Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Drwy greu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach bydd mwy o bobl ifanc yn gallu teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

Gallwn droi ein cryfderau economaidd yn dwf busnes mwy uchelgeisiol gyda swyddi diogel sy’n talu cyflogau da ac yn codi safonau byw. Gallwn achub y blaen ar ddiwydiannau’r dyfodol gyda buddsoddiad sy’n gosod cymunedau sydd wedi cael eu dal yn ôl gan ganoliaeth gronig y DU wrth galon ein stori economaidd gyffredin.

Gallwn ymateb i’r heriau rydym yn eu hwynebu drwy ddod â’r economi bob dydd a’r ffin dechnolegol at ei gilydd, gan droi risgiau’n gyfleoedd.

Gallwn fuddsoddi mewn partneriaethau sy’n meithrin ymddiriedaeth a chysylltiad rhwng pobl; gan gael gwared ar yr ocsigen sy’n bwydo casineb ac arwahanu.

Gallwn ddewis dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach; un a adeiladwyd gan bob un ohonom.

Ers lansio ein Cenhadaeth Economaidd yn 2021, mae digwyddiadau byd-eang a domestig wedi rhoi sioc i fusnesau a’r gweithwyr, gan niweidio twf, creu ansicrwydd ac, ar adegau, roedd yn rhaid cael ymatebion brys. Mae wedi sbarduno argyfwng costau byw, wedi lleihau buddsoddiad rhanbarthol i Gymru ac wedi erydu cyllid cyhoeddus ar draws rhanbarthau a gwledydd y DU.

Wrth wynebu omicron, wedi’i ddilyn gan chwyddiant cynyddol, costau ynni a chyfraddau llog, yn naturiol rydym wedi canolbwyntio ar helpu busnesau – yn enwedig busnesau bach a chanolig –  drwy gyfnodau anodd a buddsoddi cymaint â phosibl i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau, gan roi cymorth cyflym ar waith i helpu’r rheini sy’n wynebu colli eu swyddi i ddod o hyd i waith newydd.

Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi bwrw ymlaen â'r Genhadaeth Economaidd, gan gyflawni ar gyfer pobl, mannau a busnesau:

  • mae dros 27,000 o bobl ifanc bellach wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd a sgiliau ers lansio'r Warant i Bobl Ifanc ym mis Tachwedd 2021.
  • o led-ddargludyddion i gemau, rydym wedi taro bargeinion, gan ddod â channoedd o swyddi newydd o ansawdd i Gymru, wrth ddarparu cefnogaeth bwrpasol ar gyfer yr adferiad cynyddol yn ein hallforion.
  • wedi dargedu buddsoddiadau yn ein rhanbarthau, gan gynnwys £40 miliwn ar gyfer Morlais ar Ynys Môn; y datblygiad ynni llanw mwyaf i gael cydsyniad yn y DU. Bydd Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yn gweithio gyda’n cryfderau rhanbarthol i ddod â chyfleoedd newydd ar draws y sectorau dur, gweithgynhyrchu uwch ac ynni glân.
  • wedi creu Cronfa Benthyciadau Busnes Gwyrdd drwy Fanc Datblygu Cymru, gan helpu busnesau bach a chanolig i ostwng eu biliau ynni unwaith ac am byth.
  • seilwaith newydd a gwell – o ysgolion a cholegau ac amddiffynfeydd llifogydd i Safon Ansawdd Tai Cymru a Fand Eang Cyflym Iawn.
  • cymorth ar gyfer Clwster Seiber cryfaf y DU, buddsoddi £3 miliwn yn y Ganolfan Arloesi Seiber, gan ddod â phartneriaid diwydiant, llywodraeth, amddiffyn ac academaidd at ei gilydd i dyfu sector seiberddiogelwch Cymru.

Mae polisïau arwyddocaol ar draws y llywodraeth hefyd yn cefnogi rhagor o gyfleoedd economaidd gan gynnwys:

  • estyn y Cynnig Gofal Plant (sydd eisoes y mwyaf hael yn y DU),
  • adeiladu 20,000 o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol y tymor Senedd hwn
  • trawsnewid teithio ar draws cymoedd y de; o ddeuoli'r A465 i rwydwaith METRO a thrydaneiddio Llinellau'r Cymoedd.

Mae'r cynnydd hwn yn bosibl oherwydd y partneriaethau a’r agwedd agored rydym wedi dewis ei chroesawu. Mae sefydlogrwydd yr arweinyddiaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi canolbwyntio ar yr hirdymor a chwblhau’r gwaith o gyflwyno bargeinion sy’n creu swyddi newydd – o led-ddargludyddion yng Nghasnewydd i'r gwyddorau bywyd yng Ngwynedd. 

Mae’n caniatáu iddynt feithrin perthnasoedd agosach ac ennyn ymddiriedaeth busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill a chael gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd y gall Cymru eu hennill.

Ar adeg o'r fath ansicrwydd, rwyf wedi trafod â busnesau sut y gallwn fwrw ymlaen â'r Genhadaeth Economaidd i gynyddu'r sicrwydd y gallwn ei gynnig cymaint ag y bo modd i hybu twf, lleihau anghydraddoldeb a chadw rhagor o werth yn economi Cymru.

Byddwn yn defnyddio polisi diwydiannol gweithredol i osod Cymru fel partner yn y don o strategaethau diwydiannol newydd sy’n ailddiffinio polisi economaidd o Ddeddf Lleihau Chwyddiant yr Unol Daleithiau i’r Fargen Werdd Ewropeaidd. Mae buddsoddiadau busnes yn rhuthro tuag at y gweledigaethau cyffredin hynny ac mae Cymru mewn gwell sefyllfa nag erioed i fanteisio ar y galw am ynni glân a gweithgynhyrchu uwch.

Mae'r Genhadaeth Economaidd eisoes wedi gosod Cymru ar lwybr sy'n cysylltu ein hymateb i'r pandemig â pholisïau diwydiannol hirdymor, gweithredol. Nid oes unrhyw dystiolaeth gredadwy na phrofiadau diweddar sy'n cefnogi'r achos dros newid i ddadreoleiddio di-hid, disgwyliadau is ynghylch amodau gwaith a safonau amgylcheddol na thoriadau treth heb eu hariannu.  Mae'r egwyddor y bydd manteision yn diferu i lawr wedi methu.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn partneriaethau hirdymor sy'n gallu cysylltu arloesedd a sgiliau â chyflogau a lles gwell. Mewn sectorau fel awyrofod, y diwydiannau creadigol ac ynni mae ein partneriaethau wedi adeiladu gyrfaoedd parhaol sy'n cefnogi amodau ariannol cryfach i deuluoedd mewn llawer o'n cymunedau.

Ni all Llywodraeth Cymru gefnogi pob cynnig ar gyfer ein heconomi ac anwybyddu realiti'r cyfyngiadau ariannol a osodir ar gyllideb Cymru. Bydd ein Cenhadaeth yn arwain penderfyniadau yn ystod cyfnodau anodd a heriau difrifol o ran cyllidebau. Bydd ein blaenoriaethau’n canolbwyntio ar gyfleoedd fel y gallwn ehangu wrth i gyfleoedd newydd ddod i’r amlwg a pholisïau ar lefel y DU newid.

Mae ymdeimlad o flaenoriaeth sy'n golygu gwrthod cynigion am fuddsoddiadau sy'n methu'r prawf o ran twf, gwaith teg, lle a gwerth am arian.  Ond mae ymdeimlad o flaenoriaeth hefyd yn golygu cefnogi'r cynigion hynny sydd wedi'u hadeiladu i barhau, gyda phartneriaethau hirdymor a ffyrdd creadigol o weithio sy'n gwella incwm a safonau byw.

Yn y busnesau rwy'n eu gweld ledled Cymru, mae llawer o resymau dros fod yn optimistaidd a llawer enghreifftiau o’r hyn sy’n gwneud Cymru ynn lle gwych i fyw, gweithio a chynnal busnes ynddo.

Ein blaenoriaethau yw economi agored, hyderus, sy'n wynebu'r dyfodol y mae pob un ohonom yn cyfrannu ati.

Sicrhau lle Cymru mewn dyfodol economaidd newydd

Mae’r economi fyd-eang yn newid. O ddur i ynni adnewyddadwy ac o seiber i awyrofod, mae problemau byd-eang yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch o ble y bydd twf yn dod a lle ein heconomi yn y byd.  Gall hyn ddod â chyfleoedd enfawr i Gymru gan y bydd rhagor o fuddsoddiadau'n cael eu denu i leoedd a diwydiannau y tu hwnt i’r canolfannau ariannol.    

Mae diwydiant, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio yng Nghymru i wneud i bethau ddigwydd. Mae gennym gymorth busnes neilltuedig a’r hyblygrwydd i wneud penderfyniadau’n gyflym; amgylchedd sydd wedi cyfrannu at dwf aruthrol y sector creadigol yng Nghymru ac wedi gwneud Cymru yn gartref i’r AMRC. O Fanc Datblygu cyntaf y DU i’n gwasanaeth Busnes Cymru pwrpasol, mae ein gwasanaethau ar gyfer busnesau bach yn ddigon agos i ddeall economïau lleol ac anghenion entrepreneuriaid ac yn ddigon mawr i gael effaith.

Mae gennym gysylltiadau da â gweddill y DU ac â marchnadoedd byd-eang ac mae Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Mae hefyd yn wlad hardd gydag ansawdd bywyd gwych ar gael.

Wrth i’r economi fyd-eang newid, byddwn yn fanteisio i’r eithaf ar ein pwerau datganoledig, gan ddangos yn glir ein bod o blaid busnes ac o blaid gweithwyr, gydag enw da am waith teg a lles ac ymrwymiad i'r rhain yn sail i hyn.

Nid oes her fwy na’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac mae angen inni  drawsnewid ein heconomi i ysgogi ffyniant gwyrdd. Mae angen inni fynd ati fel mater o frys i ddiogelu ein heconomi a’n seilwaith rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Fel gweddill y DU, mae Cymru’n parhau i ymaddasu i amgylchedd masnachu rhyngwladol newydd y tu allan i Farchnad Sengl yr UE. Mae hyn yn dod â chyfleoedd a risgiau yn ei sgil, gan gynnwys y cytundebau masnach newydd a wnaed hyd yma. Rydym yn cefnogi busnesau a phobl yn ystod y newid hwn ac yn gweithio i ddileu rhwystrau i fasnach.

Cyflawni

Rwy’n nodi pedair blaenoriaeth allweddol a fydd yn ein helpu i ganolbwyntio a chyflawni yn erbyn y canlyniadau uchelgeisiol a nodir yn ein Cenhadaeth Economaidd.

  1. Pontio Cyfiawn a Ffyniant Gwyrdd
  2. Platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant
  3. Partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd
  4. Buddsoddi ar gyfer Twf

Bydd y rhain yn llywio sut rydym yn ymateb i ansicrwydd ac yn adeiladu ar gyfer y dyfodol. Byddant yn arwain y ffordd rydym yn blaenoriaethu mewn cyfnod anodd ac yn ehangu ar gyfer cyfleoedd newydd yn y dyfodol gydag ymdeimlad clir o bwrpas a chyfeiriad.

Seilir ein cenhadaeth i gael economi ffyniannus, wyrddach a thecach yng Nghymru ar gael economïau rhanbarthol cryfach o fewn ‘tîm Cymru’ ac wedi’u cefnogi gan ei genhadaeth i hybu twf er mwyn cael swyddi gwell mewn cymunedau lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Mae ein contract economaidd yn darparu llwyfan ar gyfer sut byddwn yn helpu i adeiladu ar y cyfleoedd hyn gyda Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, Cymru’n Gweithio, a Banc Datblygu Cymru i nodi ein hymrwymiad i ddarparu arweiniad clir a chymorth busnes.

Bydd ein heconomi’n edrych tua’r dyfodol, yn sicrhau canlyniadau clir i genedlaethau’r presennol a rhai’r dyfodol ac rwyf am i Gymru fod yn un o’r lleoedd gorau yn y byd i fyw a gweithio ynddo.

Vaughan Gething AS
Gweinidog yr Economi

Canlyniadau’r genhadaeth economaidd

Mae canlyniadau'r Genhadaeth Economaidd yn sail i'r pedair blaenoriaeth: economi fwy ffyniannus, economi wyrddach ac economi fwy cyfartal. 

Mae economi fwy ffyniannus yn un sy'n gweithredu o fewn terfynau amgylcheddol diogel ac sy'n hyrwyddo llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.  Llywodraeth weithredol sy'n ysgogi datblygu economaidd i gynyddu'r economi a lleihau anghydraddoldebau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yw ein glasbrint i lunio dyfodol Cymru, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n llunio’r hyn rydym yn ei wneud a’r nodau tymor hir a amlinellir yn y Genhadaeth Economaidd a gyhoeddwyd yn 2021. Rydym wedi ymrwymo i fanteisio gymaint â phosibl ar ei gyfraniad at gyflawni ein saith nod llesiant ar gyfer Cymru.

Mae cynhyrchiant yn hanfodol ar gyfer economi gynaliadwy sy’n tyfu ac sy’n cynhyrchu mwy gyda llai, yn arloesi, yn creu enillion ac yn gwobrwyo gweithwyr a pherchnogion busnes drwy gynnig cyflogau ac incymau gwell. Er mwyn cyflawni hyn, mae gan Gymru lawer o ysgogiadau tymor hwy, sy'n cynnwys sgiliau, addysg, cyngor, cefnogaeth a chyllid a'r gallu i gefnogi seilwaith. Mae cynhyrchiant a busnesau sy’n tyfu hefyd yn darparu sail ar gyfer ehangu’r sylfaen drethu, sy’n cynhyrchu adnoddau’r llywodraeth i ariannu’r buddsoddiadau hyn.

Rydym yn cytuno â dadansoddiadau’r arbenigwyr arweiniol, gan gynnwys Resolution Foundation, sy’n nodi’r angen am strategaeth ddiwydiannol hirdymor ar gyfer y DU gyfan. Cynyddu twf ledled rhanbarthau a gwledydd y DU yw’r llwybr i gyrraedd ein nodau ar gyfer Sero Net, gan godi safonau byw a chodi plant o dlodi yn y tymor hir.

Pedair blaenoriaeth genedlaethol

Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn bwrw ymlaen â'n Cenhadaeth Economaidd, gan ganolbwyntio ar y dulliau a all helpu pobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.  

Bydd hyn yn manteisio ar yr arferion gorau rhyngwladol, wrth ymateb i farchnad lafur sy'n esblygu i gefnogi'r amodau sydd eu hangen er mwyn i fusnesau ffynnu.

Byddwn yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth penodol:

  1. Pontio cyfiawn a Ffyniant Gwyrdd: gwireddu’r cyfleoedd Sero Net enfawr ledled Cymru, o’i hamgylchedd naturiol i gefnogi twf busnesau ac ymgysylltu â busnesau a phobl i symud tuag at bontio teg.
  2. Platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant: cefnogi pobl ifanc i gael dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Rhoi blaenoriaeth i'w sgiliau a'u creadigrwydd. Byddwn yn targedu adnoddau lle mae’r angen mwyaf, gyda chymorth ar gael ar gyfer y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafar.
  3. Partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'n heconomi bob dydd: gweithio gyda phob rhanbarth i gytuno ar gyfres lai o flaenoriaethau brys. Bydd y rhain yn cynnwys cydweithio i hybu'r achos dros benderfyniadau gan y DU sy'n denu llawer o fuddsoddiadau ac yn cefnogi swyddi teg sy'n cydnabod undebau llafur mewn meysydd fel ynni niwclear, ynni gwynt ar y môr a thechnoleg.  Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd o dan amodau anodd i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o gronfeydd ôl-UE yn dychwelyd, ac yn cefnogi’r economi bob dydd i gadw rhagor o werth ac i drechu tlodi.  
  4. Buddsoddi ar gyfer Twf: byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ganolbwyntio ar ein cryfderau cymharol i hybu buddsoddi a thwf sy’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar waith teg a’r tymor hir. Bydd ein Strategaeth Arloesi newydd yn seiliedig ar genhadaeth, a bydd yn targedu buddsoddiadau newydd mewn tirwedd economaidd ôl-UE, gan gefnogi masnacheiddio, ymchwil a datblygu ac entrepreneuriaeth ar draws busnesau.

Ymrwymiad y Llywodraeth gyfan

Rydym eisiau manteisio ar gryfderau ein pwerau datganoledig a sicrhau bod busnesau’n cael eu cefnogi, er mwyn denu talent a bod yn sail i’n huchelgeisiau i gael cymdeithas ffyniannus, wyrddach a chyfartal.

Bydd y pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol yn cael eu cefnogi gan y penderfyniadau a'r camau a gymerwn yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Yn eu plith:

  • cyhoeddi cynllun sero net wedi'i ddiweddaru  ar gyfer pob cyllideb garbon. Bydd y polisïau a’r cynigion yn y cynllun hwn yn rhoi eglurder a sicrwydd economaidd ar gyfer buddsoddi, gan sicrhau bod sgiliau ein gweithlu’n cyfateb i’n huchelgais ar draws yr economi werdd.
  • dileu rhwystrau a chynyddu cyfleoedd ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.  Mae gormod o bobl sy'n gweithio yn wynebu rhwystrau mympwyol i lwyddiant ac yn rhy aml yn ddi-rym wrth gael eu trin yn annheg.  Bydd ein camau gweithredu'n hyrwyddo lles pawb fel buddsoddiad mewn llwyddiant economaidd a thwf parhaol.
  • cefnogi'r rhain sydd bellaf o'r farchnad lafur Gall cael gwared ar rwystrau i gyflogaeth godi pobl a theuluoedd  o dlodi a lleihau tlodi plant. Byddwn yn prif ffrydio ein hymrwymiad i'r economi bob dydd, ac yn gofyn i bob corff cyhoeddus edrych ar sut i gynnwys gwerth cymdeithasol yn eu contractau a'u cynlluniau gweithlu i helpu i fynd i'r afael â thlodi ac atal caledi.
  • lleihau'r rhaniad sgiliau. Datblygu dull gweithredu drwy ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau, a bod safonau’n codi, gan fynd i’r afael â diffyg cymwysterau a chynyddu symudedd gweithwyr.
  • systemau trafnidiaeth ar gyfer cysylltiadau gwell – Cysylltu pobl â chyfleoedd a gwasanaethau cyhoeddus, gan ehangu marchnadoedd llafur, galluogi pobl i gael eu paru’n well â swyddi, ac yn caniatáu gwell mynediad at fwy o gyfleoedd hyfforddi. Dod â chymunedau at ei gilydd a galluogi busnesau i dyfu ac ehangu.
  • rhoi blaenoriaethi i Ddulliau Adeiladu Modern yn y sector adeiladu cartrefi a darparu tir ar gyfer cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy gan gefnogi ein partneriaid i ddarparu cartrefi carbon isel o safon.
  • cefnogaeth newydd wedi'i hysgogi gan genhadaeth ar gyfer Ymchwil a Datblygu, wedi'i chynllunio i ddenu rhagor o gyllid y DU i Gymru, gan gefnogi sector addysg uwch ffyniannus a swyddi'r dyfodol. Bydd hyn yn cefnogi arloesedd sy'n cael ei ysgogi gan ddata a mabwysiadu technolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial, gan hyrwyddo ein Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol i Gymru.
  • partneriaeth gymdeithasol: atgyfnerthu ein partneriaethau â busnesau, undebau, rhanbarthau – gan gynnwys llywodraeth leol, a phartneriaid ehangach i fuddsoddi gyda phwrpas cyffredin. Byddwn yn defnyddio dull Tîm Cymru i wneud penderfyniadau sy'n ystyried cenedlaethau'r dyfodol.

Y camau nesaf

Yr economi llesiant

Byddwn yn gweithio gyda grŵp Llywodraethau'r Economi Llesiant, menter lle mae aelod-wledydd (yr Alban, Gwlad yr Iâ, Seland Newydd, Cymru a'r Ffindir, gyda Chanada yn cymryd rhan weithredol) yn gweithio gyda'i gilydd i ddeall y blaenoriaethau allweddol ar gyfer economi llesiant. Rydym eisiau gosod Cymru fel cenedl flaenllaw o ran ein dull gweithredu ac arloesi a chanolbwyntio’n benodol ar rôl busnes, lle a phobl i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.

Monitro a gwerthuso

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion a cherrig milltir cenedlaethol i asesu cynnydd tuag at gyflawni nodau llesiant Cymru. Ar hyn o bryd mae hanner cant o ddangosyddion cenedlaethol ac 17 o gerrig milltir cenedlaethol, a byddwn yn parhau i fonitro’r dangosyddion hyn ym meysydd yr amgylchedd, llesiant economaidd a chymdeithasol i ystyried sut mae’r Genhadaeth Economaidd yn cael ei chyflenwi. Byddwn yn datblygu gwaith gyda phartneriaid i ddeall a defnyddio’r data presennol ac i fapio’r farchnad lafur er mwyn edrych i weld lle gallwn sicrhau cymaint o gydlynu â phosibl ar lefel system. Byddwn hefyd yn comisiynu gwerthusiad o’r Genhadaeth Economaidd er mwyn ystyried ei heffaith.

Pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol

Maes blaenoriaeth 1: pontio cyfiawn a ffyniant gwyrdd 

  1. Cyflymu datgarboneiddio busnesau a diwydiant Cymru a’u gallu i wrthsefyll i hinsawdd sy’n newid a galluogi diwydiant i ystyried cyfleoedd twf newydd gan gynnwys, drwy ddod yn arweinydd byd-eang mewn gweithgynhyrchu carbon isel, gan gyfrannu at gryfderau presennol Cymru.
  2. Cefnogi busnesau yng Nghymru i ddeall effeithiau tymor byr a hirdymor newid yn yr hinsawdd a chynnwys hyn yn eu modelau busnes wrth symud ymlaen, gan gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a’r lleoedd o’u cwmpas.
  3. Canolbwyntio ar seilwaith cadarn ac effeithlon drwy ein grid trydan (fel gwynt ar y môr), trafnidiaeth gynaliadwy, adeiladu tai, gwastraff, gwasanaethau digidol a dŵr a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau sero net a thyfu busnesau a chadwyni cyflenwi i ddiwallu anghenion.
  4. Creu’r arbenigedd a’r galluoedd yng Nghymru i gefnogi’r newid i sero net drwy ddatblygu gweithlu medrus a chefnogi busnesau i greu galw, i gefnogi ein huchelgeisiau sero net ac i allu ymateb i’r newidiadau economaidd gofynnol, gan sicrhau newid cyfiawn.
  5. Galluogi datblygu economi carbon isel ac economi gylchol yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol er mwyn cynyddu cyfleoedd i fusnesau lleol greu swyddi lleol ac ysgogi cadwyni cyflenwi a buddsoddiadau newydd. 

Beth yw’r nod?

Bydd yr Economi Werdd yn un o'r meysydd pwysicaf o ran datblygiad economaidd ar gyfer y ddegawd nesaf. Rydym eisiau tyfu ein cadwyni cyflenwi, datgloi cyfleoedd busnes, a grymuso cymunedau i arwain y buddsoddiad uchelgeisiol mewn cyllid gwyrdd. Rydym am sicrhau bod busnesau’n gallu gwrthsefyll amodau hinsawdd sy’n newid a bod ein busnesau’n cyrraedd targedau i leihau allyriadau. Rydym am greu lleoedd lle gall busnesau fanteisio i’r eithaf ar seilwaith gwyrdd ar gyfer twf cynaliadwy.

Beth rydym yn ei wybod?

Lleihau allyriadau carbon ledled Cymru

Mae allyriadau busnesau yng Nghymru yn cyfrif am 12% i 13% o allyriadau busnesau a diwydiant yn y DU (World economic outlook: April 2022 | International Monetary Fund). Mae dadansoddiad gan yr IMF  yn awgrymu y gallai maint cyffredinol newidiadau i swyddi oherwydd y newid i sero net fod yn gymharol isel dros amser, o’i gymharu â newidiadau eraill, er enghraifft o sectorau diwydiannol i wasanaethau, neu newidiadau cyffredinol i swyddi. Er y gallai’r newid hwn fod yn gymharol isel, bydd angen rheoli’r newid gan y gall fod yn arbennig o ddifrifol mewn rhai mannau gan effeithio ar fathau penodol o bobl. Hyd yma, cyfran isel o weithwyr sy’n symud o swyddi brown i swyddi gwyrdd . Mae gweithwyr gyda sgiliau uwch yn ei chael hi’n haws symud i ffwrdd o swyddi gydag allyriadau uchel. Mae gweithwyr â sgiliau is yn ei chael yn anoddach (Net zero transition to mean significant change for 1.3 million workers | LSE Business Review). O fewn swyddi a sectorau, bydd newidiadau’n digwydd i ofynion sgiliau. Bydd hyfforddiant a chymhellion ar gyfer ailsgilio’n hanfodol i sicrhau bod gweithwyr ar incwm isel yn gallu symud i ffwrdd o swyddi gydag allyriadau uchel ac ennill sgiliau newydd yn eu swyddi presennol. Bydd angen ymdrech i gyflawni hyn a mewnbwn gan gwmnïau, y llywodraeth a gweithwyr.

Maes blaenoriaeth 2: platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant 

  1. Creu cyfleoedd cyflogaeth, hunangyflogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc, a fydd yn ceisio manteisio’n llawn ar ymyriadau presennol a chryfhau trefniadau partneriaeth rhanddeiliaid, i greu taith syml i bobl ifanc o bob math o amgylchiadau a chefndiroedd.
  2. Defnyddio’r newid i ddyheadau pobl ifanc ar draws y broses o ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru a datblygu a diwygio prentisiaethau, cymwysterau galwedigaethol, a dysgu entrepreneuraidd i gynyddu sgiliau a chyfleoedd cyflogadwyedd.
  3. Canolbwyntio ar yrfaoedd o ansawdd uchel a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm o 3 i 16 oed, a thu hwnt, gan ehangu profiadau plant a phobl ifanc o waith o oedran llawer iau, a fydd yn cynnig ystod lawn o gyfleoedd i bob person ifanc fod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion economaidd.
  4. Darparu cymorth iechyd meddwl a lles i oresgyn rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg. 
  5. Datblygu cyfleoedd lleol i bobl ifanc a theuluoedd gael gafael ar waith teg, addysg, sgiliau, tai fforddiadwy, trafnidiaeth, gofal plant a chyfleoedd diwylliannol.

Beth yw’r nod?

Rydym eisiau datblygu pentrefi, trefi a dinasoedd bywiog sydd wedi’u cysylltu’n dda ac sy’n apelio at bobl ifanc a theuluoedd, lle mae modd cael cartrefi a gwaith teg, a lle mae cyfoeth yn cael ei gynhyrchu a’i gadw’n lleol. Rydym am i bobl ifanc ffynnu a thyfu drwy fanteisio ar y cyfleoedd cywir ar gyfer cyflogaeth neu addysg ar yr adeg iawn. Mae hyn yn golygu arfogi ein pobl ifanc â’r sgiliau ar gyfer y presennol a’r dyfodol a darparu cymorth i chwalu rhwystrau rhag cael gafael ar gyfleoedd cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â busnesau i sicrhau ein bod yn creu gweithlu sy’n gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith ac i sicrhau bod y sgiliau hyn yn cael eu datblygu ar draws y cwricwlwm. 

Beth rydym yn ei wybod?

Pwysigrwydd pobl a’u sgiliau

Mae ein Y Warant i Bobl Ifanc adroddiad sgwrs genedlaethol: cam 1Cyfres Z cenhedlaeth Gwarant Person Ifanc: adroddiad blynyddol 2022 wedi dweud wrthym fod pobl ifanc yn gwerthfawrogi cyfleoedd profiad gwaith, mynediad at drafnidiaeth a chymorth iechyd meddwl a llesiant fel darpariaethau allweddol i gael mynediad at y swydd, yr addysg neu’r hyfforddiant maen nhw eu heisiau. Canfuwyd dro ar ôl tro mai sgiliau yw’r prif ffactor neu’r ffactor fwyaf sy’n esbonio’r gwahaniaeth rhwng cynhyrchiant gwahanol leoedd, neu fel arall, cyflogau. Er enghraifft, mae tystiolaeth yn dangos bod modd priodoli hyd at 90% o’r gwahaniaethau mewn cyflogau cyfartalog ar draws ardaloedd i wahaniaethau yn y mathau o bobl sy’n gweithio mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys y sgiliau sydd ganddynt a’r rhai maent yn eu defnyddio (Spatial disparities across labour markets | Inequality: the IFS Deaton Review). Wrth edrych o fewn Cymru a chymharu cymwysterau â chyflogaeth ar draws gwahanol leoedd, mae tuedd gyson bod siawns gyfartalog llawer is gan bobl heb unrhyw gymwysterau o fod mewn cyflogaeth. Mae cymwysterau uwch hefyd yn debygol o gael effeithiau cadarnhaol ar gynhyrchiant pobl ac ar faint eu henillion.

Maes blaenoriaeth 3: partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd

  1. Canolbwyntio ar ddatblygu economaidd ar sail lleoedd a’r angen am integreiddio ystod o bolisïau a rhaglenni’n well er mwyn gwella gwasanaethau lleol, fel trafnidiaeth, iechyd, addysg, cynllunio a thai.
  2. Cryfhau’r economi sylfaenol a byrhau ein cadwyni cyflenwi i gefnogi’r nwyddau neu’r gwasanaethau uniongyrchol rydym yn eu prynu, gan gynnwys cael cymaint o gyfleoedd caffael â phosibl, er mwyn galluogi cyfleoedd cyflogaeth lleol.
  3. Cefnogi gwaith teg, sef presenoldeb amodau amlwg yn y gwaith sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed a’u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd gwaith iach a chynhwysol lle caiff hawliau eu parchu.
  4. Canolbwyntio ar anweithgarwch economaidd a chreu cyfleoedd i bobl o bob oed gael gafael ar waith teg, gan gynnwys helpu i gefnogi pobl sydd â rhwystrau iechyd meddwl a rhwystrau cymdeithasol, pobl â nodweddion gwarchodedig a rhieni sengl. 
  5. Chwalu rhwystrau i gyflogaeth a llwybrau gyrfa ar gyfer pobl anabl, menywod, gofalwyr a phobl o leiafrifoedd ethnig, gan wella arferion a diwylliant y gweithle ar yr un pryd.

Beth yw’r nod?

Rydym eisiau canolbwyntio ar le a gwneud cymunedau’n gryfach ac yn fwy gwydn. Rydym am i bobl gymryd rhan mewn gwaith teg, sy'n rhoi ymdeimlad o bwrpas ac sy'n golygu bod gan bobl arian, amser ac adnoddau ar gyfer bywyd iach iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Rydym am nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae rhai o'n cymunedau yn eu hwynebu wrth gael mynediad at swyddi a sgiliau a chryfhau partneriaethau â'n cyflogwyr i greu gweithleoedd a chyfleoedd cynhwysol. 

Beth rydym yn ei wybod?

Anweithgarwch economaidd

Mae anweithgarwch economaidd wedi bod yn broblem hirdymor i Gymru. Er bod y duedd yng Nghymru wedi gostwng dros y tymor hwy, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r duedd honno wedi dod i ben, neu wedi cael ei gwrthdroi hyd yn oed, fel sydd wedi digwydd ar lefel y DU. Mae demograffeg hefyd yn bwysig, gan fod cyfran uwch o’r boblogaeth rhwng 50 a 64 oed yng Nghymru nac ar draws y DU, ac mae tuedd i’r chyfraddau anweithgarwch fod yn uwch yn y grŵp oedran hwn. Byddai llai o anweithgarwch economaidd, drwy gynnydd mewn cyflogaeth, yn gwella llesiant ac yn rhoi hwb i’r economi. Mae ymchwil yn canfod bod 
symud o gyflogaeth i anweithgarwch yn cael effaith negyddol ar lesiant oherwydd salwch a bod symud y ffordd arall yn cael effeithiau cadarnhaol.

Maes blaenoriaeth 4: buddsoddi ar gyfer twf

  1. Cyflawni’r camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Cyflawni Strategaeth Arloesi Cymru ac adeiladu ar gryfderau ac asedau cenedlaethol a rhanbarthol Cymru i ganolbwyntio ar nifer cyfyngedig o ddiwydiannau arwyddocaol y gellir eu tyfu i fod yn gystadleuol ar lefel rhyngwladol. 
  2. Gwireddu potensial gwahanol asedau a chryfderau rhanbarthau Cymru. Cytuno ar set newydd, fyrrach o flaenoriaethau gyda rhanbarthau er mwyn canolbwyntiau ar flaenoriaethau brys. Adeiladu ar glystyrau, marchnadoedd llafur gweithredol, buddsoddiad a pholisïau cymorth busnes a gynlluniwyd mewn partneriaeth â busnesau i gynyddu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth.
  3. Canolbwyntio ar wella safleoedd ac adeiladau diwydiannol a masnachol, eiddo, trafnidiaeth, cysylltedd a seilwaith digidol ar draws busnesau er mwyn gwella a’u gwneud mor gystadleuol â phosibl a denu twf busnes. 
  4. Mynediad parhaus at gymorth o ansawdd uchel ar gyfer twf a busnes arbenigol i gynyddu cynhyrchiant, galluogi twf, cael gafael ar gyllid a gwella sgiliau dysgu a datblygu.
  5. Cefnogi busnesau i feithrin gallu i dyfu, allforio a chael cymaint o gyfleoedd â phosibl, gan gynnwys cytundebau masnach, i gefnogi cyfranogiad gweithredol mewn masnach yn y DU ac yn rhyngwladol, gan alluogi cynnal lefelau uchel o lafur domestig a safonau cymdeithasol.
  6. Cefnogi arloesi a masnacheiddio, gan gynnwys i dechnolegau newydd sy’n esblygu’n gyflym, fel Deallusrwydd Artiffisial, a diogelu ein heconomi at y dyfodol drwy fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu i ategu llafur yn ogystal â’i ddisodli â chyflogaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Beth yw’r nod?

Rydym am helpu busnesau i dyfu, boed yn fusnesau sy'n cychwyn, yn datblygu neu fusnes corfforaethol sefydledig a fydd yn helpu i yrru cynhyrchiant rhanbarthol a hybu cystadleurwydd. Mae buddsoddi a thwf yn gallu dod â swyddi medrus o ansawdd uchel i ardaloedd gwledig a chymunedau mwy difreintiedig, gan gynnig swyddi gwell yn agosach at gartrefi pobl. Rydym am ddenu mewnfuddsoddi o dramor a hybu masnach ac allforion i gynyddu cyfleoedd yn y farchnad, helpu busnesau i gael gafael ar sgiliau a thalent i gefnogi eu dyheadau o ran twf ac i gryfhau arloesedd a galluoedd digidol Cymru.

Beth rydym yn ei wybod?

Amgylchedd economaidd newydd

Mae economi Cymru yn newid yn barhaus, ac mae newidiadau byd-eang yn creu cyfleoedd a risgiau newydd. Mae gweinyddiaeth Biden yn UDA wedi dewis cyfeiriad newydd sy’n gosod y bar ar gyfer economïau sydd o ddifri ynghylch sicrhau twf ac adfer ymddiriedaeth. 

Ers 2021 mae busnesau wedi buddsoddi $500 biliwn mewn gweithgynhyrchu ac ynni glân yn yr Unol Daleithiau – dau sector cryf yng Nghymru ar draws busnesau a chanddynt gysylltiadau cryf â’r Unol Daleithiau. Mae economïau a buddsoddwyr mawr yn edrych tuag at y sectorau sy’n cefnogi swyddi da yng Nghymru fel ffynhonnell dwf  gynaliadwy, gyda’r clwstwr lled-ddargludyddion yn dangos maint y cyfleoedd yn yr amgylchedd newydd hwn.