethau newydd effeithio arnyn nhw.   

Gwyddom fod cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid, a rhoi rhan iddynt, yn gwbl ganolog os ydym am lunio a gweithredu polisïau'n llwyddiannus. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gwnaethom barhau i gynnwys pobl fel rhan o’n hymarferion ymgynghori cyn inni gyhoeddi’r ddogfen Blaenoriaethau. 

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol? 

Defnyddiwyd barn rhanddeiliaid a'r dystiolaeth a'r data diweddaraf i lywio'r Asesiad Effaith Integredig hwn, a hynny fel y bo modd ystyried unrhyw effeithiau sylweddol y gallai'r Blaenoriaethau newydd eu cael. Gwnaethom hefyd  ymgynghori â thimau polisi perthnasol ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn trafod unrhyw effeithiau sylweddol ehangach,. 

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod mynediad at ddiwylliant yn bwysig i bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae tystiolaeth ddiweddar sy'n deillio o Arolwg Cenedlaethol Cymru (Prif ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2022 i Fawrth 2023) yn dangos bod 72% o'r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn mynd i weithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth, neu'n cymryd rhan ynddynt, o leiaf dair gwaith y flwyddyn. Yn ogystal, roedd 64% o bobl wedi bod mewn digwyddiad celfyddydol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd 18% o bobl eu bod wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol yn ystod y 12 mis blaenorol o ddyddiad yr arolwg. 

Mae gan bob un yng Nghymru yr hawl i gael mynediad at weithgareddau diwylliannol ein cenedl, i greu gweithgareddau o’r fath, i gymryd rhan ynddynt, ac i'w gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y gweithgareddau hynny. Y Flaenoriaeth gyntaf yw bod ‘diwylliant yn dod â ni ynghyd’, ac mae'n pwysleisio sut y gall diwylliant ddod â chymunedau amrywiol/gwahanol ynghyd a sut y mae diwylliant yn cysylltu pobl ar draws grwpiau oedran, lleoedd, a statws economaidd-gymdeithasol. Nid dim ond mynd i weithgareddau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth y mae pobl yng Nghymru, maen nhw hefyd yn cymryd rhan weithredol ynddynt ac yn mynd ati i greu. 

Mae tystiolaeth sy’n dod o Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22) yn dangos bod lefel y gefnogaeth o blaid ariannu gwasanaethau diwylliannol yn parhau'n uchel ymhlith y cyhoedd, gan fod 83% naill ai'n cytuno'n gryf (49%) neu'n tueddu i gytuno (34%) ei bod yn iawn i ddefnyddio arian cyhoeddus i ariannu gwasanaethau celfyddydol a diwylliannol. Mae'r rhain yn ganlyniadau tebyg i'r rheini a gafwyd yn 2018-19, sef y tro diwethaf i'r cwestiwn hwn gael ei ofyn yn yr arolwg. Pan ofynnwyd iddynt a yw'r celfyddydau yn cyfoethogi ansawdd eu bywydau, dywedodd 63% o'r ymatebwyr eu bod yn cytuno (roedd 33% yn cytuno'n gryf, roedd 30% yn tueddu i gytuno). Ar y cyfan, roedd y mwyafrif a holwyd (59% yn cytuno'n gryf) yn credu bod y celfyddydau a diwylliant yn gwneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo. 

Mae'r Blaenoriaethau'n hyrwyddo'r ddyletswydd gyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n datgan y dylai awdurdodau cyhoeddus, wrth iddynt wneud penderfyniadau ynghylch sut maent yn darparu eu gwasanaethau ac yn rhoi polisïau ar waith, ystyried pethau fel gwahaniaethu ac anghenion pobl sydd dan anfantais neu sy'n dioddef anghydraddoldeb’. Un o'r deg amcan llesiant o dan ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu gyfredol yw ‘dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math’. Mae'r ddogfen Blaenoriaethau yn cryfhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barchu, i ddiogelu ac i wireddu hawl pawb i gael eu cynnwys mewn ffordd deg yn y gweithgareddau diwylliannol o’u dewis. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod amryfal rwystrau'n atal pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig rhag cael mynediad at ddiwylliant a threftadaeth. Mae'r rhwystrau hynny'n cynnwys rhai corfforol, rhai ymddangosiadol, a rhai ariannol. Efallai fod pobl sy'n byw ar aelwydydd incwm isel, pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a grwpiau agored i niwed yn ei chael yn anoddach mynd i safleoedd diwylliannol, i gael profiadau diwylliannol ac i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau diwylliannol yng Nghymru. Mae data diweddar sy'n deillio o Arolwg Cenedlaethol Cymru (Prif ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 | LLYW.CYMRU) 2021/22 yn rhoi enghraifft o hynny ac yn dangos bod patrwm clir ar draws pedwar is-sector diwylliannol yng Nghymru (sy'n cynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau, a'r celfyddydau); mae llai yn tueddu i ymwneud â diwylliant mewn ardaloedd mwy difreintiedig yng Nghymru. Er enghraifft, nododd llai nag un rhan o dair o'r ymatebwyr o'r cwintel mwyaf difreintiedig eu bod wedi ymweld ag amgueddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond bod dros 50% o'r ymatebwyr o'r cwintel uchaf wedi gwneud hynny. 

Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, cytunodd mwyafrif (84%) o'r ymatebwyr â'n dyhead i sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol. Tynnodd ymatebion sylw at yr angen i'r Blaenoriaethau sicrhau bod cymunedau â nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at fannau diwylliannol priodol. 

Mae'r Blaenoriaethau newydd yn amlinellu dyheadau i ddileu, i leihau neu i liniaru'r rhwystrau sy'n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig. Yn ôl y dystiolaeth o adroddiadau'r Monitor Cyfranogiad Diwylliannol (Monitor Cyfranogiad Diwylliannol), mae grwpiau hŷn yn ymwneud â gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol i raddau llai na grwpiau iau. Yn yr un modd, canfuwyd yn gyffredinol bod pobl anabl yn ymwneud i raddau llai â diwylliant na phobl nad oeddent yn anabl. Pobl ifanc oedd fwyaf tebygol o ymhél â gweithgareddau celfyddydol a threftadaeth ar-lein. Roedd 81% o bobl ifanc 16-24 oed wedi bod mewn gweithgaredd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â 36% yn y grwp oedran 65+. Canfuwyd bod grwpiau ethnig Du (78%), Asiaidd (70%) a Chymysg (80%) yn llawer mwy tebygol o fod wedi ymhél â gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol ar-lein na grwpiau ethnig eraill. Mae ffydd a mannau addoli hanesyddol yn rhan o'r cynnig diwylliannol yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu (Cynllun Gweithredu Twristiaeth Ffydd) bod gan ymwelwyr â Chymru ddiddordeb mewn ymweld ag atyniadau hanesyddol ac adeiladau crefyddol. 

Mae ffigurau o Arolwg Omnibws Cymru (Arolwg Omnibws Cymru Ymgysylltiad Oedolion â'r Celfyddydau) yn dangos bod amrywiadau demograffig a rhanbarthol o ran pwy oedd yn mynd i ddigwyddiadau celfyddydol ac yn cymryd rhan ynddynt yng Nghymru o 2020 ymlaen. Mae'r canfyddiadau allweddol yn dangos bod y ganran a oedd yn mynd i ddigwyddiadau celfyddydol wedi gostwng yn ôl oedran yn 2020; roedd 87% o'r grŵp oedran 16-24 yn mynd unwaith y flwyddyn, ond roedd y ganran yn gostwng i ychydig dros hanner (59%) yn y grŵp oedran 65+. Wrth edrych ar y canrannau a oedd yn mynd i ddigwyddiadau celfyddydol yn ôl gradd economaidd-gymdeithasol, roedd 80% o bobl yn y grŵp economaidd-gymdeithasol ABC1 (Y diffiniad o ABC1 yw galwedigaethau proffesiynol a chymwysedig, a gwaith nad yw'n waith llaw) yn mynd i ddigwyddiadau o'r fath o gymharu â 70% yn y grŵp C2DE (Y diffiniad o C2DE yw gweithwyr llaw crefftus, lled-fedrus a heb sgiliau, a phobl nad ydynt yn gweithio), gan adael bwlch o 9.4 pwynt canran rhwng y ddau grŵp. Mae'r patrwm yn y ddau grŵp economaidd-gymdeithasol hyn yn dilyn y duedd gyffredinol a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol; roedd y grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch wedi mynd i ddigwyddiadau o’r fath yn amlach dros y deng mlynedd diwethaf. Aeth mwy o fenywod (77%) na dynion (73%) i ddigwyddiadau celfyddydol yn 2020, bwlch o 4.1 pwynt canran. 

Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu y gallai fod angen newid pwyslais a theilwra gweithgareddau diwylliannol er mwyn diwallu anghenion grwpiau amrywiol, gan fabwysiadu dulliau gofalus a hyblyg o weithredu er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau'n gynhwysol a bod pawb yn gallu manteisio arnynt. Adlewyrchir hynny yn y Blaenoriaethau newydd.  

Mae'r Blaenoriaethau'n nodi’n glir ein hymrwymiad i blant. Fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), mae Erthygl 31 yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, i chwarae ac i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, ac y dylid hyrwyddo darpariaeth sy'n cynnig cyfleoedd priodol a chyfartal i fwynhau gweithgareddau diwylliannol, artistig, a hamdden. Yn ogystal, mae Erthygl 29 yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i addysg sy'n datblygu ei bersonoliaeth, ei ddoniau a'i allu meddyliol a chorfforol i'w llawn botensial. Mae pobl ifanc yn mwynhau ac yn creu diwylliant eisoes, maent yn cymryd rhan ynddo ac yn defnyddio gwasanaethau, a nhw fydd yn gofalu am ddiwylliant yng Nghymru yn y dyfodol. Mae dod i gysylltiad â phrofiadau diwylliannol a threftadaeth, a chael profiadau o'r fath, yn ogystal â chyfleoedd i fanteisio ar addysg ddiwylliannol yn yr ysgol, yn hanfodol i blant a phobl ifanc o gefndiroedd sydd o dan anfantais economaidd a/neu o gefndiroedd lleiafrifol. Mae llawer o’n sefydliadau diwylliannol a threftadaeth eisoes yn cynnig rhaglenni a digwyddiadau yn rhad am ddim. Mae hynny'n bwysig er mwyn mynd i’r afael ag achosion lle nad yw pobl yn gallu manteisio ar weithgareddau diwylliannol oherwydd tlodi, a dylid cynnig mwy o'r rhaglenni a'r digwyddiadau di-dâl hynny. Mae canlyniadau’r Arolwg Omnibws Plant (Arolygon Blynyddol | Cyngor Celfyddydau Cymru) yn dangos, yn 2019, fod 87% o blant a phobl ifanc wedi bod mewn rhyw fath o ddigwyddiad celfyddydol o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn. Mae hwn yn ostyngiad o 2.6 pwynt canran o gymharu â 2018. Mae canran y plant a'r bobl ifanc nad ydynt yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau artistig wedi cynyddu i lefelau tebyg i 2017, ac roedd 13% ohonynt heb fynd i unrhyw ddigwyddiadau yn 2019. Mae'r lefelau cyfranogiad uchaf i'w gweld ymhlith plant 7-10 oed, sy’n debyg i’r lefelau a oedd yn mynd i ddigwyddiadau. Roedd 96% ohonynt wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn. Mae hwn yn ostyngiad o 2% ers 2018. 

Ymatebodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol i'r dyhead i sicrhau bod diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc. Gwnaeth yr  adborth dynnu sylw at bwysigrwydd cyflwyno plant i ysgogiadau diwylliannol o oedran ifanc, a'r angen i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o wneuthurwyr diwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnwys a chyflawni'r dyhead hwn. 

Gall fod yn anoddach i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru fanteisio ar weithgareddau diwylliannol a threftadaeth. Mae Polisi Adnoddau Naturiol (Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru) Llywodraeth Cymru yn nodi mai un o'r manteision sy'n deillio o adnoddau naturiol Cymru yw'r gwasanaethau diwylliannol sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig at ddibenion hamdden, a bod manteision iechyd a llesiant yn gysylltiedig â’r gwasanaethau hynny. Mae cefn gwlad Cymru yn diriogaeth amrywiol ac mae’r cymunedau sydd ynddo mewn lleoliadau (Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wledig: Yr Adroddiad Dystiolaeth) gwahanol iawn. Mae tlodi yng nghefn gwlad wedi cael ei ddisgrifio'n dlodi  ‘cudd’ o'i gymharu â thlodi trefol. Mae'r adroddiad gan Brifysgol Aberystwyth yn tynnu sylw at ‘amddifadedd digidol’ oherwydd bod y seilwaith band eang neu'r seilwaith ffonau symudol digidol sydd ar gael ar ei hôl hi, yn araf neu'n annibynadwy yn aml. Gall hynny fod yn rhwystr arall sy'n atal pobl mewn cymunedau gwledig rhag manteisio’n ddigidol ar ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol, ac yn un sy’n ychwanegol at rwystrau eraill, gan gynnwys mynediad at drafnidiaeth, a chostau. 

Mae Blaenoriaeth Dau am weld Cymru sy'n 'genedl diwylliant'. Mae diwylliant yn ganolog i’n nodweddion unigryw ni fel cenedl ac i’n hymdeimlad o fod yn Gymry. Roedd tystiolaeth o Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019 (Arolwg Ymwelwyr Cymru 2019: Canfyddiadau’r Ymchwil Ansoddol) yn nodi bod y cymhellion i ymweld â Chymru yn cynnwys y Gymraeg ei hun, a bod canfyddiad mai un o gryfderau Cymru yw ei nodweddion unigryw, sydd i'w gweld yn ei hanes, ei hiaith a'i hymdeimlad o falchder cenedlaethol. Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn tynnu sylw at y ffaith mai un o nodau Llywodraeth Cymru yw ‘sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gwarchod fel rhan annatod o’n diwylliant cyfoes’ ac un o ddyheadau allweddol Blaenoriaeth Dau yw ‘bod diwylliant yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog’. Pwysleisiodd rhanddeiliaid allweddol yr ymgynghorwyd â nhw wrth inni ddatblygu'r ddogfen Blaenoriaethau newydd fod y Gymraeg yn elfen allweddol o ddiwylliant yng Nghymru a’i bod yn rhywbeth sy'n perthyn inni i gyd. Ategir hynny gan dystiolaeth a ddarparwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru - Llesiant Diwylliannol), sy'n datgan bod y Gymraeg yn gysylltiedig â llesiant diwylliannol a bod hynny'n cynnwys cefnogi cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a sicrhau bod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn cael eu gwarchod. Rhaid i gydnabyddiaeth i werth y Gymraeg, a hyrwyddo a dathlu’r iaith, fod yn rhan annatod o weithgarwch diwylliannol ar draws ein holl sectorau. Mae'r cynnig diwylliannol cyfrwng Cymraeg wedi hen ennill ei blwyf, a bydd y Blaenoriaethau newydd yn cael effaith gadarnhaol drwy atgyfnerthu hynny a'i gwneud yn amcan yn y dyfodol. Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021/22) (Arolwg Cenedlaethol Cymru) yn rhoi'r darlun inni o faint o bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau celfyddydol Cymraeg. Gofynnwyd i'r ymatebwyr pa mor aml yr oeddent wedi bod mewn digwyddiad celfyddydol Cymraeg, neu pa mor aml yr oeddent wedi cymryd rhan mewn digwyddiad o'r fath, yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd 25% eu bod yn mynd i ddigwyddiad o'r fath  unwaith y mis, sy'n fwy na'r ganran o 17% yn 2018/19. 

Roedd mwyafrif yr ymatebion i'r ymgynghoriad (77%) yn cytuno â'r dyhead i sicrhau bod diwylliant yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog. Nododd ychydig o’r ymatebion bwysigrwydd cydbwysedd, gan fynegi'r angen i sicrhau bod hanes a diwylliant Cymru yn hygyrch i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg fel iaith sy'n perthyn i holl bobl Cymru. 

Un o'r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw creu Cymru iachach, a chymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl. Mae'r Blaenoriaethau'n ategu ac yn cyfrannu at y nod hwnnw. Deellir bod cysylltiad cryf rhwng cyfranogiad ac ymgysylltiad gan unigolion a chymunedau â diwylliant a'r celfyddydau, a chanlyniadau gwell o ran iechyd a llesiant. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymchwil er mwyn edrych yn fanwl ar y berthynas rhwng diwylliant a llesiant (Llywodraeth Cymru: Archwilio'r berthynas rhwng diwylliant a llesiant). Dangosodd yr ymchwil honno fod mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant. Un agwedd hollbwysig ar yr ymchwil oedd ei bod wedi canfod bod mynd i weithgareddau diwylliannol, neu gymryd rhan ynddynt, yn helpu i ragweld a fydd rhywun yn dweud bod ei lesiant yn dda. Er hynny, mae'r ymchwil yn rhybuddio nad yw'r canfyddiadau hynny'n arwydd pendant bod y llesiant da hwnnw'n ganlyniad i ymhél â gweithgareddau o'r fath.  Mae ymchwil arall yn cefnogi'r canfyddiad hwn: bu adolygiad (Beth yw'r dystiolaeth am rôl y celfyddydau o ran gwella iechyd a llesiant? Adolygiad cwmpasu) a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn edrych ar rôl y celfyddydau o ran gwella iechyd a llesiant, gan gyfuno tystiolaeth ryngwladol o fwy na 3000 o astudiaethau. Mae'r canfyddiadau'n dangos sut y mae'r celfyddydau'n gallu effeithio ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, sut y maent yn gallu helpu plant i ddatblygu, i annog ymddygiadau sy'n hybu iechyd, i atal afiechyd, a bod o gymorth wrth roi gofal. Un o'r ystyriaethau polisi allweddol a nodwyd yw’r angen i gydnabod bod disgyblaeth y celfyddydau a'r ddisgyblaeth iechyd yn gallu croesi ffiniau ei gilydd. Mae’r What Works Centre for Wellbeing wedi cynnal adolygiad cyflym a chyfuno'r dystiolaeth am lesiant a ddeilliodd o ymyriadau seiliedig ar le ac ymyriadau diwylliannol (The social value of place-based arts and culture: rapid review and synthesis) (2022). Yn ôl adroddiad y Ganolfan, roedd ymyriadau wedi'u targedu mewn amgueddfeydd oedd ag elfen o wirfoddoli neu ragnodi cymdeithasol wedi arwain at welliannau goddrychol a meddyliol i bobl isel eu llesiant, yn enwedig pan oedd yr ymyriadau hynny wedi'u gwreiddio mewn treftadaeth/diwylliant lleol ac yn cynnwys meithrin cysylltiadau ag eraill. Canfuwyd hefyd fod mwy o gyfranogiad diwylliannol drwy mega-ddigwyddiadau wedi arwain at effeithiau dros dro ar hapusrwydd cyffredinol ac ar foddhad â bywyd, a’i fod hefyd wedi creu mwy o gyfalaf cymdeithasol pontio. 

Cytunodd mwyafrif yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad â'r dyhead i sicrhau bod ymwneud diwylliannol yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedol. Roedd ychydig o ymatebion yn trafod tystiolaeth sy'n cadarnhau'r cysylltiad rhwng creadigrwydd, llesiant meddyliol da a heneiddio’n iach. 

Blaenoriaeth 3 yw bod ‘Diwylliant yn Gydnerth ac yn Gynaliadwy’. Mae'r Blaenoriaethau'n pwysleisio'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd wrth storio casgliadau. Un o’r dyheadau yw bod ‘ein casgliadau a’n hasedau hanesyddol yn derbyn gofal, ac maent yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgu, creadigrwydd, creu lleoedd a llesiant diwylliannol’. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru - Llesiant Diwylliannol) yn dweud bod hyrwyddo asedau diwylliannol anniriaethol yn gallu gwella llesiant cymunedol cyffredinol a ‘gwella teimladau o falchder cymunedol, hunanhyder diwylliannol a chenedlaethol, ac ymdeimlad o undod a phwrpas’. Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o'n casgliadau cenedlaethol er mwyn llywio gwaith i wella'r ffordd y mae casgliadau'n cael eu rheoli ac er mwyn lleihau'r costau sy'n wynebu sefydliadau diwylliannol. Rhai o amcanion eraill yr adolygiad yr oedd helpu i ddatgarboneiddio wrth storio casgliadau, a gwella mynediad i ymchwilwyr a'r cyhoedd. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod gorlenwi yn broblem allweddol mewn llawer o storfeydd casgliadau, ac y gall hynny arwain at anawsterau wrth reoli casgliadau'n effeithiol. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig dros Gymru gyfan i fynd i'r afael â storfeydd casgliadau anaddas. 

Mae'r Blaenoriaethau newydd yn cydnabod arwyddocâd y dechnoleg ddigidol newydd, a fydd yn parhau i drawsnewid y sector diwylliant a threftadaeth yn y dyfodol, gan gynnig mynediad mewn ffyrdd newydd, a galluogi pobl i fwynhau casgliadau a gweithgareddau diwylliannol. Bydd gwell seilwaith digidol yn ein sectorau yn fodd i sicrhau ein bod yn paratoi'n well at y dyfodol. Mae tystiolaeth gan yr Undeb Ewropeaidd (The use of artificial intelligence in the cultural and creative sectors (2020) - European Union) yn nodi y gall defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector diwylliannol a’r sector creadigol greu ffyrdd gwych i ddefnyddwyr fedru llywio drwy gynnwys diwylliannol. Deellir mai dim ond ychydig o ddata sydd ar gael am yr ymdrechion i ddigideiddio ar draws sector y celfyddydau, y sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau, a sector yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod y sectorau'n ceisio gwella gwasanaethau a seilwaith digidol er mwyn sicrhau mynediad teg at ddiwylliant ar draws amryfal grwpiau a daearyddiaethau. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio gyda sefydliadau ar draws y sectorau i weld pa ddefnydd y maent yn ei wneud o ddeallusrwydd artiffisial ar hyn o bryd a sut y gall Llywodraeth Cymru eu helpu i ddysgu sut i fanteisio ar offer newydd. Bydd y Blaenoriaethau'n cryfhau hynny drwy gynnwys y dyhead ‘mae arferion digidol da yn cefnogi ac yn gwella ein diwylliant’. 

Mae diwylliant hefyd yn ffactor sy’n sbarduno datblygu cynaliadwy. Mae'r ddogfen Blaenoriaethau yn nodi'r angen i feithrin gwydnwch yn y sector mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur (Llywodraeth Cymru’n datgan ei bod hi’n argyfwng ar yr hinsawdd). Gwyddom o'r ymateb i'r ymgynghoriad fod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy fod yn faes ffocws allweddol i'r sector, ond y gallai hyn fod yn her i'r sector diwylliant. Gellir defnyddio dulliau creadigol i ysbrydoli'r cyhoedd, a gall rhanddeiliaid ddysgu oddi wrth arferion da sydd i'w gweld ar draws y sector, ac y gellir eu rhannu wedyn er mwyn cyflwyno newidiadau cadarnhaol yn fwy eang. Yn 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru (Adolygiad o sail dystiolaeth y sector diwylliant yng Nghymru) a nododd: ‘Mae argaeledd data ynghylch effaith amgylcheddol sefydliadau yn sector y celfyddydau, y sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau, a sector yr amgylchedd hanesyddol, a’u hymrwymiad i ddatgarboneiddio, yn gyfyngedig iawn’. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati ers hynny i gomisiynu adolygiad penodol er mwyn casglu tystiolaeth am ymwybyddiaeth, agweddau, ac ymddygiad y sector diwylliant yng Nghymru ac am sut y mae'n mynd  i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Bydd yr adolygiad hefyd yn awgrymu argymhellion ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Mae tystiolaeth o'r Monitor Cyfranogiad 

Diwylliannol (Haf 2023 | The Audience Agency) yn awgrymu bod datgarboneiddio a'r newid yn yr hinsawdd yn bwysig i bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau diwylliannol a chelfyddydol. Dywedodd 51% o'r ymatebwyr i'r arolwg y byddai'n well ganddynt, yn gyffredinol, fynd i leoliadau diwylliannol sydd â'r un gwerthoedd â nhw, yn enwedig o ran yr argyfwng hinsawdd, a'u bod yn fwy tebygol o fynd i leoliadau diwylliannol penodol os yw’r sefydliadau’n gweithredu ar y materion hynny. 

Mae'r Blaenoriaethau'n cydnabod bod angen gweithlu cryf a chadarn sydd â sylfaen gadarn o arbenigedd. Roedd mwyafrif yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cytuno â'n dyhead i sicrhau bod y sector diwylliant yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus. Fodd bynnag, ystyriwyd y dyhead hwn yn un o'r rhai mwyaf heriol a dadleuol o bosibl. Mynegodd yr ymatebion bryder am effaith lleihau'r gyllideb ar swyddi a chyfleoedd cyflogaeth yn y sector. Nododd yr adborth fod swyddi yn y sector diwylliant yng Nghymru yn brin o adnoddau, yn dymhorol ac yn ansicr. Mae'r sector diwylliant yn dibynnu'n helaeth ar wirfoddolwyr, gyda rhai sefydliadau llai yn dibynnu'n llwyr ar staffio gwirfoddol. 

Mae diwylliant yn ffynhonnell gyflogaeth bwysig yng Nghymru, ac mae angen ystod o sgiliau ac arbenigedd proffesiynol i ddarparu gwasanaethau diwylliannol. Yn 2022, nododd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fod dros 14,500 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn sector y celfyddydau, a'r sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru (Economic Estimates: Employment in DCMS sectors and Digital sector, January 2022 to December 2022). Nid yw’r ffigur hwnnw’n cynnwys gwirfoddolwyr, sy’n rhan sylweddol o’r gweithlu diwylliant a threftadaeth. Nid yw ychwaith yn cynnwys ffigurau cyflogaeth ar gyfer y sector treftadaeth, yr amcangyfrifwyd mewn astudiaeth a gynhaliwyd yn 2010 ) ei fod yn cyflogi 30,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru (Ymchwil | Cadw). Un o'r prif ddyheadau a amlinellir yn y Blaenoriaethau newydd yw bod ‘y sector diwylliant yng Nghymru yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus’.     

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo gael ei roi ar waith ac unwaith y bydd wedi'i gwblhau? 

Bydd effaith y cynnig yn parhau i gael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo gael ei roi ar waith. Mae'n bwysig bod modd inni ddiweddaru a gwella'r blaenoriaethau a'r dyheadau yn ôl yr angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r ddogfen Blaenoriaethau. Mae'r tair blaenoriaeth wedi cael eu mapio yn unol â'r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn 2023, comisiynodd Is-adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru adolygiad o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru (Adolygiad o sail dystiolaeth y sector diwylliant yng Nghymru). Nod yr adolygiad o'r dystiolaeth oedd nodi ac asesu'r bylchau presennol o ran ffynonellau a thystiolaeth ar draws y sector amgueddfeydd, sector y celfyddydau, a'r sector llyfrgelloedd, archifau a threftadaeth, ac mae'r adolygiad hwnnw wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r Blaenoriaethau.