Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n gymwys i gael brechiadau rheolaidd a ble i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Brechlyn niwmococol

Gall heintiau niwmococol arwain at glefydau difrifol megis sepsis a llid yr ymennydd. Mae'r heintiau mwyaf difrifol yn tueddu i godi ymhlith:

  • plant
  • pobl hŷn
  • pobl â chyflyrau iechyd penodol 

Mae’r brechlyn niwmococol yn frechlyn diogel sy'n gallu helpu i atal rhai o'r mathau difrifol o heintiau niwmococol.

Pwy sy'n gymwys

Rydym yn cynnig brechlyn niwmococol i:

  • bobl 65 oed a throsodd 
  • plant o dan 2 oed, fel rhan o'u brechiadau rheolaidd 
  • rhai unigolion â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk) 

Mae modd i bobl sy'n gymwys gael y brechlyn niwmococol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gallwch drefnu i gael y brechlyn drwy eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Brechlyn yr eryr

Ers 1 Medi 2023, mae’r rhaglen brechu rhag yr eryr wedi cael ei hymestyn yng Nghymru i ddechrau diogelu unigolion o oedran iau.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn cynghori y dylai’r rhaglen genedlaethol i frechu rhag yr eryr gynnwys:

  • unigolion sydd â system imiwnedd sy’n gallu cynhyrchu ymateb priodol, a hynny fel mater o arfer pan fyddant yn 60 oed
  • unigolion sydd ag imiwnedd gwan sy’n 50 oed ac yn hŷn

Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i gael eu brechu i’w gweld yn y Llyfr Gwyrdd ar imiwneiddio - Pennod 28a yr eryr (publishing.service.gov.uk).  

Yr amserlen ar gyfer newid y rhai sy’n gymwys i gael eu brechu

Fel mewn ardaloedd eraill o’r DU, bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno mewn dau gam yng Nghymru. Am gyfnod o bum mlynedd, bydd y rheini sy’n troi’n 65 oed a’r rheini sy’n troi’n 70 oed yn cael eu brechu. Am gyfnod o bum mlynedd arall wedi hynny, bydd y rheini sy’n troi’n 60 oed a’r rheini sy’n troi’n 65 oed yn cael eu brechu. Wedi hynny, bydd y rheini sy’n troi’n 60 oed yn cael cynnig brechiad fel mater o drefn.

Mae’r brechiad rhag yr eryr ar gael mewn meddygfeydd yng Nghymru. Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i drefnu apwyntiad pan fyddwch yn dod yn gymwys i gael eich brechu. Os na fyddant yn cysylltu â chi, neu efallai y byddwch yn meddwl eich bod wedi methu’r gwahoddiad, cysylltwch â nhw a dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl y dylech gael eich brechu rhag yr eryr.

Mae’r eryr yn gallu taro unigolion o unrhyw oed. Ond mae’r risg, a pha mor ddifrifol fydd y salwch ac unrhyw gymhlethdodau yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hŷn – mae hyn yn arbennig o wir yn achos unigolion sydd ag imiwnedd gwan. Mae’n bwysig sicrhau bod y rheini sydd yn y perygl mwyaf yn cael eu brechu, a dyma’r rheswm pam rydym ni yng Nghymru yn gweithredu cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

I gael gwybod rhagor am y brechiad rhag yr eryr neu am y clefyd y mae’r brechiad yn diogelu pobl rhagddo, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.