Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Mae Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant wedi lansio heddiw gyda ffocws ar gyfleoedd i bawb, waeth beth fo'u hoedran neu gefndir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r blaenoriaethau newydd hyn yn cael eu cefnogi gan becyn buddsoddi gwerth £15 miliwn i gefnogi eu gweithredu ledled Cymru.

Wrth wneud y cyhoeddiad, cadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, y bydd y cyllid, o'r gyllideb derfynol ddiweddar, yn cael ei rannu'n ddwy brif ffrwd:

  • £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru
  • £7 miliwn o gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, y celfyddydau a'r amgylchedd hanesyddol

Dywedodd y Gweinidog:

Rwy'n falch o gyhoeddi'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant heddiw, gan gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraeth. Mae'r buddsoddiad hwn o £15 miliwn yn darparu cyllid hanfodol i gefnogi ein huchelgeisiau diwylliannol a bydd yn cael effaith sylweddol ledled Cymru.

Bydd y cyllid gwell yn cefnogi sawl blaenoriaeth allweddol, megis gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc; mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a darparu adnoddau i helpu'r sector i gyflawni sero net; datblygu sgiliau; gwella mynediad a gwella digidol.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Rwy'n hynod falch o'r sector diwylliant. Bob dydd, rwy'n dyst i bŵer cadarnhaol diwylliant. Mae hon yn weledigaeth a ddatblygwyd gyda'r sector ac ar ei chyfer, ac edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd i gyflawni'r Blaenoriaethau hyn.

Mae'r cyhoeddiad yn adeiladu ar gyflawniadau diweddar Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • cyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu fel Celf, oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru
  • symud ymlaen yn y gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd ac amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam
  • dyfarnu mwy na £5 miliwn ers 2022 i wneud casgliadau a mannau yn fwy cynhwysol
  • darparu bron i £3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith brys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, Caerdydd
  • buddsoddi dros £3.5 miliwn mewn gwasanaethau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol ers 2022
  • lansio cynllun grant Rheoli Casgliadau newydd, gan ddyfarnu dros £420,000 i wella safonau storio lleol a gofal casgliadau

Mae'r sector diwylliant eisoes wedi dechrau croesawu cyhoeddi'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru:

Dychmygwch Gymru lle mae pob amgueddfa leol yn ganolfan fywiog ar gyfer dysgu, gwirfoddoli a darganfod diwylliannol. Mae'r ddogfen Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer sector diwylliant cysylltiedig, gan sicrhau bod y sefydliadau amhrisiadwy hyn yn gallu parhau i gyfoethogi bywydau ac adeiladu ymdeimlad cryf o 'gynefin' i bawb.