Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r prosiect hwn yn edrych i weld pa ffactorau sy'n egluro orau'r farn am wasanaethau awdurdodau lleol.

Canfyddiadau allweddol

Roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys nifer o gwestiynau ynghylch barn pobl am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan eu hawdurdod lleol.

  • Dywedodd 57% bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
  • Doedd bron i chwarter (23%) ddim yn credu bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, a doedd dau o bob pump (37%) ddim yn credu bod yr awdurdod yn dda am hysbysu pobl leol sut mae'n perfformio.
  • Doedd un mewn pump (19%) ddim yn credu bod eu hardal leol yn cael ei gynnal yn dda.
  • Doedd saith o bob deg (70%) ddim yn credu bod modd iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol.

Ar ôl ystyried ffactorau eraill, canfuwyd bod modd egluro boddhad â gwasanaethau awdurdodau lleol drwy agweddau at gynnal yr ardal leol - ond hefyd drwy farn am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dosbarthu gwybodaeth am eu perfformiad. Mae hyn yn awgrymu bod rhoi gwybodaeth i bobl yn hanfodol ar gyfer codi lefelau boddhad.

Adroddiadau

Boddhad â gwasanaethau awdurdodau lleol (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.