Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Bord Gron Urddas Mislif.

Diben y grŵp

Swyddogaeth y Ford Gron fydd goruchwylio gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o’r Mislif a chynnig cyngor ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru ar faterion brys a rhai ar y gorwel sy'n cael effaith ar  urddas mislif yng Nghymru.

Amcanion

Cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif ac ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg sy’n adlewyrchu effaith barhaus pandemig COVID-19 a’r adferiad ohono, a'r argyfwng costau byw.

Craffu ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif a nodi unrhyw rwystrau i gynnydd.

Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth i gynorthwyo i gyflawni a monitro Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif. Ymgynghori â rhwydweithiau ac aelodaeth ehangach i helpu i nodi a deall rhwystrau dybryd y mae pobl yn eu profi sy’n llesteirio urddas mislif, ynghyd â rhwystrau sy’n datblygu.

Darparu cymorth a chyngor arbenigol i Weinidogion i ddeall y rhwystrau dybryd sy’n llesteirio urddas mislif, ynghyd â rhwystrau sy’n datblygu a darparu enghreifftiau ymarferol o sut i oresgyn rhwystrau o'r fath.

Sicrhau bod unrhyw ystyriaeth o urddas mislif yn cynnwys y croestoriad rhwng rhyw, hil, anabledd, bod yn LHDTC+ a nodweddion gwarchodedig eraill, a'i fod yn gynhwysol ac yn wrth-wahaniaethol.

Cefnogi Llywodraeth Cymru i ystyried cysylltiadau â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19. Ystyrir hefyd gysylltiadau â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru ar iechyd, addysg, trafnidiaeth a'r economi.

Nodi meysydd posibl ar gyfer ymchwil i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau a rhaglenni yn y dyfodol.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n cymryd rhan yn y ford gron yn cyfrannu at drafodaethau ar sail eu harbenigedd a'u profiad. Byddant yn ystyried y materion sy'n codi mewn perthynas â'u meysydd polisi ac yn rhoi cyngor yn ôl yr angen, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn camau a ddyrennir iddynt yng Nghynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif, ac yn adrodd yn ôl i gydweithwyr polisi ar unrhyw feysydd lle y gellid datblygu neu ddiwygio polisïau neu raglenni er mwyn hyrwyddo urddas mislif yn well.

Trefniadau gwaith y grŵp

Bydd Bord Gron Urddas Mislif yn cael ei chadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Bydd Bord Gron Urddas Mislif yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.

Bydd papurau yn cael eu cyhoeddi o leiaf dri diwrnod gwaith cyn unrhyw gyfarfod.

Bydd cofnodion yn cael eu cyhoeddi o fewn pythefnos i'r cyfarfod.

Bydd y cylch gorchwyl hwn yn cael ei adolygu bob 12 mis gan dîm Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Ford Gron i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn berthnasol dros amser.

Cyhoeddi dogfennau

Bydd agendâu, papurau a chofnodion cyfarfodydd ar gael ar gais ar ffurf copi caled neu fformatau eraill.

Trefniadau mynediad

Os oes gan aelodau unrhyw ofynion penodol i'w galluogi i gymryd rhan lawn mewn cyfarfod, fel: lle parcio hygyrch, dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gofyniad am iaith arall, deunydd mewn fformat arall, system dolen sain, neu unrhyw ofyniad arall, rhowch wybod i'r Ysgrifenyddiaeth cyn gynted â phosibl a byddwn yn ymdrechu i fodloni eich gofynion.

Mae pob papur cyfarfod i'w ddosbarthu ymlaen llaw a'i ddarparu mewn fformat hygyrch.