Neidio i'r prif gynnwy

Esboniad o’r meini prawf sydd i'w defnyddio i nodi pobl sy'n ddigartref yng ngrŵp blaenoriaeth 6 ar gyfer y brechiad COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol ym mis Ionawr 2021 yn nodi sut y caiff y rhaglen frechu yng Nghymru ei chyflwyno mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Mae'r strategaeth yn esbonio'r grwpiau o bobl sy’n flaenoriaeth i gael eu brechu, gan ddilyn rhestr Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol y DU sy’n nodi cyflyrau y cytunwyd i'w blaenoriaethu ar gyfer brechu. Mae pob un o'r pedair gwlad yn y DU yn gweithredu yn yr un modd. Mae rhestr y Cyd-bwyllgor yn Atodiad 1.

Mae'r rhestr yn blaenoriaethu'r unigolion hynny y mae'r data wedi dangos eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef salwch difrifol yn sgil COVID-19. Nod blaenoriaethu pobl ar gyfer y brechlyn yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty a nifer y marwolaethau.

Yn aml, bydd gan bobl sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref ddisgwyliad oes is na'r cyfartaledd, bydd eu hiechyd corfforol yn debycach i iechyd corfforol person llawer hŷn, a bydd ganddynt broblemau iechyd corfforol a meddyliol sylweddol. Mae'r gwendidau iechyd hyn, ynghyd â'r risgiau sy'n gysylltiedig â lleoliadau cymunedol fel llety argyfwng neu lety â chymorth, yr anawsterau o ran glynu wrth gyfyngiadau Covid-19, a’r materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, trawma a defnyddio sylweddau, yn rhoi rhesymeg dros eu blaenoriaethu ar gyfer y brechiad fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.

Gall fod yn anodd nodi pobl sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref drwy edrych ar gofnodion iechyd ac mae’n bosibl na fyddem yn dod o hyd i rai unigolion sy’n eithriadol o agored i Covid-19 yn glinigol. Bydd darparwyr Gwasanaethau Digartrefedd bob amser yn ceisio helpu'r bobl y maent yn eu cefnogi i gofrestru â gwasanaethau iechyd. Fodd bynnag, mae pryderon sylweddol na fydd llawer o bobl sy'n ddigartref wedi’u cofrestru, neu na fydd ganddynt gofnodion iechyd cyfredol, oherwydd eu bod wedi treulio amser ar y strydoedd, wedi symud ar draws rhannau gwahanol o Gymru (neu'r DU) a/neu’n ofni neu’n ddrwgdybus o wasanaethau.

Mae'n debygol iawn y gall llawer o bobl sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref fod yn gymwys ar gyfer grŵp blaenoriaeth 4 neu 6 beth bynnag, ond mae’n bosibl nad yw’r gwasanaethau iechyd yn gwybod amdanynt felly efallai na fyddant yn cael cynnig y brechlyn. Ein dull gweithredu cenedlaethol yw sicrhau na fydd neb yn cael ei golli na’i adael ar ôl.

Cydnabyddir hefyd na fyddai pawb sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref yn gymwys yn awtomatig i gael brechiad mewn grŵp blaenoriaeth penodol. Fodd bynnag, o ystyried y sylfaen dystiolaeth gadarn o'r effeithiau iechyd ar y boblogaeth ddigartref, rydym yn mabwysiadu'r egwyddor o fod yn fwy cynhwysol, yn hytrach nag yn llai cynhwysol, er mwyn osgoi colli'r bobl hynny sy'n agored i niwed ac a ddylai gael eu brechu.

Cefnogi'r broses o nodi pobl ar gyfer brechu

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull cynhwysol o nodi’r rhai sy’n ddigartref neu sydd wedi bod yn ddigartref. Rydym yn disgwyl i hyn arwain at flaenoriaethu mwy o unigolion o dan grŵp blaenoriaeth 6 nag a fyddai efallai wedi’u blaenoriaethu pe bai canllawiau’r Cyd-bwyllgor yn cael eu dehongli’n gaeth. Rydym yn rhoi disgresiwn i ymarferwyr sicrhau nad oes neb sy'n agored i niwed yn y grwpiau hyn yn cael ei golli na’i adael ar ôl.

Mae’r Byrddau Iechyd yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen frechu gan weithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys meddygon teulu, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector.

Gall y Byrddau Iechyd ddefnyddio gwybodaeth leol darparwyr digartrefedd a darparwyr cymorth tai trydydd sector, celloedd cydgysylltu digartrefedd awdurdodau lleol ac arweinwyr grantiau cymorth tai, cyrff sy'n cynrychioli darparwyr cymorth a, lle bo'n briodol, gwasanaethau arbenigol megis gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, i nodi’r bobl sy'n gymwys i gael eu hychwanegu at restr y grŵp blaenoriaeth 6.

Bydd cyflogi disgresiwn proffesiynol ar draws y timau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hystyried o ran cwmpas yn cael eu nodi a'u cyflwyno i'w brechu tra hefyd yn helpu i ostwng unrhyw achosion posibl o gamddefnyddio’r system. Hefyd, efallai y bydd angen disgresiwn clinigol i ychwanegu unigolion at grŵp blaenoriaeth 6, a all fod yn gymwys ond nad ydynt wedi'u rhestru ar y system genedlaethol.

Wrth ddefnyddio barn broffesiynol ac unrhyw ddisgresiwn clinigol, bydd y ffactorau risg canlynol yn ddefnyddiol i'w hystyried:

  • agored i niwed yn glinigol ac eiddilwch 
  • presenoldeb cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes / sy'n cyd-ddigwydd a lefel cymhlethdod y cyflyrau iechyd hynny
  • ethnigrwydd
  • ffactorau economaidd-gymdeithasol
  • math o lety: byw mewn lleoliad cymunedol, er enghraifft, mewn llety dros dro â chymorth neu argyfwng
  • methu â chadw’n gyson at arferion amddiffynnol fel cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg a hylendid dwylo (o bosibl oherwydd trawma, problemau iechyd meddwl a materion sy’n ymwneud â defnyddio sylweddau)
  • y gallu i gadw at drefn triniaethau a goddef ymyrraeth 

Mae'r dull cyfunol hwn o nodi pobl yn cyd-fynd â'r dulliau sy'n cael eu gweithredu yng ngwledydd eraill y DU.

Cefnogi cyfradd uchel o ran derbyn brechiad

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell rhoi’r brechlyn i bobl ddigartref yn y mannau lle maent yn byw yn bennaf, yn hytrach na disgwyl i bobl sydd wedi profi digartrefedd fynd i ganolfannau brechu torfol. 

Mae’r Ganolfan Atal a Rheoli Clefydau wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol sy'n cydnabod yr anawsterau y mae pobl sy'n profi digartrefedd yn eu cael wrth geisio mynediad at wasanaethau meddygol mewn lleoliadau traddodiadol. Maent yn argymell y

dylai cynlluniau i ddosbarthu’r brechlyn gynnwys strategaethau i ddod â brechlynnau i bobl sy'n profi digartrefedd, gan gynnwys safleoedd gwasanaethau i’r digartref fel llochesi, canolfannau dydd, neu leoliadau gwasanaeth bwyd.

Pan fo tîm brechu yn brechu mewn lleoliad, dylai pawb sy’n gymwys gael eu brechu yr un pryd, yn hytrach nag chynnal sawl ymweliad. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd i’r Byrddau Iechyd a bydd hefyd yn helpu i sicrhau ymddiriedaeth a hyder ymysg y preswylwyr a’u staff cymorth. Mae gan hyn y potensial hefyd i sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn yr ail ddos. Fodd bynnag, yn sgil natur grwydrol y boblogaeth, efallai y bydd angen ymweliadau ychwanegol felly bydd dull pragmatig a hyblyg yn ofynnol.

Fodd bynnag, mae’n bosibl weithiau y bydd pobl sydd wedi profi digartrefedd yn gallu mynd i ganolfannau brechu torfol neu feddygfeydd (os ydynt wedi'u cofrestru). Dylid hefyd ystyried defnyddio lleoliadau clinigol eraill, megis clinigau gofal iechyd eilaidd, er mwyn hwyluso mynediad i grwpiau sy'n agored, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu brechu.

Felly, gall dull cyfunol fod yn briodol ond bydd angen disgresiwn a hyblygrwydd lleol ar draws y Byrddau Iechyd, yr awdurdodau lleol a’r darparwyr cymorth. 

Dylid ystyried beth fydd y ffordd fwyaf effeithiol o gyfleu manteision y rhaglen frechu i bobl sydd wedi profi digartrefedd cyn i'r tîm brechu ymweld â'r lleoliad, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel awdurdodau lleol a darparwyr cymorth.

Ni ddylid ystyried bod unigolyn o’r grŵp hwn wedi ‘optio allan’ o gael y brechlyn oni bai fod gwybodaeth glir yn dangos bod yr unigolyn wedi dewis peidio â chael ei frechu. Bydd ei benderfyniad, gystal â phosibl, yn cael ei ystyried yn benderfyniad ar sail gwybodaeth. Dylid ystyried bod trawma, problemau iechyd meddwl a/neu ddefnyddio sylweddau yn effeithio ar ei benderfyniad. Bydd ein dull cenedlaethol o beidio â gadael neb ar ôl yn hollbwysig i sicrhau bod y rhai sydd wedi profi digartrefedd yn cael cyfleoedd pellach i elwa ar y rhaglen frechu.

Bydd angen dod o hyd i addasiadau rhesymol a’u rhoi ar waith i gefnogi unigolion a rhoi’r hyder iddynt fynd i gael eu brechu; dylai hyn gynnwys ystyried dewisiadau'r unigolyn a/neu'r teulu pan fo hynny’n bosibl.

Efallai y bydd rhai pobl sydd wedi profi digartrefedd a thrawma yn ei chael yn anodd ymgysylltu â gwasanaethau anghyfarwydd, ond eu bod yn ymddiried yn eu gweithwyr cymorth. Dylai’r Byrddau Iechyd weithio gyda darparwyr cymorth trydydd sector er mwyn adeiladu ar y cysylltiadau hyn, magu hyder yn y broses a chynyddu nifer y bobl sy’n derbyn y brechlyn.

Atodiad 1: Y Rhestr Flaenoriaeth o Bobl i gael y Brechlyn gan Gyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol y DU

Dilynir y rhestr flaenoriaeth hon gan bedair gwlad y DU.

Mae'r rhestr yn blaenoriaethu'r unigolion hynny y mae'r data wedi dangos eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Nod blaenoriaethu pobl ar gyfer y brechlyn yw lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty a nifer y marwolaethau.

  1. Pobl sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn a'u staff gofalu.
  2. Pawb sy’n 80 mlwydd oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
  3. Pawb sy'n 75 mlwydd oed a hŷn.
  4. Pawb sy'n 70 mlwydd oed a hŷn a phobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol (sef y grŵp "gwarchod") – bydd pawb yn y grŵp hwn wedi cael llythyr yn flaenorol gan y Prif Swyddog Meddygol yn eu cynghori i warchod eu hunain.
  5. Pawb sy'n 65 mlwydd oed a hŷn.
  6. Pawb sydd rhwng 16 a 64 mlwydd oed sydd â chyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes(1), sy'n golygu eu bod mewn mwy o berygl o salwch difrifol a marwolaeth.
  7. Pawb sy'n 60 mlwydd oed a hŷn.
  8. Pawb sy'n 55 mlwydd oed a hŷn.
  9. Pawb sy'n 50 mlwydd oed a hŷn.

(1) Cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes:

  • clefyd anadlol cronig, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), ffeibrosis systig ac asthma difrifol
  • clefyd cronig y galon (a chlefyd fasgwlaidd)
  • clefyd cronig yn yr arennau
  • clefyd cronig yr afu
  • clefyd niwrolegol cronig, gan gynnwys epilepsi
  • anabledd dysgu difrifol a dwys
  • diabetes
  • pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ solet, mêr esgyrn neu fôn-gell
  • pobl sydd â mathau penodol o ganser
  • gwrthimiwnedd oherwydd clefyd neu driniaeth
  • asplenia a chamweithrediad y ddueg
  • gordewdra afiachus
  • salwch meddwl difrifol