Neidio i'r prif gynnwy

Ministerial foreword

Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno’r Blaenoriaethau newydd hyn ar gyfer Diwylliant. Maent yn gosod diwylliant lle mae’n perthyn: yn ganolog i fywyd Cymru.

Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd – yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – at ddatblygu’r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant a’r dyheadau cysylltiedig. Mae eich dealltwriaeth, eich arbenigedd a’ch angerdd wedi llunio gweledigaeth a rennir sy’n uchelgeisiol ac wedi’i gwreiddio mewn realiti.

Mae gan ddiwylliant, gan gynnwys ein celfyddydau, ein hamgylchedd hanesyddol, a’n sefydliadau diwylliannol, y pŵer i drawsnewid bywydau, boed hynny drwy danio dychymyg plentyn, cynnig diddanwch a darparu cysylltiad i rywun sy’n unig, neu yn syml drwy ychwanegu lliw at gyfoeth ein bywydau bob dydd. Mae’n rhan hanfodol o’n llesiant unigol a chyfunol. Ni ddylai diwylliant byth gael ei ystyried yn faes y rhai breintiedig. Mae’n perthyn i ni i gyd ac rwy’n benderfynol na fydd neb yn cael ei eithrio rhag cael gafael ar y manteision hyn.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn nodi yn y gyfraith bod llesiant diwylliannol Cymru yn berthnasol i bawb. Mae’r Blaenoriaethau hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i sectorau’r celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a’r amgylchedd hanesyddol. Maent yn cynnig fframwaith sy’n berthnasol i bob portffolio polisi, o addysg ac iechyd i dwristiaeth a gofal cymdeithasol.

Trwy gydweithio i wireddu’r dyheadau hyn a rennir, gallwn ddarparu llwyfan lle gall ein sector diwylliant ffynnu, arloesi, ac adlewyrchu gwir amrywiaeth ein cenedl. Trwy ein hymdrechion ar y cyd, gyda’r Blaenoriaethau hyn yn arwain y ffordd, byddwn yn darparu dyfodol diwylliannol bywiog, cynhwysol a chynaliadwy, gan ddarparu cyfle, mwynhad ac ysbrydoliaeth i bawb yng Nghymru.

Jack Sargeant AS

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyflwyniad

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”), yn cydnabod pwysigrwydd gwella llesiant diwylliannol pobl Cymru. Un o nodau canolog y Ddeddf yw creu Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu. Mae camau y mae’n rhaid eu cymryd tuag at sicrhau’r nod hwn wedi’u hymgorffori yn y gyfraith ac maent yn berthnasol ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac mewn nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae disgwyl i bob sector ystyried sut i ymateb i’r blaenoriaethau strategol newydd hyn ar gyfer diwylliant, sut y gallant wreiddio’r blaenoriaethau a’r dyheadau yn eu cynllunio strategol a gweithredol a sut y gallant weithio mewn partneriaeth â’r sector diwylliant i gefnogi, meithrin a hyrwyddo diwylliant.

Yn y ddogfen hon, rydym yn defnyddio’r geiriau ‘sector diwylliant’ fel term sy’n cynnwys sectorau’r celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

Nid ydym yn pennu blaenoriaethau strategol ar gyfer chwaraeon nac ar gyfer y diwydiannau creadigol, ond disgwylir y bydd cysylltiad clir rhwng eu gwaith a llesiant diwylliannol a dylai’r sectorau hyn ystyried sut y byddant yn gwreiddio’r blaenoriaethau hyn a’u dyheadau yn eu cynlluniau cyflawni.

Byddwn yn adolygu’r blaenoriaethau strategol hyn yn rheolaidd. Ein dyhead o hyd yw y bydd diwylliant yng Nghymru yn ffynnu, yn cael adnoddau priodol, a bod yna gynllun buddsoddi strategol hirdymor.

Ein gwerthoedd a’n hegwyddorion

Llywiwyd y gwaith o ddatblygu’r blaenoriaethau hyn gan bum ffordd gynaliadwy o weithio’r Ddeddf: tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg – iaith sy’n perthyn i bawb yng Nghymru, i hanes a diwylliant ein cenedl, ac mae ganddi rôl unigryw ac arwyddocaol i’w chwarae yn nyfodol Cymru.

Yn anad dim, rydym yn cydnabod gwerth annatod diwylliant ac yn ymrwymo i’r egwyddor bod gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad at, i greu, i gymryd rhan, ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgaredd diwylliannol ein cenedl.

Blaenoriaeth 1: mae diwylliant yn dod â phobl ynghyd

1.1 Cysylltu â phobl a chymunedau – cynhwysiant, amrywiaeth a hygyrchedd, a chefnogi hawliau diwylliannol

Mae cyd-destun deddfwriaethol a chyd-destun polisi penodol ar waith yng Nghymru i ddarparu arweinyddiaeth go iawn o ran hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd ac amrywiaeth. Rhaid i’n gweithlu diwylliannol, ein casgliadau, ein mannau a’n lleoedd hyrwyddo Cymru fodern ac amrywiol, gan adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a diwylliannau sy’n galw Cymru’n gartref.

Mae llawer o bobl eisoes yn elwa ar effeithiau cadarnhaol creadigrwydd a chyfranogiad diwylliannol, ond mae rhwystrau a heriau yn parhau i atal rhai grwpiau a chymunedau rhag cael mynediad i’r manteision hyn yn llawn. Gall fforddiadwyedd a thrafnidiaeth fod yn rhwystrau i gyfranogiad. Mae cael mynediad at fannau diwylliannol cynhwysol a hygyrch ar lefel gymunedol yn bwysig, ac mae sicrhau bod gwasanaethau diwylliannol lleol ar gael am ddim yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Rydym am ganolbwyntio ar greu cyfleoedd ystyrlon a chynhwysol i bobl ymwneud â diwylliant, cymryd rhan mewn gweithgarwch diwylliannol a chael eu cynrychioli yn ein gweithgarwch diwylliannol, ac elwa ar arbenigedd a brwdfrydedd ein sector diwylliant eang. Dylai egwyddorion democratiaeth ddiwylliannol a hawliau diwylliannol – gadael i bobl benderfynu ar yr hyn sy’n cyfrif fel diwylliant, a’u cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau – fod yn sylfaenol i’r ffordd yr ydym yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau diwylliannol.

Dylai diwylliant fabwysiadu dull cynhwysol, meddylgar a chytbwys o ddehongli, coffáu a chyflwyno ein gorffennol, o ran sut rydym yn ystyried ac yn ymateb i faterion cyfoes, ac o ran sut rydym yn edrych i’r dyfodol.

1.2 Cysylltu drwy ymdeimlad o le 

Mae gan gymunedau eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain, sy’n aml yn gysylltiedig â thirweddau, enwau lleoedd, hanes lleol, adeiladau, gwrthrychau,
treftadaeth ddogfennol, mudo, traddodiadau a straeon. Gellir gweld ein diwylliant a’n treftadaeth yn amlwg yn ein tirweddau a’n trefluniau, ac mewn llu o adeiladau hanesyddol a henebion o’n cwmpas. ‘Cynefin’ yw diffiniad y Cwricwlwm i Gymru o’r ymdeimlad hwn o le lle mae’r lle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol yn llunio’r gymuned.

Mae cael pobl i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ganfod a chefnogi cadwraeth eu hasedau diwylliannol lleol, yn meithrin ymdeimlad o berthyn a balchder yn eu cymuned, yn creu ymdeimlad o stiwardiaeth, yn cysylltu cymunedau ac yn cefnogi llesiant cymunedol.

Mae mentrau sy’n cael eu sbarduno gan y gymuned yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu, gwella a dathlu diwylliant ar lefel leol. Mae diwylliant ac adfywio a arweinir gan dreftadaeth yn bwerus ac yn drawsnewidiol, a dylai diwylliant fod yn ystyriaeth bwysig o ran adfywio, datblygu economaidd a busnes.

1.3 Cysylltu â phlant a phobl ifanc, a dull sy’n pontio’r cenedlaethau

Yng Nghymru, rydym wedi dangos ymrwymiad clir i gefnogi’r cenedlaethau drwy sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig.

Plant a phobl ifanc fydd yn gofalu am ddiwylliant yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym am sicrhau y gall pob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a mwynhau profiadau diwylliannol rheolaidd o oedran cynnar. I blant a phobl ifanc o gefndiroedd tlotach, mae’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â phrofiadau diwylliannol ac addysg ddiwylliannol yn yr ysgol. Gall ffocws ar chwarae hefyd ddarparu cyfleoedd cynnar i ymwneud â diwylliant a’i archwilio.

Dylai pobl ifanc gael eu grymuso nid yn unig i fwynhau diwylliant ond hefyd i ddylanwadu arno a’i lunio. Dylai sefydliadau diwylliannol ddatblygu cyfleoedd i leisiau pobl ifanc gael eu clywed, lle caiff eu hegni ei werthfawrogi.

Dylai gwasanaethau, mannau a rhaglenni sy’n ystyriol o deuluoedd gael eu hintegreiddio ym mhob un o feysydd y sector diwylliant.

Rydym o’r farn bod diwylliant yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gysylltu’r cenedlaethau. Gall lleoliadau diwylliannol gefnogi cyfranogiad a chadw pobl hŷn mewn cysylltiad â’u cymunedau.

Rydym am i’r sector diwylliant yng Nghymru barhau i chwilio am fewnwelediadau a phrofiadau pob cenhedlaeth wrth gynllunio rhaglenni a gwasanaethau, a hyrwyddo manteision dulliau sy’n pontio’r cenedlaethau, gan gysylltu cenedlaethau er budd pawb.

1.4 Cysylltu drwy lesiant

Mae effaith gadarnhaol diwylliant i’w weld ym mhobman.

Mae’r ffyrdd y mae cyfranogiad diwylliannol a gweithgareddau creadigol yn cefnogi iechyd a llesiant yn cael eu deall yn dda. Gall ymwneud â diwylliant drwy raglenni gwirfoddoli, addysg a hyfforddiant, a mynediad at leoedd a gweithgareddau diwylliannol gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant a helpu i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol ac unigrwydd. Mae mentrau eraill fel presgripsiynu cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd i lawer o bobl sydd wedi’u datgysylltu oddi wrth ddiwylliant i ehangu eu gorwelion a chael budd o hynny.

Mae rhaglenni ardderchog yn cael eu cynnal ar draws y sector diwylliant i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da. Rydym am weld dulliau o wella llesiant yn cael eu cryfhau ymhellach, ar lefel leol a chenedlaethol, drwy ddyfnhau partneriaethau presennol a datblygu rhai newydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio’n ehangach ar wella llesiant diwylliannol yng Nghymru. Mae tystiolaeth gynyddol o sut y gall diwylliant helpu i gyflawni nodau polisi ehangach, gan gynnwys iechyd a llesiant, addysg, mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a’r economi.

Ein dyheadau

  1. Mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol.
  2. Mae democratiaeth ddiwylliannol a hawliau diwylliannol yn ganolog i ddiwylliant yng Nghymru.
  3. Mae diwylliant wedi’i wreiddio mewn creu lleoedd.
  4. Mae diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc, ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y cenedlaethau.
  5. Mae cymryd rhan mewn diwylliant yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedau.

Blaenoriaeth 2: dathlu Cymru fel cenedl diwylliant

2.1 Cenedl ddwyieithog ac amlieithog

Mae’r Gymraeg yn perthyn i Gymru gyfan – mae’n rhan o hanes, treftadaeth a thraddodiadau ein cenedl, ac mae’n allweddol i’w dyfodol. Rhaid cydnabod gwerth y Gymraeg, ei hyrwyddo a’i dathlu ar draws pob maes gweithgarwch yn ein sectorau, a gwreiddio hynny. 

Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ddyhead clir o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050, a dylai’r Gymraeg fod yn sgil gwerthfawr yn y sector diwylliant.

Rhaid inni hefyd gydnabod pwysigrwydd diwylliannol ieithoedd a ddefnyddir gan gymunedau ledled Cymru. Mae ieithoedd yn ehangu gorwelion, yn cryfhau dysgu
a dealltwriaeth ac yn agor drysau i brofiadau newydd.

Rydym am weld y sector diwylliant yn cofleidio’r her o wreiddio ieithoedd ychwanegol yn ei raglenni. Bydd datblygu adnoddau a phrofiadau yn Iaith Arwyddion Prydain a Braille ac ymateb i anghenion ieithyddol cymunedau lleol yn sicrhau bod ein sectorau mor gynhwysol a hygyrch â phosibl.

2.2 Hyrwyddo Cymru i’r byd

Mae Cymru’n cael ei chydnabod yn eang fel lle sy’n llawn anturiaethau, o dreftadaeth y byd a threftadaeth Gymreig, tirweddau naturiol rhagorol, gyda chalendr cyfoethog o ddigwyddiadau diwylliannol.

Rydym am i ddiwylliant barhau i chwarae rhan bwysig mewn twristiaeth ac iddo gael ei gynrychioli a’i wreiddio yn y ffordd rydym yn hyrwyddo Cymru i’r byd.

Mae llawer o gyfleoedd i sicrhau bod yr economi ymwelwyr gyfan – o lety, lletygarwch, atyniadau, digwyddiadau a’r economi nos – yn chwarae rhan yn y gwaith o hyrwyddo diwylliant yn ein gwlad a’i hyrwyddo i weddill y byd.

Dylai datblygu cysylltiadau rhyngwladol drwy gyfnewid arferion a phrofiad diwylliannol, creadigol ac artistig fod yn rhan annatod o’r ffordd y mae Cymru’n datblygu cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol gyda rhanbarthau a gwledydd eraill. Mae digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol a chydweithredu â’r diwydiannau creadigol yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo diwylliant. Dylai ehangder ac amrywiaeth y sector diwylliant yng Nghymru fod yn rhan annatod o’n gweithgarwch ym maes diplomyddiaeth ddiwylliannol.

2.3 Dathlu diwylliant

Mae diwylliant yn ganolog i’n harwahanrwydd fel cenedl ac i’n hymdeimlad o fod yn Gymry. Gallwn gofleidio ein hanes, ein treftadaeth, ein hieithoedd a’n traddodiadau ar yr un pryd â chroesawu rhai newydd, gan greu ymdeimlad o genedligrwydd sy’n datblygu’n gyson drwy ddiwylliant.

Mae Cymru’n ffodus o gael darpariaeth ddiwylliannol a chreadigol sylweddol ac eang y dylem ei dathlu, ei mwynhau a’i rhannu ag eraill. Rydym am i’n sefydliadau a’n gwasanaethau diwylliannol gefnogi pobl Cymru i alluogi pawb yng Nghymru i fod yn Gymry unigryw gyda’i gilydd, ac fel unigolion.

Dylai arloesi a rhagoriaeth fod yn sylfaenol i’n dyheadau o ran datblygu a dathlu diwylliant.

Rhaid i ni barhau i greu a chwilio am gyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i ddathlu diwylliant yng Nghymru yn ei holl ffurfiau gwahanol.

Ein dyheadau

  1. Mae diwylliant yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog.
  2. Mae gan ddiwylliant broffil uchel yn y ffordd y caiff Cymru ei marchnata i ymwelwyr a sut rydym yn sefydlu ac yn datblygu cysylltiadau rhyngwladol.
  3. Codir proffil diwylliant drwy ddathlu a hyrwyddo diwylliant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Blaenoriaeth 3: mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy

3.1 Gofalu am ein lleoedd a’n casgliadau diwylliannol

Er mwyn gofalu am ein lleoedd a’n casgliadau hanesyddol mae angen dealltwriaeth o’u rhinweddau a’u harwyddocâd arbennig ac mae’n dibynnu ar sgiliau arbenigol, deddfwriaeth, rheoliadau ac arweiniad, ac ar gyllid.

Mae angen buddsoddiad parhaus i sicrhau ein bod yn cadw ac yn cynnal ein hadeiladau a’n henebion hanesyddol unigryw, yn enwedig y rheini mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol, sy’n cyfrannu cymaint at ein hunaniaeth ddiwylliannol a’n heconomi twristiaeth.

Mae heriau’n bodoli o ran storio casgliadau. Mae angen buddsoddiad cyfalaf parhaus a strategol i gefnogi’r gwaith o storio casgliadau’n ddiogel, ac i greu lleoedd croesawgar a llawn ysbrydoliaeth lle gall y cyhoedd ryngweithio â hwy.

Dylai ein casgliadau a’n hasedau hanesyddol fod yn berthnasol i Gymru gyfoes ac amrywiol a dylid manteisio arnynt i ysbrydoli creadigrwydd, cefnogi dysgu a chreu lleoedd. Dylai mynediad at ein casgliadau adlewyrchu ein dyhead i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau llesiant diwylliannol pawb yng Nghymru.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol neu dreftadaeth fyw yng Nghymru. Mae treftadaeth fyw yn cynrychioli casgliadau anniriaethol lle mae traddodiadau llafar a gwerin, sgiliau, arferion cymdeithasol, defodau a digwyddiadau Nadoligaidd yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.

3.2 Cydweithio strategol a phartneriaethau deinamig

Ni ddylai’r sector diwylliant weithio mewn seilos. Mae rhanddeiliaid wedi mynegi awydd clir am fwy o gydweithio, ac agwedd ragweithiol tuag at gryfhau’r cysylltiadau presennol a sefydlu partneriaethau newydd.

Mae cydweithio da eisoes yn digwydd rhwng y sector diwylliant a sectorau eraill, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, Cyfoeth Naturiol Cymru, parciau cenedlaethol, chwaraeon, twristiaeth a busnesau yn y sector preifat. Mae’r ymdrechion hyn yn arwain at bartneriaethau deinamig a chreadigol, rhannu gwybodaeth a dulliau cyllido ar y cyd.

Rydym am archwilio mwy o waith traws-sector, yn enwedig gyda meysydd fel iechyd, addysg, datblygu economaidd, twristiaeth, yr amgylchedd naturiol, mynd i’r afael â thlodi a chyfiawnder cymdeithasol.

3.3 Pŵer technoleg ddigidol

Mae angen inni lunio dull mwy strategol, cydweithredol a chydlynol o ymdrin â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu yn y byd digidol.

Creu, Rheoli a Chynnal Cynnwys Digidol

Mae cynnwys digidol yn agored i niwed ac yn fregus. Gall darfodiad technoleg ei wneud yn anhygyrch, mae perygl iddo gael ei golli neu ei lygru, a gall sefydliadau diwylliannol ddioddef ymosodiad seiber niweidiol. Rhaid i ni fod yr un mor ofalus wrth ddiogelu a gofalu am ein diwylliant a’n treftadaeth ddigidol ag yr ydym
ni gyda’n treftadaeth ffisegol drwy sicrhau ein bod yn creu cynnwys digidol o ansawdd uchel sy’n gallu cael ei gadw a’i storio’n ddiogel dros y tymor hir. Bydd buddsoddi mewn seilwaith digidol cynaliadwy a chadarn ochr yn ochr â’n seilwaith ffisegol, a chryfhau sylfeini ein gwasanaethau digidol, yn unol â dyheadau’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, yn sicrhau y gall ein sectorau ddatblygu cynigion digidol sy’n arwain y byd ac sy’n ddiogel.

Sgiliau Digidol

Mae angen sgiliau digidol priodol arnom ar bob lefel, o wirfoddolwyr rheng flaen sy’n defnyddio meddalwedd tocynnau, i archifwyr a churaduron sydd â gwybodaeth arbenigol am safonau ac arferion gorau ynghylch cadwraeth ddigidol, i arweinwyr sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau digidol yn seiliedig ar ddealltwriaeth o dueddiadau cynulleidfaoedd.

Technolegau Newydd

Mae angen cymorth ar ein sectorau i arloesi a chynyddu eu capasiti digidol. Rydym am gryfhau’r defnydd o dechnolegau newydd i wella’r ffordd y mae pobl yn cysylltu â diwylliant yng Nghymru ac yn mynd ati i’w greu. Fodd bynnag, mae cost garbon ynghlwm â defnyddio technoleg newydd, a rhaid i ni fod yn ymwybodol o gostau ynni a’r ôl troed carbon yn sgil cynnal cynnwys digidol.

Cysylltedd Digidol

Drwy gynnal cynnwys diwylliannol ar-lein, gallwn gysylltu cymunedau ledled Cymru â’i gilydd, a thynnu sylw’r byd at y rhannau gorau o’n diwylliant amrywiol. Gall casgliadau, arddangosfeydd a pherfformiadau digidol gynnig cyfle i bobl ledled Cymru ymgysylltu mewn diwylliant a fyddai fel arall yn anhygyrch.

Mae gagendor yn bodoli rhwng cyrff diwylliannol mwy o faint sydd â’r adnoddau, yr offer, y capasiti a’r sylfaen sgiliau i ddigideiddio, a sefydliadau llai, yn enwedig rhai lleol, nad oes ganddynt yr asedau hyn.

3.4 Buddsoddi mewn ymchwil

Yn 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am ddull mwy cynhwysfawr a chydlynol o gasglu data a thystiolaeth ar draws ein sectorau i gefnogi datblygiad y sector ac i lywio penderfyniadau.

Bydd lledaenu canfyddiadau ymchwil mewn modd effeithiol a diddorol yn galluogi’r sector i gynllunio’n fwy effeithlon ar gyfer y dyfodol. 

Dylai parhau i ddatblygu cysylltiadau â phartneriaid ymchwil i gryfhau’r ffocws ar ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, a datblygu agenda ymchwil genedlaethol, fod yn amcanion ar y cyd rhwng y sector diwylliant ac addysg uwch.

3.5 Gweithlu’r sector diwylliant

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i hyrwyddo gwaith teg, i fabwysiadu arferion ac ymddygiad sy’n gyson â gwaith teg, a hyrwyddo pwysigrwydd undebau llafur yn y gweithle, gan gydnabod eu bod yn cyfrannu at wella profiad gwaith, llais gweithwyr a chynrychiolaeth.

Mae gweithwyr llawrydd a gweithwyr portffolio yn nodweddion allweddol o weithlu’r sector diwylliant, ac mae angen dull strategol ar y cyd o ddatblygu a chynnal gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliant a chreadigol. Dylai hyn gynnwys ymrwymiad i gefnogi gweithwyr llawrydd yng Nghymru, i wella datblygiad sgiliau ac amodau gwaith, ac i gynyddu ein dealltwriaeth o’r gweithlu llawrydd yng Nghymru.

Mae gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y gweithlu ar bob lefel yn parhau i fod yn nod clir, yn yr un modd ag y mae mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog mewn perthynas â rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.

Mae rhai rhannau o’r sector diwylliant yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr, gan gynnwys amgueddfeydd annibynnol a mudiadau celfyddydau a threftadaeth gymunedol ar lawr gwlad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr a’r manteision a ddaw yn sgil gwirfoddoli.

Mae gan lawer o fudiadau ein sector bolisïau ac egwyddorion sydd wedi hen ennill eu plwyf ynghylch gweithio gwirfoddol, a gellid rhannu’r hyn a ddysgwyd yma yn ehangach ar draws y sectorau, ond mae bwlch yn bodoli yn y ffordd y mae’r sector diwylliant yn cydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr. Ar hyn o bryd, nid oes dull cydlynol, ar draws sectorau o hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli.

Mae prinder sgiliau penodol yn y sector diwylliant. Mae’r rhain yn amrywio o adeiladwyr arbenigol sy’n gyfarwydd ag anghenion adeiladau hanesyddol i sgiliau digidol, llyfrgellwyr arbenigol, curaduron, archifwyr a gwarchodwyr, ac arbenigwyr argyfwng hinsawdd a charbon. Mae’r sector celfyddydau yn ei chael yn fwyfwy anodd dod o hyd i gymorth technegol ar gyfer cynyrchiadau llwyfan a sgiliau arbenigol eraill. Mae ar y sector treftadaeth yng Nghymru angen cyflenwad cryf a medrus o archeolegwyr, gwarchodwyr, arbenigwyr rheoli treftadaeth a chwmnïau adeiladu sy’n gallu cynnal ein hasedau hanesyddol a’r amgylchedd hanesyddol ehangach. Er ein bod yn cydnabod y cyfyngiadau ariannol tymor byr, rydym yn benderfynol y dylem ddiogelu, blaenoriaethu a meithrin datblygiad y sgiliau hyn yn ystod oes y blaenoriaethau strategol hyn.

Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod heriau o ran denu sgiliau iaith Gymraeg i’r sectorau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a chefnogi staff arbenigol i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol yn barhaus a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am arloesi technolegol newydd, yn enwedig pan fydd lefelau staffio’n wan.

Mae datblygu gweithlu medrus yn gofyn am gynllunio gofalus a bwriadol dros gyfnod estynedig o amser.

3.6 Diwylliant a datblygu cynaliadwy

Gall diwylliant wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r argyfwng hinsawdd a natur, gan ehangu ein gwybodaeth a’n safbwyntiau am gymhlethdod hyn, annog newid mewn ymddygiad, a datblygu atebion creadigol i osgoi canlyniadau gwaethaf newid yn yr hinsawdd. Rhaid i gynaliadwyedd gael ei wreiddio fel edau aur drwy galon yr hyn a wnawn.

Mae angen i ni feithrin gwydnwch yn y sector i reoli effaith hinsawdd sy’n newid. Mae stormydd a llifogydd wedi arwain at ddifrod a cholli asedau. Mae’n bosibl y bydd tueddiadau tymor hir fel hafau poethach a sychach, tymor tyfu hirach, lefelau’r môr yn codi a thywydd sy’n fwyfwy eithafol yn cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd hanesyddol, ar oroesiad asedau treftadaeth sy’n agored i niwed, ac ar ddarparu gwasanaethau a digwyddiadau. Bydd mwy o achosion o blâu a’n gallu ni i sefydlogi tymheredd cyfnewidiol a lleithder cymharol mewn amgylcheddau mewnol yn effeithio ar y gwaith o ddiogelu casgliadau yn y tymor hir.

Rhaid inni weithredu ar sail system gyfan gyda’n cynlluniau i wrthsefyll yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy yn y sector diwylliant, gyda’r nod o fynd i’r afael â’r camau cyfunol, cyd-ddibynnol sydd eu hangen ar draws gwahanol feysydd polisi a rhanddeiliaid i feithrin gwydnwch.

Ein dyheadau

  1. Mae gan sefydliadau sy’n gofalu am ein casgliadau a’n lleoedd hanesyddol ddulliau strategol i gydnabod eu harwyddocâd a’u casglu.
  2. Mae ein casgliadau a’n hasedau hanesyddol yn derbyn gofal, ac maent yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgu, creadigrwydd, creu lleoedd a llesiant diwylliannol.
  3. Mae ein treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn cael ei chofnodi a’i chefnogi i ffynnu.
  4. Bydd cyrff diwylliant a threftadaeth yn cydweithio i fanteisio i’r eithaf ar botensial llawn timau a chasgliadau arbenigol, gan weithio gydag eraill i ystyried pŵer diwylliant a manteisio arno.
  5. Mae arferion digidol da yn cefnogi ac yn gwella diwylliant.
  6. Mae gan ddiwylliant agwedd gydweithredol a hirdymor tuag at ymchwil a chasglu a rhannu tystiolaeth.
  7. Mae’r sector diwylliant yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli, gyda gweithlu proffesiynol a medrus.
  8. Mae’r sector diwylliant yn dangos arweinyddiaeth a chydweithio yn ei ddulliau gweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy, meithrin gwydnwch, a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Ein ffyrdd o weithio

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r blaenoriaethau strategol hyn yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Rydym wedi edrych ar y sefyllfa tymor hir, wedi cynnwys pobl, wedi cydweithio â phartneriaid, wedi ystyried sut gallwn atal problemau, ac wedi sicrhau dull gweithredu integredig. Bydd y ffyrdd hyn o weithio yn parhau wrth i ni roi’r blaenoriaethau ar waith.

Mae’r blaenoriaethau a’r dyheadau wedi’u llywio a’u cyfoethogi gan gyfraniadau gan randdeiliaid a’r cyhoedd. Rydym yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o waith datblygu a chwblhau’r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant a’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol

Mae’r tabl isod yn dangos pa Ddangosyddion Llesiant Cenedlaethol y gallai’r blaenoriaethau eu cefnogi, gan adlewyrchu’r egwyddorion datblygu cynaliadwy a gwneud cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Sut y gallai’r blaenoriaethau hyn gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol:

Mae diwylliant yn dod â phobl ynghyd

06. Mesur datblygiad plant ifanc
17. Gwahaniaeth cyflog ar sail rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd
23. Canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
24. Canran y bobl sy’n fodlon â’u gallu i gyrraedd/ cael mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt
26. Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw
27. Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
28. Canran y bobl sy’n gwirfoddoli
29. Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
30. Canran y bobl sy’n unig
35. Canran y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf dair gwaith y flwyddyn
36. Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg
46. Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

Dathlu Cymru fel cenedl diwylliant

26. Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw
35. Canran y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf dair gwaith y flwyddyn
36. Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg
46. Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

Mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy

16. Canran y bobl mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol
17. Gwahaniaeth cyflog ar sail rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd
22. Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi ei mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
23. Canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
26. Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw
28. Canran y bobl sy’n gwirfoddoli
35. Canran y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf dair gwaith y flwyddyn
36. Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg
39. Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy’n cadw casgliadau archifol / treftadaeth sy’n cyrraedd safonau achrededig y Deyrnas Unedig
40. Canran yr asedau amgylchedd hanesyddol dynodedig sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
41. Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
42. Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru
44. Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
46. Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru
48. Canran y siwrneiau drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus
50. Statws cynhwysiant digidol