Neidio i'r prif gynnwy

Os ti’n diddori, dos i bori.

Ymunwch â ni i ddathlu a hyrwyddo pleser darllen! Eleni, rydym yn annog ysgolion, teuluoedd, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr, cyrff diwylliannol, a phartneriaid cymunedol i wneud darllen yn rhan o fywyd bob dydd. 

Rydym yn cefnogi'r ymgyrch ledled y DU i annog darllen yn ei holl ffurfiau - llyfrau, e-lyfrau, llyfrau sain, adrodd straeon, a llawer mwy. Rydym yn croesawu unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i lythrennedd i fod yn rhan o’r ymgyrch.

Hwb: adnoddau llythrennedd
Hwb: adnoddau llythrennedd
Darparu adnoddau digidol ac offer dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad llythrennedd mewn ysgolion.
Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Mae llyfrgelloedd yn darparu mannau diogel, mynediad at lyfrau, a chymorth llythrennedd i gymunedau.
Cyngor Llyfrau Cymru
Cyngor Llyfrau Cymru
Gweithio gyda phartneriaid i annog, ysbrydoli a rhannu cariad at ddarllen.
Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol Cymru
Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol Cymru
Gweithio ledled De Cymru i feithrin cariad at ddarllen a meithrin sgiliau hanfodol i blant a theuluoedd.
Adnodd
Adnodd
Darparu adnoddau addysgol yn y Gymraeg a'r Saesneg i gefnogi addysgu a dysgu Cwricwlwm Cymru.

Cael cefnogaeth gan ein partneriaid

Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth (CILIP)

Hyrwyddo llyfrgelloedd a gweithwyr proffesiynol gwybodaeth sy'n cefnogi llythrennedd ar draws sectorau. Dysgwch fwy ar wefan CILIP.

Os ydych chi'n bartner neu'n rhanddeiliad yng Nghymru ac os hoffech ychwanegu eich gwefan at y rhestr uchod, anfonwch e-bost at dysg@llyw.cymru 

Sut allwch chi gymryd rhan

  • Sefydlu digwyddiadau darllen
  • Gweithio gyda'ch llyfrgell leol i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau 
  • Cynnal digwyddiad rhannu llyfrau
  • Bod yn rhan o raglenni partner fel Her Ddarllen yr Haf a fydd yn rhedeg o fis Gorffennaf i fis Medi mewn llyfrgelloedd lleol
  • Rhannwch eich hoff deitlau ac awgrymiadau darllen ar y cyfryngau cymdeithasol, neu dilynwch rai o'n sianeli 

Am fwy o syniadau dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Ffyrdd pellach o gymryd rhan 

Defnyddiwch ein logo i hyrwyddo’ch digwyddiadau. 

E-bostiwch dysg@llyw.cymru am gopi o’r logo a’r pecyn brand.

Ychwanegwch eich digwyddiad at galendr digwyddiadau Hwb.

I ychwanegu eich digwyddiadau at galendr Hwb, anfonwch e-bost at: