Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r prosiect hwn yn edrych ar y ffordd mae boddhad â gwasanaethau cyhoeddus yn amrywio ar draws y boblogaeth, a’r nodweddion, agweddau a phrofiadau sy'n egluro'r amrywiad hwn.

Canfyddiadau allweddol

Mae boddhad â'r system addysg yng Nghymru yn cael ei effeithio'n sylweddol gan ganfyddiadau rhieni am berfformiad ysgolion eu plant eu hunain - sy'n awgrymu y gallai gwella canfyddiadau am berfformiad ar y lefel hon gael effaith amlwg ar foddhad ag addysg yn gyffredinol.

Ar ôl cymryd ffactorau eraill i ystyriaeth, canfuwyd y gellid egluro boddhad â gwasanaethau awdurdodau lleol drwy’r farn ar gynnal a chadw'r ardal leol – ond hefyd drwy’r farn am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dosbarthu gwybodaeth am eu perfformiad.

Ar draws y bwrdd, mae cysylltiad cyson rhwng teimlo gwerth chweil neu’n hapus a lefelau uwch o foddhad. Mae mwy o addysg fel rheol yn gysylltiedig â lefelau is o foddhad â darpariaeth gwasanaethau, tra bod nodweddion fel bod yn ddi-waith neu o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn dueddol o ragfynegi lefelau uwch o foddhad.

Mewn cyd-destun Ewropeaidd, mae boddhad â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gymharol uchel – gyda’r boddhad cyfartalog â'r llywodraeth genedlaethol y 4ydd uchaf yn Ewrop, a lefelau boddhad â gwasanaethau addysg ac iechyd yn 7fed ac yn 8fed yn eu tro. Mae lefelau boddhad hefyd yn dueddol o fod yn uwch na'r rhai a adroddwyd yn y Deyrnas Unedig yn gyfan.

Adroddiadau

Boddhad cyffredinol â gwasanaethau cyhoeddus (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.