Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Dyddiad cyhoeddi: 

21 Rhagfyr 2023. (Diwygiwyd Mehefin 2024).

Statws:

Cydymffurfio/Gweithredu

Categori:

Iechyd y cyhoedd

Teitl:

Brechlynnau ffliw a charfannau cymwys ar gyfer tymor 2024 i 2025.

Dyddiad dod i ben / adolygu: 

Amherthnasol.

Angen gweithredu gan:

Brif Weithredwyr, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Arweinwyr Imiwneiddio Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cydgysylltwyr Imiwneiddio, Byrddau Iechyd
Arweinwyr Gweithredol Brechu, Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd
Cyfarwyddwyr Meddygol, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd
Prif Fferyllwyr, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Mamolaeth, Byrddau Iechyd
Cyfarwyddwyr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyfarwyddwr Nyrsio, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyfarwyddwr Cynllunio, Rhaglen Frechu Cymru
Ymarferwyr Cyffredinol
Fferyllwyr Cymunedol
Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Er gwybodaeth i:

Fforwm Partneriaeth GIG Cymru
Cyngor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu
Y Coleg Nyrsio Brenhinol
Coleg Brenhinol y Bydwragedd
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Cymdeithas Ddeintyddol Prydain
Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
Fferylliaeth Gymunedol Cymru
Arolygiaeth Gofal Cymru
Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'w anfon ymlaen at:
Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdurdodau Lleol
Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd, Awdurdodau Lleol
Cyfarwyddwyr Addysg, Awdurdodau Lleol
Gofal Cymdeithasol Cymru
Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Angen gweithredu erbyn:

Amherthnasol.

Anfonwr: 

Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Yr Is-adran Frechu, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: llc.timyrhaglenfrechu@llyw.cymru

Dogfennau amgaeedig: 

Dim

Hysbysrwydd

Annwyl Gydweithwyr,

Mae'r Cylchlythyr Iechyd Cymru diwygiedig hwn yn disodli’r fersiwn a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2023 ac yn cael ei gyhoeddi i gadarnhau'r canlynol:

  • y carfannau cymwys ar gyfer tymor y ffliw 2024 i 2025
  • brechlynnau ad-daladwy ar gyfer tymor y ffliw 2024 i 2025 (gan gynnwys newidiadau ers y fersiwn flaenorol o’r cylchlythyr Iechyd hwn)
  • newidiadau i amser dechrau'r rhaglen frechu rhag y ffliw ar gyfer oedolion 2024 i 2025 (ac eithrio menywod beichiog).

Carfannau cymwys ar gyfer tymor y ffliw yn 2024 i 2025

Nid yw'r JCVI wedi argymell unrhyw newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd a ddefnyddiwyd ar gyfer rhaglen 2023 i 2024. Felly, dyma'r grwpiau sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw fel rhan o raglen ffliw genedlaethol arferol 2024 i 2025:

  • plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024
  • plant oedran ysgol, o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 (yn gynhwysol)
  • unigolion chwe mis oed i 64 oed mewn grŵp risg glinigol 
  • pobl 65 oed a hŷn (oedran ar 31 Mawrth 2025)
  • pob oedolyn yng ngharchardai Cymru
    menywod beichiog
  • gofalwyr person y gallai ei iechyd neu les fod mewn perygl os bydd y gofalwr yn mynd yn sâl
  • gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
  • pobl sy'n ddigartref
  • cysylltiadau aelwyd lle mae rhywun sydd ag imiwnedd gwan 

Brechlynnau ad-daladwy yn 2024 i 2025

Gan ystyried y brechlynnau a argymhellwyd gan y JCVI ar gyfer tymor y ffliw 2024 i 2025, bydd y brechlynnau sy'n gymwys i gael ad-daliad yng Nghymru ar gyfer y gwahanol garfannau oedran fel a ganlyn:

Pobl 65 oed a hŷnt 

Pobl 18 oed – o dan 65 oed (gan gynnwys menywod beichiog)

  • QIVc
  • QIV HD (pobl 60 oed a throsodd yn unig)  

Plant 2 oed – o dan 18 oed sydd wedi cael eu cynghori yn erbyn/sy'n gwrthod LAIV

  • QIVc

Plant chwe mis oed – 2 oed mewn grwpiau risg glinigol

  • QIVc

Allwedd:

aQIV - brechlyn ffliw pedwarfalent sy'n cynnwys cyffur ategol
QIVc - brechlyn ffliw pedwarfalent a feithrinwyd mewn celloedd
QIV-HD - brechlyn ffliw anweithredol pedwarfalent dos uchel

Mae'r cylchlythyr Iechyd Cymru diwygiedig hwn yn cael ei gyhoeddi yn dilyn hysbysiad gan wneuthurwr brechlyn QIVr – y brechlyn ffliw pedwarfalent ailgyfunol  - na fydd y cynnyrch hwn ar gael yn ôl y disgwyl yn y DU ar gyfer tymor 2024 i 2025 [Troednodyn 4]. Dylid cyflwyno archebion ar gyfer dewis arall priodol cyn gynted â phosibl.  Bydd Rhaglen Frechu Cymru yn gweithio'n agos gyda’r byrddau iechyd i gefnogi contractwyr sydd wedi eu heffeithio gan y newid hwn.  Dylai practisau cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol a byrddau/ymddiriedolaethau iechyd sicrhau bod archebion ar gyfer breclynnau ffliw yn ddigonol i hwyluso sefyllfa o alw uchel.

Brechlyn ffliw byw wedi'i wanhau (LAIV) yw'r brechlyn sy'n cael ei argymell i'w ddefnyddio ar gyfer pob plentyn cymwys 2-17 oed, oni bai eu bod wedi cael eu cynghori yn erbyn hynny neu yn ei wrthod oherwydd ei fod yn cynnwys gelatin. Os oes angen i rywun gael triniaeth lle mae llai o ymyrryd, sef angen a bennir yn un clinigol, e.e. ar gyfer rhai oedolion ag anabledd dysgu, gellir ystyried defnyddio LAIV yn addasiad rhesymol (gweler yma am fwy o fanylion). Mae LAIV yn cael ei gyflenwi'n ganolog, a bydd ar gael i'w archebu trwy ImmForm.

Newidiadau i amser dechrau rhaglen frechu 2024 i 2025

Mae JCVI wedi cynghori'n ddiweddar fod y dystiolaeth ar effeithiolrwydd brechu yn cefnogi'r achos dros symud dechrau'r rhaglen frechu ffliw ar gyfer oedolion i ddechrau mis Hydref. Mae'r pwyllgor wedi argymell na ddylid newid amser dechrau'r rhaglen i blant gan fod y dystiolaeth yn dangos mai brechu plant yn gynnar sy'n darparu'r amddiffyniad gorau rhag trosglwyddo. 

Mae wedi argymell hefyd y dylid parhau i frechu menywod beichiog  ym mis Medi, os bydd oedi tan fis Hydref yn golygu y byddant mewn perygl o golli'r cyfle i gael eu brechu.

Yng ngoleuni cyngor y pwyllgor, byddwn yn mabwysiadu dull graddol  ar gyfer cychwyn y rhaglen frechu rhag y ffliw yn 2024 fel a ganlyn:

  • Yn ystod mis Medi, dylai practisau cyffredinol a byrddau iechyd ganolbwyntio eu hymdrechion ar sicrhau bod cynifer â phosibl yn manteisio ar y rhaglen i blant, ymhlith plant oed ysgol a phlant 2 a 3 oed.
  • Dylai'r brif raglen frechu i oedolion gychwyn ddechrau mis Hydref a chael ei gweithredu'n gyflym, gyda disgwyliad y dylid fod wedi cynnig brechiad i bob person cymwys erbyn dechrau mis Rhagfyr.

Os nad oes gan gontractwr gofal sylfaenol hyder y bydd yn bosibl brechu ei garfan gyfan o oedolion cymwys rhwng mis Hydref a dechrau mis Rhagfyr, dylai roi gwybod i'w fwrdd iechyd.  Yn yr achos hwn, gall y bwrdd iechyd gytuno i ddechrau brechu ym mis Medi, yn hytrach na bod perygl o fethu â chwblhau'r rhaglen mewn modd amserol.

Mae'r rhaglen frechu rhag y ffliw yn elfen hanfodol o'n trefniadau cynllunio a chydnerthedd yn y gaeaf.  Rwyf wedi cael fy siomi o weld nifer llai na'r disgwyl yn manteisio ar y cyfle i gael eu brechu o dan raglen 2023/24, ac rwy'n gobeithio y bydd y manylion a nodir uchod yn helpu cydweithwyr i ddatblygu cynlluniau effeithiol i sicrhau bod rhaglen 2024 i 2025 yn llwyddiannus.

Yn olaf, hoffwn ddiolch yn ddiffuant am yr holl waith caled sy'n cael ei wneud i weithredu ein rhaglenni brechu, gan ddarparu amddiffyniad hanfodol i ddinasyddion cymwys ac i'n gwasanaeth iechyd trwy fisoedd y gaeaf.

Yn gywir,

Syr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru

Troednodiadau

[1] Gellir cynnig aQIV 'oddi ar label' i'r rhai sy'n dod yn 65 oed cyn 31 Mawrth 2025.

[2] Nid oedd QIV-HD ar gael yn y DU o'r blaen ond mae’r gweithgynhyrchwyr wedi cadarnhau y bydd yn awr ar gael ar gyfer 2024 i 2025.

[3] Wrth farnu a yw brechlyn 'ar gael' ai peidio, dylid cael cydbwysedd rhwng y farn glinigol a'r sefyllfa weithredol. Dylid pwyso a mesur yr oedi posibl o ran dod o hyd i'r brechlyn a ffefrir (oherwydd prinder dros dro neu leol neu fethiant swp cenedlaethol) yn erbyn yr amddiffyniad a roddir gan y brechlyn amgen. Wrth wneud y penderfyniad hwn, byddai sefyllfa feirws y ffliw ar y pryd yn ffactor – a yw’n cylchredeg neu ar fin taro.

[4] Argymhelliad JVCI oedd defnyddio QIVr ar gyfer brechu pobl 18 oed a throsodd a nodwyd bod y cynnyrch hwn yn gymwys ar gyfer ad-daliad yn fersiwn flaenorol y Cylchlythyr Iechyd Cymru hwn.