Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth diwydiant bwyd a diod Cymru barhau i ffynnu yn 2016 ac mae mewn sefyllfa dda i ymdopi ag unrhyw heriau a fydd yn ei wynebu yn y dyfodol. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn Abergavenny Fine Foods, sef cynhyrchydd caws gafr ffres mwyaf y DU, sy'n cyflogi 130 o staff ac a oedd â throsiant o £17.5 miliwn y llynedd.

Roedd trosiant sector Bwyd a Diod Cymru yn werth £6.1 biliwn yn 2015 ac mae'n argoeli'n dda iawn ar gyfer 2016 hefyd. Yn ystod chwe mis cyntaf 2016, roedd allforion bwyd a diod o Gymru yn werth £15.2 miliwn yn fwy nag yn ystod chwe mis cyntaf 2015.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod gynhwysfawr o raglenni i helpu cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i werthu mwy yma yng ngwledydd Prydan a hefyd yn y farchnad dramor. Mae'r cymorth hwnnw'n cynnwys cynnig cyngor un i un wedi'i deilwra'n benodol at ofynion unigol, nodi cyfleoedd yn y farchnad a helpu cwmnïau i ymweld â marchnadoedd tramor allweddol ac arddangos ynddynt.  

Yn 2016, parhaodd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod o'r safon uchaf o Gymru  mewn digwyddiadau masnachol rhyngwladol. Yn eu plith yr oedd SIAL ym Mharis ym mis Hydref, un o'r  arddangosfeydd arloesedd a masnach bwyd mwyaf yn y byd. Dros gyfnod o bedwar diwrnod, ymunodd Llywodraeth Cymru â phymtheg o'n cynhyrchwyr bwyd a diod gorau, a Hybu Cig Cymru hefyd, i hyrwyddo amrywiaeth eang o gynhyrchion uchel eu hansawdd, sy'n nodweddiadol o Gymru.

Yn 2016, aeth Llywodraeth Cymru ati hefyd am y tro cyntaf i dreialu cynllun arloesol ymhlith pump o glystyrau busnesau bwyd.  Erbyn hyn, mae dros 380 o gwmnïau yn ymwneud â'i gilydd mewn ffyrdd nad oeddent yn gwneud o'r blaen. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun peilot hwn, mae aelodau'r grŵp, drwy fynd ati i glystyru, wedi creu o leiaf hanner miliwn o bunnoedd o incwm ychwanegol.

Cafodd enw da'r diwydiant hwb eleni hefyd pan gafodd ddau o gynhyrchion eiconig Cymru, sef Cregyn Cleision Conwy a Ham Caerfyrddin, statws Enw Bwyd a Ddiogelir gan yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN). Bu Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r ddau gwmni yn ystod y broses ymgeisio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Cafodd diwydiant bwyd a diod Cymru flwyddyn lwyddiannus arall yn 2016 ac rydyn ni dros hanner ffordd yn barod at gyrraedd ein targed o sicrhau twf o 30% erbyn 2020. Mae hynny'n tystio i'r amrywiaeth ryfeddol o gynhyrchwyr hynod arloesol fel Abergavenny Fine Foods a hefyd i'r gwaith rydyn ni fel Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant.

"Wrth gwrs, y Fenni hefyd yw cartref un o'n gwyliau bwyd blaenllaw. Mae Gŵyl Fwyd y Fenni yn dal i fod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Byddwn ni'n parhau i gefnogi Gwyliau Bwyd er mwyn arddangos, hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion o Gymru. Maen nhw'n ffordd i gynhyrchwyr bach ddysgu am fanwerthu wrth iddyn nhw fynd ati i ddatblygu eu busnesau.

"Wrth gwrs, bydd dyfroedd garw o'n blaenau yn y blynyddoedd sydd i ddod, wrth inni wynebu dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae allforion yn werth £260 miliwn i'r diwydiant, ac mae bron 90% o'r allforion hynny'n mynd i wledydd yr UE. Mae'r heriau'n gwbl amlwg ond dylen ni achub ar y cyfle 'nawr i atgyfnerthu'r marchnadoedd sydd gennym yn yr UE ac i ddatblygu marchnadoedd newydd y tu allan iddo.

“Wrth inni droi ein golygon at 2017, mae'n galonogol gweld bod y sector mewn sefyllfa dda i oresgyn yr heriau a fydd yn ei wynebu yn y dyfodol.  Mae'r digwyddiad 'Blas ar Gymru’, a fydd yn cael ei gynnal yn y Celtic Manor ym mis Mawrth, yn un arbennig o gyffrous. Dyma'r digwyddiad bwyd rhyngwladol cyntaf i'w gynnal yng Nghymru, a bydd yn ffenestr siop ar gyfer prynwyr a buddsoddwyr rhyngwladol. Mae'n gyfle heb ei ail inni amlinellu sut rydyn ni'n mynd ati i ddefnyddio'n hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy ac i werthu'n cynhyrchion arloesol i'r byd. 

Os ydych chi'n gwmni sy'n meddwl y gallwch elwa o gymorth i ddatblygu’ch allforion, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu drwy ebostio bwyd-food@wales.gsi.gov.uk.